Skip page header and navigation

Francois Riches

Profiad Francois Riches yn PCYDDS

Profiad Francois ar TystAU STEM (Cyfrifiadura)

The old tidal basin and the red-brick IQ Building in the foreground; the wooded slope of Kilvey Hill occupies the background.

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am fynychu’r adeilad IQ ar gyfer fy astudiaethau yn aml yw’r daith ar droed yno yn y bore. Mae golygfeydd dros y marina ar un ochr a’r bryniau gwyrdd ar yr ochr arall yn aml yn ddechrau gwych i’r diwrnod. Gall hi fod yn daith adfywiol iawn cyn cyrraedd yr IQ yn gynnar a’m gwneud fy hun yn gyfforddus. Mae’r llyfrgell drws nesaf ac mae ganddi olygfeydd gwych hefyd. Efallai ei bod hi’n ymddangos yn beth bach, ond mae unrhyw beth a all helpu i gadw meddylfryd cadarnhaol da yn eithaf pwysig i mi. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

A bod yn gwbl onest, oherwydd yr agosrwydd, a minnau’n byw ym Mhort Talbot roedd hi’n haws mynd i’r Drindod Dewi Sant. Nid fy mod i hyd yn oed wedi ystyried yn unrhyw le arall. Alla i ond cyfeirio at PCYDDS ond rwy’n hapus iawn yno ac yn edrych ymlaen at weddill fy amser yn astudio yno. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yn bennaf yn fyfyriwr aeddfed rwy’n mwynhau’r bobl yn fy mywyd a fy unigedd wrth eistedd o flaen fy nghyfrifiadur. Ychydig o gemau fideo gartref ac amser gyda ffrindiau a’u teuluoedd. Rwy hefyd yn ymwneud ag elusen leol ac yn mwynhau gwirfoddoli gyda nhw. Dwi’n hoffi bwyta allan a chael coffi yn Abertawe.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Rwy’n cymryd popeth un cam ar y tro a dydw i ddim wedi meddwl llawer am yr hyn sy’n dod ar ôl y brifysgol. Rwy wedi derbyn negeseuon e-bost yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd eraill a gynhelir yn PCYDDS. Nid wyf eto wedi mynychu un o’r rhain gan fy mod i ond ar lefel sylfaen, fodd bynnag, y flwyddyn nesaf rwy’n bwriadu cymryd rhan a gweld beth sydd ar gael. I mi’n bersonol, mae’r daith yn ddigon ar hyn o bryd, byddaf yn gadael i’r gyrchfan ei datgelu ei hun.  

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Rwy wedi mwynhau llawer am fynychu’r cwrs ac mae’n anodd canolbwyntio ar un peth yn unig. Rwy wedi cael llawer o ddarlithwyr gwych yn y brifysgol, llawer o bersonoliaethau gwahanol a diddorol ac ar y cyfan yn rhagorol am gadw fy mrwdfrydedd a’m diddordeb. Rwy wedi mwynhau gweithio gyda fy nghyfoedion, cael help gan eraill a helpu eraill. Yn fyfyriwr aeddfed, rwy hyd yn oed wedi mwynhau’r daith academaidd, yr her i mi fy hun wneud rhywbeth adeiladol mewn gwirionedd. Ac fe wnes i fwynhau gwneud hynny mewn awyrgylch gyfforddus a chroesawgar. 

Computer servers.

A yw eich cwrs wedi eich helpu?

Mae mynychu’r cwrs wedi bod o gymorth mawr. Doedd gen i ddim strwythur cyn hyn ac mae’n help mawr ymgysylltu yn ddeallusol. Mae cwrs sylfaen TystAU yn benodol yn helpu gyda fy niffyg gwybodaeth am safonau academaidd. O sut i ysgrifennu adroddiadau’n effeithiol, i fathemateg a rhaglennu. Rwy’n teimlo’n fwy parod ar gyfer y radd sydd o’m blaen. Mae hefyd wedi rhoi profiad angenrheidiol i mi o sefyll arholiadau a rhoi cyflwyniadau. 

Gwybodaeth Gysylltiedig