Profiad Rebecca yn PCYDDS
Enw: Rebecca Hodgson
Cwrs: BA(Anrh) Dylunio Graffig
Astudiaethau Blaenorol: Coleg Gŵyr – Safon Uwch mewn Cyfathrebu Graffig, Astudiaethau Crefyddol a Cherddoriaeth
Tref eich cartref: Port Talbot
Profiad Rebecca ar BA Dylunio Graffig
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth oedd y llyfrgell (Y Fforwm), oherwydd ei horiau agor hir, a’r cyfleusterau yno. Roedd yn ddefnyddiol iawn hefyd pan oedd angen gorffen gwaith mewn pryd, gan fod yr adeilad IQ gyferbyn ar agor 24/7…
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dyma fy mhrifysgol leol i, a phan gofrestrais roedd y cwrs yn 7fed trwy’r DU ac yn 1af yng Nghymru, gan ddangos fod ganddo enw da iawn a’i bod yn rhaglen dda. Hefyd, roeddwn wedi cael defnyddio’r cyfleusterau pan oeddwn yn yr ysgol, ac roedden nhw wedi bod yn werthfawr iawn bryd hynny.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Roedd lleoliad y brifysgol yn ardderchog i mi. Mae Abertawe’n ddinas gyfeillgar i fyfyrwyr, ac mae lleoedd gwych i fyfyrwyr fynd, ond mae’n lleoliad gwych fel arall hefyd, gyda phethau fel y traeth dim ond 10 munud o gerdded o ganol y ddinas.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Yn ddelfrydol, cael swydd ym maes fy astudiaethau. Dw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n anodd gan fod cyflogadwyedd graddedigion yn eu pynciau astudio yn uchel ar ôl graddio yma.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs oedd fy narlithoedd a’r technegwyr. Maen nhw’n wybodus iawn yn eu pynciau ac roedd yn bleser dod i’w hadnabod ac i ddysgu ganddyn nhw. Roedd gan bob un ddealltwriaeth o’r byd dylunio, ac roedd cael arweiniad gan bobl mor gymwys, brwdfrydig a chefnogol yn ystod un o gyfnodau pwysicaf a mwyaf cofiadwy eich bywyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
100%. Dyw’r dosbarthiadau ddim yn enfawr, sy’n golygu eich bod yn cael mwy o sylw gan eich darlithwyr a mwy o amser mewn cyfleusterau fel y gweithdy argraffu. Ychydig iawn o brifysgolion sy’n gallu cynnig hynny, sy’n golygu bod PCYDDS yn sefyll allan