Skip page header and navigation

Rhys Price

Profiad Rhys Price yn PCYDDS

Profiad Rhys ar BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Greadigol

Rhys's drum set

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerdydd?

Y peth gorau am fy nghampws oedd bod sawl stiwdio ar gael. Gallwn i drefnu amser mewn stiwdio a defnyddio’r holl gyfleusterau yno, gan gynnwys unrhyw offer neu offerynnau oedd ar gael. Roedd cyfrifiaduron Mac yn y stiwdios hefyd, gyda meddalwedd sy’n safonol i’r diwydiant, ac roedd hynny’n fy ngalluogi i greu cerddoriaeth a fyddai wedi bod yn amhosibl i’w greu gyda fy offer fy hun. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roedd gan PCCYDS sawl agwedd greadigol nad oedd cyrsiau eraill yn eu cynnig. Roedd cyrsiau eraill yn tueddu i ymdrin â cherddoriaeth o safbwynt traddodiadol, gan ganolbwyntio ar ddamcaniaethau a dadansoddi. Mae gan y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Greadigol agwedd fwy creadigol ac anarferol tuag at gerddoriaeth, maen nhw’n caniatáu i’r myfyriwr ddewis beth maen nhw eisiau ei wneud gyda’u tasgau. Ges i ryddid i fynegi fy hun trwy gerddoriaeth yn fy ffordd fy hun, ac i wneud tasgau gan ddefnyddio fy syniadau fy hun. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Mae’n hwyl arbrofi gyda’r hyn rydw i wedi’i ddysgu, a hynny trwy ddychwelyd at fy ngwaith blaenorol a meddwl beth fyddwn i wedi ei wneud yn wahanol. Mae dychwelyd at y caneuon yma, a gweld cymaint y mae nhw’n gwella drwy ddefnyddio’r sgiliau newydd sydd gen i yn ffordd wych o weld fy natblygiad i fel cerddor. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ers gorffen fy mhrosiect olaf, rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu cerddoriaeth, fel yr oeddwn i ar y cwrs. Rydw i wedi llwytho llawer o ganeuon i lwyfannau fel YouTube a Spotify, ac rwy’n esblygu fy mrand fel cyfansoddwr er mwyn ehangu fy nghynulleidfa. 

Roedd llawer o ddarlithoedd ar frandio a’r diwydiant ar y cwrs, a oedd yn rhoi dealltwriaeth go iawn o’r diwydiant cerddoriaeth fel ag y mae. Dysgais i fod dewis y llwybr iawn fel cerddor yn hollbwysig o ran llwyddo neu beidio.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Ges i lawer o ryddid ar y cwrs. Ddwedodd neb bod raid cwblhau unrhyw aseiniad mewn rhyw ffordd benodol. Gan fod gan y myfyrwyr eraill i gyd wahanol arbenigeddau cerddorol, roedd yn teimlo fel petai’r cwrs yn cael ei addasu er mwyn ein helpu i ddatblygu yn y ffordd yr oedden ni eisiau, a hynny trwy gynnig tasgau amrywiol. Gallech chi fod yn recordio drymiau un diwrnod, a’r diwrnod wedyn gallech chi fod yn ffilmio fideo cerddoriaeth neu’n creu offeryn. 

Rhys's recording mike

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Un o’r pethau pwysicaf a ddysgais i ar y cwrs yw bod mwy o swyddi ar gael yn y diwydiant cerddoriaeth nag y byddai rhywun yn ei feddwl. Gallech chi ddod ar y cwrs gyda’ch bryd ar ddod yn gynhyrchydd, ond ‘dyw person ddim wir yn gwybod beth yw eu diddordebau nes iddyn nhw roi cynnig arni, a dyna’r cyfle a gewch chi yma. Mae’r wybodaeth ymarferol a’r profiad ges i yn y stiwdios ac yn y Maclab yn rhywbeth na allwn fod wedi’i gael yn unman arall.

Gwybodaeth Gysylltiedig