Skip page header and navigation

Laura Wade

Profiad Laura yn PCYDDS

Wearing a green Jack Wills polo shirt and standing in front of shelves holding books as well as an orange-on-white print of the alphabet, Laura Wade smiles towards the camera.

Enw: Laura Wade

Cwrs: BA(Anrh) Dylunio Graffig

Astudiaethau Blaenorol:  Diploma Estynedig UAL mewn Celf a Dylunio yn Hereford College of Arts

Tref eich cartref: Swydd Henffordd

Profiad Laura ar BA Dylunio Graffig

Laura Wade stands next to a white wall covered in prints and posters.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roedd campws Dinefwr yn Abertawe yn teimlo fel ail gartref i mi, roedd yn amgylchedd croesawgar a chreadigol lle gallai bawb gyflawni eu hamcanion academaidd. 

Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae’r staff a’r myfyrwyr yn rhannu’r un angerdd a brwdfrydedd am y diwydiant creadigol, ac mae hynny’n creu cymuned gefnogol ac ysbrydoledig. Mae’r awyrgylch gydweithredol yn annog arloesedd a thwf, rhywle lle gall creadigrwydd ffynnu, lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. 

Yn bwysicaf oll, mae pawb yno yn deall pwysigrwydd colegau celf yn y system addysg greadigol.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Ym mis Rhagfyr 2020, pan ddechreuais i wneud ceisiadau am gyrsiau prifysgol, roedd yn broses eithaf heriol oherwydd y pandemig. Ond ar ôl ymchwilio a chael cyfweliad, roedd natur groesawgar ac ysbrydoledig PCYDDS yn sefyll allan. Fe wnaeth eu hymroddiad o ran defnyddio dulliau cyfathrebu gweledol a’u cyfleusterau gwych wneud argraff arna i.  

O gymharu â phrifysgolion mwy, roedd dosbarthiadau Coleg Celf Abertawe yn llai, gyda mwy o sylw gan y darlithwyr, ac roeddwn i’n credu byddai’r dull personol yma’n hollbwysig i fy natblygiad. Gan fy mod i’n dod o dref fechan, roeddwn i’n teimlo byddai’r amgylchedd yn fy siwtio i’r dim, ac roedd PCYDDS yn ddewis delfrydol ar gyfer fy ngwaith academaidd, dewis nad ydw i’n ei ddifaru o gwbl!

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau dylunio graffig, mae gen i ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, yn enwedig criced. Roeddwn i’n chwarae criced yn rheolaidd trwy bob haf yn PCYDDS, ac roeddwn yn arfer chwarae i’r safon uchaf o ran clybiau criced menywod yn y West Midlands. 

Byddai’r diddordeb hwn mewn chwaraeon yn aml yn dylanwadu ar fy ngwaith dylunio academaidd, gan ysbrydoli creadigrwydd ac arloesedd. Yn fy nwy flynedd gyntaf, roeddwn hefyd yn aelod o dîm pêl-rwyd y Brifysgol, ac fe ddes yn ffrindiau â phobl oedd ar gyrsiau eraill. Hefyd, roeddwn yn mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau pan oeddwn i adre.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Fy nod ar ôl graddio yw cael gwaith dylunio graffig o fewn y diwydiant chwaraeon, yn y West Midlands yn ddelfrydol. Byddai cyfuno fy angerdd am ddylunio gyda fy nghariad at chwaraeon yn gwireddu breuddwyd. Rwy’n berson penderfynol sydd â chymhelliant a greddf entrepreneuraidd, a fy nod hirdymor yw sefydlu fy musnes dylunio llawrydd fy hun.

Rwy’n gweld fy hun yn sefydlu portffolio amrywiol o gleientiaid a phrosiectau a fydd yn caniatáu i mi fod yn greadigol ond yn rhoi’r rhyddid i mi dorri fy nghŵys broffesiynol fy hun. Ac rwy’n bwriadu parhau i chwarae criced wrth gwrs!

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Mae dewis hoff agwedd ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio Graffig yn anodd gan fy mod wedi mwynhau pob eiliad o’r 3 blynedd academaidd ddiwethaf. Ond mae’r dull personol o addysgu yn sefyll allan i mi. Mae’r cysylltiad â’r staff dysgu yn gwneud gwahaniaeth mawr i hyder, mae’n tanio creadigrwydd ac yn sicrhau presenoldeb cefnogol trwy’r adeg.

Mae’r sylw personol hwn, sy’n beth prin mewn prifysgolion mwy, yn creu amgylchedd lle gall syniadau ffynnu. Mae bod mewn coleg celf yn cryfhau’r ddeinameg honno – pan fo’ch cyfoedion o’ch cwmpas yn rhannu’r un sbarc creadigol, a’r syniadau’n tasgu, gan wneud ffrindiau yn ogystal â chysylltiadau busnes gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

Dyluniad ar gyfer tri chan diodydd gin a lemonêd; caniau tenau 250ml wedi’u smotio â defnynnau dŵr; mae leim a blodeuyn ysgaw yn defnyddio arlliwiau gwyrdd; eirin gwlanog a mafon mewn melyn a phinc; lafant a llus mewn gleision a phiws.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw ddarpar fyfyriwr sy’n chwilio am amgylchedd lle gallan nhw ffynnu, yn academaidd ac fel person. Er y gall gwneud cais i fynd i’r brifysgol fod yn frawychus, mae dilyn eich breuddwydion yn hollbwysig, ac mae Coleg Celf Abertawe yn rhywle lle gallwch chi wneud hynny, heb os nac oni bai. 

Gall y brifysgol gynnig llwyth o gyfleoedd i chi ddod i adnabod eich hun ac i ddatblygu’n academaidd. Hefyd, mae awyrgylch braf y brifysgol a dinas Abertawe yn cynnal cymuned fywiog o fyfyrwyr ac mae’r cyfuniad unigryw o lan y môr a chanol dinas yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd!

Gwybodaeth Gysylltiedig