Skip page header and navigation

Joshua Knight

Joshua Knight yn PCYDDS

On a grey day, Joshua Knight sits near the stern of a boat and turns towards the sea, holding up a camera with a microphone attachment.

Enw: Joshua Knight 

Cwrs: BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

Astudiaethau Blaenorol:HSDC Alton: Diploma Lefel 3 UAL Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigol

Tref eich cartref: 
Winchester, Hampshire 

Profiad Joshua Knight ar BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

Brett Aggersberg points out a detail on a super-sized monitor displaying a photo of an ancient thatched house in Adobe Lightroom Classic.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

 Yr hyn roeddwn wir wedi’i fwynhau am astudio ar Gampws Caerfyrddin oedd cymwynasgarwch ac angerdd y darlithoedd a’r staff. Roedd ganddynt nid yn unig angerdd amlwg am y pwnc ond hefyd am helpu’r myfyrwyr. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais astudio yn PCYDDS oherwydd ei hangerdd amlwg dros annog gyrfaoedd creadigol. Nid yn aml rydych chi’n gweld Prifysgol neu Athrofa mor awyddus i hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant creadigol ac mae hynny’n rhywbeth sydd wir wedi fy nenu i’r brifysgol a’r cwrs hwn.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yr hyn a fwynheais yn fawr y tu allan i’m hastudiaethau oedd y mynediad a gefais i’r ardaloedd cyfagos. O fewn awr mewn car mae gennych chi Sir Benfro a Gŵyr sy’n gartref i arfordiroedd syfrdanol. Mae’r rhain yn berffaith ar gyfer ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau fel fi.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gweithio ar hyn o bryd fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilm llawrydd o Abertawe. Rwy’n gobeithio adeiladu portffolio digon mawr fel fy mod yn gallu dechrau gweithio gyda noddwyr a hoffwn mynd â’m sgiliau tramor i gael mwy o gyfleoedd gwaith. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Y peth gorau am y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur yw’r ystod o sgiliau rydych chi’n eu dysgu a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i chi. Mae’r cwrs wedi mynd â fi i rai lefydd anhygoel yn y DU a thramor, gan ganiatáu i mi ddatblygu fy sgiliau mewn amrywiaeth o amgylcheddau unigryw gan fy wneud yn berson fwy creadigol a chyflawn.

A young man in a wetsuit stands chest-deep in the sea, filming a seal which has stuck its head above the surface.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn, byddwn yn argymell astudio yn PCYDDS yn llwyr. Mae’r cwrs Gwneud Ffilmiau Antur yn ddiddorol ac yn ymgysylltiol ac mae hyn yn dod nid yn unig i’r pynciau a gyflwynir yn y pwnc, ond hefyd i’r brwdfrydedd a ddaw o’r staff a’r myfyrwyr eraill Mae campws Caerfyrddin yn ganolfan wych ar gyfer mynd ar eich anturiau eich hyn y tu allan i astudio

Gwybodaeth Gysylltiedig