Skip page header and navigation

Rebecca Davies

Rebecca Davies yn PCYDDS

Rebecca headshot

Enw: Rebecca Davies

Cwrs: MDes mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Lefel 3 Blwyddyn Sylfaen yng Ngholeg Afan, rhan o Goleg Castell-nedd Port Talbot 

Tref eich cartref: Llansawel, Abertawe 

Profiad Rebecca Davies ar MDes mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Rebecca by her work

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Ar draws holl adeiladau Coleg Celf Abertawe, un o’m hoff bethau oedd gweld gwaith celf myfyrwyr yn cael ei arddangos. Roedd yn ysbrydoledig ac roedd yn rhoi cipolwg i chi i’r raglenni eraill.  

 O fewn y stiwdio Patrwm Arwyneb yn benodol, y mae pob grŵp blwyddyn yn ei rhannu, roedd cynllun y stiwdio yn creu amgylchedd sy’n meithrin. Roedd gweld gwaith myfyrwyr ar wahanol gamau o’u haddysg yn eich cymell. Galluogodd i mi weld lefel y sgil y gallwn ei gyflawni a rhoddodd lwybr clir ar gyfer fy natblygiad innau. Gwnaeth y cynllun hwn feithrin awyrgylch cefnogol lle gallwn ddysgu gan ein gilydd a gweld y cynnydd posibl o fewn ein maes. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Clywais am PCYDDS pan ddaeth un o’i myfyrwyr i ymweld â’m coleg i rannu ei phrofiadau. Dangosodd i ni ei llyfr brasluniau ac arhosodd yr adborth gonest a roddodd hi i ni am y cwrs gyda fi. Cyn hynny, nid oeddwn wedi ystyried mynd i brifysgol. 

 Ar ôl i’r diddordeb hwn gael ei danio, meddyliais am astudio yn Llundain, ond ar ôl llawer o ymchwil, penderfynais mai PCYDDS fyddai’r lle iawn i mi oherwydd ei natur gefnogol a chymhareb tiwtoriaid i fyfyrwyr.  

 Cadarnhaodd fy nghyfweliad fy mhenderfyniad i fynd yno, ar ôl gweld y man stiwdio anhygoel a chwrdd â thiwtoriaid.  

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yn ystod y cwrs, aeth llawer o’m hamser yn ceisio dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith, ac roedd Abertawe yn lle gwych yn hynny o beth, a chanddi ddiwylliant gelf gyfoethog a digonedd o olygfeydd ysbrydoledig o’n cwmpas. Gwnes i fwynhau teithiau i erddi a gwlypdiroedd o gwmpas de Cymru gyda’m ffrindiau ac fe ysbrydolodd rhain lawer o’m brasluniau a’m patrymau. Mae’r pensaernïaeth a’r gwaith celf ar adeiladau o gwmpas Abertawe yn wych hefyd, a chefais lawer o syniadau drwy’r rheiny.  

 Oherwydd y bywyd celf bywiog sydd yno, mae’n lle gwych hefyd i ddod o hyd i gyfleoedd, i arddangos eich gwaith a chysylltu gydag eraill o’r diwydiant creadigol, felly ceisiais wneud cymaint o hyn â phosibl.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio yn Rolls-Royce Motor Cars yn eu tîm Dylunio Pwrpasol, a chefais y swydd hon trwy interniaeth â thâl a ddarparwyd gan fy nghwrs yn PCYDDS. 

 Cefais fy mharatoi’n dda ar gyfer cyfleoedd proffesiynol gan fy nghwrs, a phwysleisiwyd datblygiad sgiliau ymarferol a darparwyd profiadau byd go iawn. O ddysgu am dueddiadau, i ysgrifennu briffiau a deall prosesau dylunio, gwnaeth y gwaith paratoi hwn, ynghyd â’r cymorth gan fy narlithwyr, fy helpu i lwyddo yn y cyfweliad a symud yn ddidrafferth i’m rôl cyfredol. Wedi’i i’m hinterniaeth ddod i ben, cefais rôl barhaol yma. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Roedd cymaint am y cwrs roeddwn yn dwlu arno, ond un o’r pethau gorau amdano yw’r bobl! Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a’m hannog gan fy nhiwtoriaid i wthio fy hun yn greadigol. Roeddynt yn darparu adborth realistig bob tro ac yn ein herio i feddwl yn greadigol am ein dewisiadau dylunio sy’n eich paratoi ar gyfer senarios proffesiynol.  

 O fewn y gofod stiwdio, cewch eich amgylchynu gan bobl o’r un meddylfryd ac mae’r awyrgylch anghystadleuol, cefnogol yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chydweithio, sydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer fy nhwf fel dylunydd. Mae hyd yn oed hyblygrwydd o fewn y cwrs i gydweithio a chymysgu gyda chyrsiau eraill, sy’n brofiad unigryw.  

design workshop

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Buaswn, heb os! Cafodd popeth a ddysgais y diwrnod hwnnw yn y coleg gan y myfyriwr a siaradodd gyda ni am ei phrofiad o PCYDDS, a phopeth a darganfûm wrth wneud fy ymchwil, ei brofi’n wir. 

 Y pwyslais ar sgiliau ymarferol, ynghyd â rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos eu gwaith ac ymgysylltu gydag ymarferwyr proffesiynol y diwydiant yw beth sy’n ei wneud yn wahanol, yn ogystal â’r staff addysgu cefnogol, sy’n gallu rhoi o’u hamser i chi gan fod dosbarthiadau’n fach sy’n golygu nad ydych chwaith yn cystadlu i ddefnyddio’r cyfleusterau a’r offer. 

Rhoddodd fy mhrofiad yn PCYDDS i mi’r sgiliau, hyder a chysylltiadau roedd arna’i eu hangen, a’r cyfan ar stepen fy nrws! 

Gwybodaeth Gysylltiedig