Skip page header and navigation

Max Hart

Profiad Max yn PCYDDS

Wearing a grey jacket over an open-necked shirt, Max Hart stands in front of a display of missile casings, including a Sea Skua.

Enw: Max Hart

Cwrs: BEng Peirianneg Modurol

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch mewn Mathemateg, Ffiseg, Dylunio Cynnyrch

Tref eich cartref: Surrey

Profiad Max ar BEng Peirianneg Fodurol

View across Rhossili beach towards three figures drawing lines in the sand.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Y lleoliad! Yn Abertawe mae traethau, bryniau a chefn gwlad bendigedig ac i gyd o fewn cyrraedd hawdd. Hefyd, mae yma bob cyfleustod y byddai rhywun yn disgwyl eu cael mewn dinas fawr, yn ogystal â bariau a thafarndai gwych, sy’n hollbwysig wrth gwrs! Mae’r campws yn agos at ganol y ddinas, felly ‘dyw popeth sydd gan Abertawe i’w gynnig byth yn bell.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Edrychais i ar sawl prifysgol, ond roedd y rhan fwyaf yn teimlo braidd yn ddigymeriad. Ond yn PCYDDS, roedd brwdfrydedd pawb yn amlwg o’r dechrau, mae’r darlithwyr wir yn angerddol am eu gwaith ac maen nhw’n groesawgar iawn. Fe wnaeth y cyfleusterau argraff fawr arna i hefyd, gyda digonedd o gyfleoedd i wneud gweithgareddau ymarferol i gefnogi damcaniaethau’r ystafell ddosbarth.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Fe wnes i fwynhau bod yn aelod o Tîm MCR (Tîm MSport Eng bellach). Ces i wella fy sgiliau ymarferol a chael profiad uniongyrchol o weithio fel aelod o dîm rasio, gan gystadlu mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Fi oedd cynrychiolydd y myfyrwyr ar fy nghwrs, ac ymwelais i â sawl ysgol leol ar ran y brifysgol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ar ôl graddio, ces i swydd Peiriannydd Gwerthu Technegol gyda chwmni Diffusion - gwneuthurwr offer gwresogi masnachol, aerdymheru ac awyru (HVAC). Roeddwn i’n defnyddio’r wybodaeth dechnolegol a ddysgais ar y cwrs gradd i helpu cwsmeriaid i gynllunio a dylunio systemau HVAC a fyddai’n bodloni eu hanghenion. Roeddwn yn defnyddio’r egwyddorion thermodynameg a ddysgais i i wneud cyfrifiadau gwresogi/oeri.

Yn ddiweddar, rwyf wedi symud i’r diwydiant amddiffyn, ac yn gweithio bellach fel Peiriannydd Dylunio Systemau ar gyfer MBDA, un o gwmnïau offer amddiffyn mwyaf blaenllaw’r byd. Mae angen set eang o sgiliau peirianyddol i weithio ar systemau amddiffyn cymhleth; mae’r profiad ges i yn PCYDDS o weithio gydag offer ac egwyddorion peirianyddol allweddol, a MATLAB yn enwedig, yn ogystal â gweithio ar sawl prosiect ar unwaith a bodloni terfynau amser llym, wedi bod yn gymorth mawr i mi. 

Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?

Cael y cyfle i weithio gyda phobl angerddol o’r un anian â fi. Roedd astudio peirianneg, a pheirianneg fodurol yn benodol, yn golygu fod pawb o fy nghwmpas yn rhannu’r un diddordebau â mi. Fe wnes i lawer o ffrindiau agos, ac rwy’n dal i’w gweld hyd heddiw. Mae’r darlithwyr yn rhannu’r un brwdfrydedd, ac yn helpu i sicrhau arddull addysgu bersonol a chefnogol PCYDDS.

Garej mawr llawn golau gyda thri char rasio yn y blaendir ar wahanol gamau eu cydosod.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS bob tro, fe wnes i wir fwynhau fy amser yno. Y sgiliau a ddysgais yno sydd wedi caniatáu i mi fod yma heddiw, yn yr yrfa yr oeddwn i bob amser ei heisiau.

Gwybodaeth Gysylltiedig