Profiad Drew yn PCYDDS
Enw: Drew Dennehy
Cwrs: BSc Pensaernïaeth
Astudiaethau Blaenorol: City & Guilds plymio a gwresogi lefel 2; City & Guilds plymio a gwresogi lefel 3
Tref eich cartref: Bridgwater
Profiad Drew ar BSc Pensaernïaeth
![Mae Drew Dennehy yn mynd ar ei gwrcwd i weld ffrâm bren yn cris-croesi ei ddyluniad ar lefel y llygad.](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2024-06/drew-dennehy-2.jpg?h=8c4bd285&itok=nVOmVX6X)
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Wrth astudio ar gampws IQ byddwn i’n dweud mai’r llyfrgell oedd fy hoff beth. Treuliais i lawer o amser yn edrych dros y cylchgronau pensaernïol y mae PCYDDS yn tanysgrifio iddyn nhw ac yn bodio llyfrau am ysbrydoliaeth i’m prosiectau.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Hoffwn i ddweud fy mod i wedi clywed pa mor wych oedd y cwricwlwm ac mai dyna a wnaeth i mi ddewis PCYDDS. Roedd y ffordd y cawsom ni ein haddysgu yn wych, ond y gwir amdani yw nad oeddwn i wedi clywed am PCYDDS ar-lein nac yn unman arall nes i gyflogwr blaenorol dynnu fy sylw ati.
A minnau heb gymwysterau Safon Uwch oherwydd fy llwybr prentisiaeth, nhw oedd yr unig brifysgol y cysylltais i â hi a roddodd gyfle i mi. Er na ddewises i hi o reidrwydd, byddwn i’n argymell y cwrs i unrhyw un.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
I mi, roedd y cwrs yn cymryd llawer o amser er mwyn i mi greu gwaith yr oeddwn i’n falch ohono, ond pan wnes i neilltuo amser ar gyfer pethau eraill, treulio amser fyddwn i gyda ffrindiau fflat roeddwn i wedi byw gyda nhw yn ystod fy mlwyddyn 1af, 2il a 3edd. Bowlio, yfed, barbeciws ar y traeth, roeddem ni am fwynhau’r ychydig amser oedd gennym ni cyn i bawb fyw mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Y bwriad yw symud i Gaeredin i ddechrau fy Rhan 1. Mae’n ddinas brydferth rwy wedi ei hoffi erioed, ond mae prinder swyddi yn yr Alban gyfan ar hyn o bryd felly rwy wedi fy agor fy hun i weithio lle bynnag y mae cyfle. Ond rydw i’n benderfynol o fynd ymlaen gyda fy nhaith mewn pensaernïaeth er mwyn i mi allu symud ymlaen at fy ngradd Meistr.
Beth oedd eich hoff beth am BSc Pensaernïaeth?
Mae lefel yr amser 1 i 1 gyda darlithwyr yn rhywbeth na chafodd yr un o fy ffrindiau i brofiad mewn prifysgolion eraill. Mae lefel iach o gystadleuaeth lle mae pawb am gynhyrchu’r gwaith gorau y gallan nhw ond os bydd rhywun yn darganfod techneg newydd maen nhw’n dal i’w rhannu ymhlith eu cyfoedion, yn hytrach na’i chadw atyn nhw eu hunain.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae pawb wedi dod yn agos ac wedi dod i adnabod ein gilydd yn dda. Mae’n rhaid gweld sut mae pob un wedi datblygu yn unigol i fod yn un o’r uchafbwyntiau mwyaf i mi.
![Mae grŵp o fyfyrwyr a staff naill ai'n sefyll neu'n eistedd a gwenu'n llawen ar gyfer llun grŵp; mae'r myfyrwyr wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur mewn gwisg nos; y tu ôl iddynt, gallwch chi weld arddangosiadau o gynlluniau pensaernïol.](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2024-06/architecture-2024-spotlight.jpg?h=06bf5e87&itok=jt_pqx7h)
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Heb os, mae’r darlithwyr yn glod i’r cwrs ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer yn llawer mwy na phrifysgolion amgen. Rydyn ni’n astudio agweddau busnes a thechnegol dylunio yn ogystal â’r estheteg sy’n ein galluogi i gynnig rhagor i gyflogwyr nag y gallai myfyrwyr eraill ei wneud.
Mae Ian bob amser yn edrych ar sut y gallwn ni ddatblygu’r cwrs ac yn gwerthfawrogi adborth myfyrwyr i adolygu’r cwrs a gwneud newidiadau angenrheidiol. Roedd y darlithwyr hefyd yn hawdd eu cyrraedd yn bersonol a thros y ffôn.