Skip page header and navigation

Milena Tomaszewska

Profiad Milena yn PCYDDS

A studio photo of Milena Tomaszewska.

Enw: Milena Tomaszewska

Cwrs: BEng Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch a TGAU yn Ysgol Gyfun Treforys

Tref eich cartref: Abertawe er 2013, Wroclaw; gwlad Pwyl cyn hynny

Profiad Milena ar BEng Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol

Ochr allanol adeilad IQ sydd wedi’i wneud o frics coch a gwydr.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Adeilad IQ, mae’n fodern gyda nifer o fannau i ymlacio, gan roi cysur yn ystod cyfnodau o straen. Roedd y caffeterias bob amser yn fywiog gyda wynebau cyfarwydd – boed yn gyd-fyfyrwyr, darlithwyr, neu staff cyfeillgar. Roedd yr amgylchedd croesawgar yn ei gwneud yn hawdd ymlacio a chysylltu. Roeddwn wrth fy modd â’r offer peirianneg o’r radd flaenaf ac yn aml byddwn yn treulio cyfnodau rhydd yn crwydro’r labordai, wedi fy nghyfareddu gan y dechnoleg ar waith.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Yn y chweched dosbarth, roeddwn yn ansicr am fy nyfodol a fy llwybr gyrfa, gan newid fy meddwl rhwng meysydd fel Troseddeg, nyrsio a milfeddygaeth. Fe wnaeth fy athro awgrymu’r Drindod Dewi Sant oherwydd y cyfuniad o theori a phrofiad ymarferol. Yn sgil y dull dysgu ymarferol, wedi’i gyfuno â darlithwyr oedd â phrofiad gwirioneddol o ddiwydiant, roedd y Drindod Dewi Sant yn ddewis perffaith i mi.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Er mwyn hybu fy iechyd meddwl a chorfforol, ymunais â Seireniaid Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yn wych cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar gyfer chwaraeon wrth i mi ddilyn y cwrs o’m dewis. Fe wnes i hefyd ddatblygu fy menter i gael ychydig o arian poced, sydd wedi tyfu i fod yn ddau fusnes llwyddiannus ers hynny.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ar ôl fy BEng, dilynais radd meistr mewn Cyfrifiadureg i gyfarwyddo â datblygiadau technolegol. A minnau bellach yn agosáu at ddiwedd fy ngradd Meistr, rwy wedi derbyn swydd i raddedigion yn y maes gwerthu gyda City Science. Er syndod, mae’r rôl hon yn cyfuno’r sgiliau peirianneg, TG, marchnata a busnes rwyf wedi’u meithrin trwy fy astudiaethau ac entrepreneuriaeth, gan ei gwneud yn swydd annisgwyl ond perffaith ar gyfer fy ngyrfa.

Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?

Roddwn yn dwlu ar yr agweddau ymarferol a’r ffaith fod yr athrawon yn dod o’r Diwydiant Beiciau Modur felly maent yn angerddol am eu pynciau.

Milena petting a bearded dragon.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Roedd angerdd y darlithwyr a’u mewnwelediadau o’r diwydiant go iawn yn amhrisiadwy. Fe wnaethon nhw rannu storïau – doniol, heriol, hapus a thrist – a roddodd ddealltwriaeth ddofn o’r proffesiwn. Un uchafbwynt oedd y daith maes i CAE, a drefnwyd gan fy narlithydd.  Roedd nid yn unig yn addysgol, fe wnaeth hefyd ysbrydoli fy nhraethawd hir ar gynaliadwyedd, gan gyfuno theori â phrofiad ymarferol, ac annog twf personol a meddwl creadigol.

Gwybodaeth Gysylltiedig