Skip page header and navigation

Elicia Axon

Elicia Axon yn PCYDDS

Elicia headshot

Enw: Elicia Axon

Cwrs: BA Actio

Astudiaethau Blaenorol: Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth – TGAU a Safon Uwch  Celfyddydau Perfformio , Cymdeithaseg, Bagloriaeth Cymru 

Tref eich cartref: Caerfyrddin  

Profiad Elicia ar BA Actio

Elicia headshot

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Fy hoff beth am y campws oedd ei faint. ‘Dyw e ddim yn rhy fawr, mae popeth o fewn un ardal felly mae’n hawdd mynd o un wers i’r nesaf. Mae fel cymuned fechan, ac mae’n hawdd cwrdd a sgwrsio â myfyrwyr sydd ar gyrsiau eraill. Mae’r cyfleusterau’n wych, roeddwn i’n treulio llawer o amser yn astudio yn y llyfrgell a’r ardaloedd cyffredin, ac roedd archebu lleoedd ar gyfer ymarferion / cyfarfodydd / sesiynau astudio yn hawdd. Wnes i erioed deimlo’r angen am rywbeth nad oedd y campws yn ei gynnig. Roedd yn bodloni pob un o fy anghenion i fel myfyriwr.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i astudio yn PCYDDS gan i mi deimlo’n fodlon ac yn gartrefol trwy gydol fy nghlyweliad. Roeddwn i’n teimlo’n hynod o ddiogel a chyfforddus gan fod y campws wedi’i gynllunio’n dda a chan fod arwyddion amlwg. Roedd y staff mor wybodus ac angerddol am y cwrs, roedden nhw’n groesawgar ac yn gyfeillgar iawn, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael y gefnogaeth roeddwn i eisiau yn fy addysg. Hefyd, roedd gallu sgwrsio â myfyrwyr o bob un o’r 3 blynedd yn hynod o fuddiol, roedden nhw i gyd yn canmol y cwrs a PCYDDS, felly roeddwn i’n gwybod fy mod i mewn dwylo diogel.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i fy astudiaethau, mi wnes i wir fwynhau treulio amser yn yr awyr agored. Mae llawer o lwybrau natur braf yng Nghaerfyrddin, a dau barc mawr. ‘Dyw traeth Llansteffan ddim yn bell ‘chwaith, a byddai grwpiau ohonom ni’n gyrru yno ar fin nosau i ymlacio ac i grwydro.   

Roeddwn i’n aelod o’r gymdeithas ddawns ar y campws hefyd, ac roedd hynny’n llawer o hwyl! Mae’n gyfle i gymdeithasu ag eraill sydd ddim ar yr un cwrs â chi, i ddysgu sgiliau newydd ac i wella eich ffitrwydd. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rydw i bellach yn gweithio fel actor a hwylusydd llawrydd. Ers graddio, rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael cyfleoedd gwych o fewn y diwydiant. Ar y cwrs BA Actio, dysgais i am bwysigrwydd creu fy ngwaith fy hun, sut i ddechrau o’r dechrau a chreu/adeiladu rhywbeth o ddim byd. Cafodd y cwrs ddylanwad mawr ar bwy ydw i nawr fel person creadigol. 

Nid dim ond actor ydw i, rwy’n gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd - rwy’n wneuthurwr theatr ac mae hynny’n hynod o bwysig. Rydw i wedi ffilmio hysbysebion, wedi teithio Lloegr gydag ysgrifennu newydd, wedi perfformio sioe un fenyw yng Nghaerdydd, wedi adeiladu gosodiad, wedi cynnal gweithdai gyda myfyrwyr, rwy’n dysgu drama i blant ifanc, mae gen i yrfa hynod o amrywiol o ganlyniad i’r hyfforddiant ges i yn PCYDDS. Roedden ni’n canolbwyntio ar y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac yn datblygu ystod o wahanol sgiliau, gan feithrin yr holl elfennau sydd eu hangen i ffynnu yn y celfyddydau.  

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Y staff oedd fy hoff beth am y cwrs. Roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Roedd gan y Pennaeth Dysgu gyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn ymwneud ag actio a’r diwydiant, a chawsom ni gwrdd a chael ein dysgu gan bobl anhygoel. Roeddwn i’n caru’r ffaith mai hwyluswyr allanol oedd yn dysgu ein modiwlau oherwydd, er ein bod ni’n dal i ddysgu, roedden ni’n gwneud cysylltiadau ac yn meithrin perthnasoedd gyda phobl yn y diwydiant, ac rydw i wedi gweithio â rhai ohonyn nhw ers graddio.  

Elicia in a show

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Rwy’n argymell PCYDDS a’r cwrs BA Actio i bawb. Allwn i ddim ei argymhelliad digon. Roeddwn wrth fy modd pan oeddwn yno, mi wnes i fwynhau cymaint penderfynais ddychwelyd ddwy flynedd yn ddiweddarach i astudio am radd meistr. Mae’n gampws mor groesawgar ac mae’r staff wir yn gofalu am eich lles. Roedd pawb bob amser mor gefnogol a chymwynasgar.

Gwybodaeth Gysylltiedig