Skip page header and navigation

Jon Langstone

Profiad Jon yn PCYDDS

John Langstone in a hard hat and respirator face mask; standing in front of scaffolding, he holds up a piece of stone tracery with both hands.

Enw: Jon Langstone

Cwrs: BSc (Anrh) Rheolaeth Adeiladu

Astudiaethau Blaenorol: Peirianneg a Charegwaith 

Tref eich cartref: Abertawe

Profiad Jon ar BSc Rheolaeth Adeiladu

Jon Langstone standing with one hand in his pocket and the other resting on the corner of a metre-high coat of arms in newly carved stone.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roedd y campws yn lleoliad delfrydol i mi, ger lan y môr, yn hygyrch i lwybrau beiciau sy’n ymestyn yr holl ffordd i’r Mwmbwls o SA1. Hefyd, roedd y cyfleusterau’n lân o hyd, a’r llyfrgell.  

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS oherwydd fy mod wedi darllen bod eu dosbarthiadau’n fach, bod gan y staff brofiad yn y maes roeddwn i’n ei astudio i ddilyn gyrfa mewn (Adeiladu), a bod y cyfle o ddiogelu rôl i raddedigion ar ôl graddio yn dda. Darganfûm fod hyn i gyd yn wir. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yn unig riant, roeddwn yn treulio fy amser rhydd tu allan i’m hastudiaethau yn cerdded y ci, coginio a darllen digonedd. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Cefais swydd i raddedigion mewn cwmni ymgynghori adeiladau peirianneg a rheoli prosiectau amlochrog yng Nghaerdydd. Rwy’n mwynhau fy rôl newydd yn fawr fel rheolwr prosiect graddedig yn Burroughs. Rwy’n gyfrifol am gefnogi’n weithredol y tîm rheoli prosiect a thimau peirianneg dilynol wrth ddarparu prosiectau mawr a chymhleth yn llwyddiannus ar draws y DU ac weithiau tu hwnt – sef yn union beth roeddwn i’n gobeithio ei wneud, cyn graddio.

Rhoddodd y cwrs a wnes i yn PCYDDS y sgiliau sylfaenol roedd arna’i eu hangen i’m helpu i ffocysu ar ddysgu’r wybodaeth fanwl sydd ei hangen i ragori yn fy rôl. Hyd yn oed blwyddyn yn ddiweddarach, mae’r darlithwyr a ddatblygais berthynais gyda nhw yn dal i allu ateb ambell gwestiwn sydd gen i.

Yn benodol, darganfûm fod staff PCYDDS yn dda iawn am baratoi israddedigion i fynd i’w dewis ddiwydiannau gyda hyder a chyffro.  

Beth oedd eich hoff beth am BSc Rheolaeth Adeiladu?

Yn bersonol, gwnes i fwynhau pa mor bersonol yw’r cwrs yn gyffredinol. Gwnaeth y dosbarthiadau bach ganiatáu i mi gwestiynu fy narlithwyr yn haws, ac yna fe helpodd hyn i mi ddysgu llawer mwy o wybodaeth, yn hytrach na strwythur dysgu mwy unigol. 

Jon Langstone wearing an academic gown, golden hood, and mortarboard hat.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS yn gryf, yn arbennig i unrhyw un sy’n meddwl am fod yn rhan o’r diwydiant adeiladu. Roedd gan bob darlithydd oedd gen i wahanol ddull addysgu a gwahanol set sgiliau, a alluogodd i mi gael rhagflas ar wahanol fathau o lwybrau proffesiynol trwy’r diwydiant adeiladu, cyn neidio i mewn ar ôl graddio. 

Gwybodaeth Gysylltiedig