Skip page header and navigation

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth fydd ar gael i mi ynf y ystafell? 
Mae pob ystafell yn y neuaddau preswyl wedi’i dodrefnu, ac yn cynnwys gwely â matres, desg a chadair, basn golchi dwylo, drych, wardrob, silffoedd a chabinet wrth ochr y gwely.  - Bydd rhaid i chi gwblhau rhestr eiddo ar gyfer yr ystafell pan fyddwch yn cyrraedd. 

Oes angen trwydded deledu arna i? 
Mae gwybodaeth ar gael oddi wrth TV Licensing.

Oes cyswllt â’r rhyngrwyd yn fy ystafell? 
Bydd gan bob ystafell wely mewn neuadd breswyl fynediad at gyswllt rhyngrwyd diwifr rhad ac am ddim.   

Oes angen i mi drefnu yswiriant ar gyfer fy eiddo? 
Mae yswiriant eiddo myfyrwyr wedi’i ddarparu drwy Endsleigh ar gyfer pob myfyriwr sy’n byw yn ein neuaddau preswyl. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o eiddo yn eich ystafell, gan gynnwys gliniaduron, offer chwaraeon a thrydanol, dillad a bwyd wedi’i rewi. Mae’r Brifysgol wedi trefnu hyn heb unrhyw gost ychwanegol i’r myfyrwyr. Os hoffech chi wirio beth sydd wedi’i gynnwys yn yr yswiriant, edrychwch ar y dystysgrif yswiriant yn yr adran Yswiriant Endsleigh uchod. 

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi? 
Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddod â’u dillad gwely, tywelion, hangeri dillad, offer coginio (yn cynnwys cyllyll a ffyrc a llestri), deunyddiau glanhau a golchi, cadachau golchi llestri, llieiniau sychu llestri, bwyd ac ati eu hunain. Bydd rhestr o’r eitemau rydyn ni’n argymell eich bod yn dod gyda chi yn cael eu hanfon atoch mewn neges e-bost cyn i chi gyrraedd y campws. 

Oes gwasanaeth bws ar gael? 
Bydd amserlenni bws yn cael eu rhoi i fyfyrwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y neuaddau preswyl. 

Oes yna eitemau na ddylwn i ddod gyda fi? 
Ceir rhestr lawn o eitemau na chewch chi ddod â nhw gyda chi yn y Canllaw i Fywyd Preswyl

Ga’ i ddod â fy nghar? 
Rhaid i fyfyrwyr preswyl gofrestru eu ceir ar y Diwrnod Cofrestru neu cyn hynny.    Rhaid talu unrhyw ffioedd parcio sy’n ddyledus cyn neu ar y diwrnod cofrestru. Gweler y Canllaw i Fywyd Preswyl am ragor o fanylion ynglŷn â threfniadau parcio.  

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i beidio â darparu cyfleusterau parcio i fyfyrwyr preswyl, neu i ddarparu cyfleusterau parcio oddi ar y campws i fyfyrwyr preswyl. Gellir neilltuo parthau parcio i fyfyrwyr preswyl yn ôl y flwyddyn astudio, lleoliad y llety neu unrhyw reswm arall a ddiffinnir gan y Brifysgol. Mae mannau parcio preswyl i fyfyrwyr yn cael eu diffinio yn y Canllaw i Fywyd Preswyl.  

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i dynnu cyfleusterau parcio ceir yn ôl oddi wrth fyfyrwyr sy’n torri rheoliadau parcio ceir yn barhaus. 

Pa gyfleusterau golchi dillad sydd ar gael? 
Mae peiriannau golchi a sychu dillad sy’n gweithio drwy dalu â cherdyn ar gael ac wedi’u lleoli rhwng Neuadd John Richards a Neuadd Edwin Morris. Mae ystafell golchi dillad arall y tu ôl i’r Hen Adeilad hefyd.  

Pwy sy’n gyfrifol am lanhau? 
Mae pob myfyriwr sy’n byw mewn neuaddau preswyl yn gyfrifol am gadw’r llety’n lân ac yn daclus. Bydd tîm o lanhawyr (merched a dynion) yn dod i mewn i’r adeilad bob diwrnod gwaith rhwng 1pm a 3pm i wneud ychydig o lanhau ychwanegol yn y ceginau a choridorau. Sylwch, dydyn nhw ddim yn golchi llestri. Mae disgwyl i fyfyrwyr lanhau eu hystafell wely astudio eu hunain.

O ble y gallaf i gasglu fy mhost? 
Gallwch gasglu parseli a llythyron wedi’u recordio oddi wrth y staff diogelwch, sydd wedi’u lleoli yn Nerbynfa’r Hen Adeilad. Mae llythyron yn cael eu rhoi yn y tyllau colomennod yn Undeb y Myfyrwyr.  

Ydw i’n gallu aros ar y campws yn ystod y gwyliau? 
Mae eich cytundeb trwydded yn cynnwys defnyddio’ch ystafell am 38 wythnos, sy’n cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.