Oliver Kucyj yn PCYDDS
Enw: Oliver Kucyj
Cwrs: BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig
Astudiaethau Blaenorol: HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig, Coleg Sir Benfro
Tref eich cartref: Aberdaugleddau
Profiad Oliver ar BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roeddwn i’n meddwl bod y cyfleusterau’n fodern iawn ac yn cynnig popeth y byddai rhywun ei angen.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS gan fy mod i wedi clywed pethau da am y brifysgol, ac fe wnes i fy HNC yng Ngholeg Sir Benfro trwy PCYDDS. Roedd hwn yn llwybr amlwg i astudio fy nghwrs gradd.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Bues i’n gweithio i Consort Ltd fel Peiriannydd Trydanol am y ddwy flynedd gyntaf. Wedyn, 12 mis cyn diwedd fy nghwrs, dechreuais weithio i EDF. Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau mynd ar deithiau cerdded, pysgota a mynd i’r gampfa.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Byddaf yn graddio yr haf hwn, ac rwy’n gweithio i EDF yn HPC. Dros yr haf, byddaf yn mynd i Baris am 9 mis i gael hyfforddiant.
Rwy’n credu bod y cyfuniad o weithio ym maes peirianneg ac astudio yn PCYDDS wedi bod yn allweddol i fy natblygiad, ac yn bendant mae wedi fy helpu i gael y swydd sydd gen i nawr.
Ddysgais i am ochr ymarferol pethau yn fy ngwaith gyda Consort (fy hen swydd), tra bo’r darlithwyr yn PCYDDS yn dysgu’r ochr ddamcaniaethol i mi, er eu bod nhw hefyd yn dda iawn am ddysgu’r pynciau mewn cyd-destun ymarferol go iawn hefyd.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs oedd dysgu gwybodaeth fanwl am amrywiol bynciau o fewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw un. Mae’r cyfleusterau’n ardderchog, ac mae’r darlithwyr yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu.
Fe wnaethon nhw fy nghefnogi trwy’r cyfnod o newid swydd. Gyda’r swydd newydd, a symud i Baris yn yr haf, byddai wedi bod yn anodd i mi barhau i astudio’r 12 mis oedd yn weddill o’m cwrs. Fe wnaeth PCYDDS ganiatáu i mi orffen fy holl waith yn gyflym, erbyn mis Ionawr 2024. Roedd hyn yn amhrisiadwy i mi.