Skip page header and navigation

Jacob Davies-Hannen

Profiad Jacob yn PCYDDS

Jacob stands by his architecture models and plans.

Enw: Jacob Davies-Hannen 

Cwrs: BSc Pensaernïaeth

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch Ffiseg, Mathemateg, Celf a Bagloriaeth Cymru Bryn Tawe 

Tref eich cartref: Abertawe

Profiad Jacob ar BSc Pensaernïaeth

Jacobs theatre model

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Lleoliad y campws yn wych, mae’n agos at y dref sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r hyn y gallai fod ei angen arnoch chi o fewn pellter cerdded.   

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Pan ymwelais â diwrnod agored Pensaernïaeth, cwrddais i â rhai o’r darlithwyr, ac fe wnaeth eu brwdfrydedd a’u hangerdd am bensaernïaeth a’r cwrs fy ysbrydoli. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau rwy’n mwynhau gwneud gwaith gof arian ynghyd â syrffio a phadlo SUP.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Ar ôl i mi raddio, rwy’n gobeithio cael lleoliad mewn practis penseiri cyn dychwelyd i’r brifysgol i orffen fy ngradd.  

Beth yw eich hoff beth am y cwrs? 

Fy hoff beth am y cwrs yw’r amrywiaeth yn y gwaith, o dai i brosiectau cymunedol, hyd yn oed gweithio ar gais ar gyfer cystadleuaeth fyw.  

classroom

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i’n argymell PCYDDS, mae’r cyfleusterau’n wych, mae pawb yn barod iawn i helpu ac mae lleoliad y campws yn ddelfrydol, o ran canol Abertawe a Gŵyr hefyd.

Gwybodaeth Gysylltiedig