Skip page header and navigation

Bethan Morris

Bethan Morris yn PCYDDS

Bethan headshot

Enw: Bethan Morris

Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Graffig

Astudiaethau Blaenorol: Colur y Cyfryngau a Gwallt Theatr, a Chelf a Dylunio Sylfaen 

Tref eich cartref: Caerffili

Profiad Bethan ar BA (Anrh) Dylunio Graffig

Bethan's cat food design

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roeddwn i wir yn hoffi pa mor agos oedd fy nghampws i amrywiaeth o wahanol gyfleusterau. Roedd yn agos i’r orsaf drenau, i ganol y dref, i’r stiwdio argraffu, ac i’r llety myfyrwyr, felly roedd hi’n hawdd cyrraedd cyfleusterau hanfodol. Roedd gan bob ystafell gyfrifiaduron ar fy llawr i y cyfrifiaduron Mac diweddaraf, sy’n adnodd hanfodol ar gyfer fy nghwrs i.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS/Coleg Celf Abertawe gan eu bod yn rhoi pwyslais arbennig ar addysg celf. Gan fod manylion y cwrs yn hawdd i’w cael ar y wefan, ces i gyfle i asesu cwricwlwm pob tymor yn drylwyr. Roedd y prosbectws cynhwysfawr yn cynnig digon o wybodaeth i wneud penderfyniad ynglŷn â mynd i’r brifysgol. Er i gyfyngiadau’r pandemig fy atal rhag ymweld â’r brifysgol, ces gefnogaeth drylwyr a phrydlon trwy gydol y broses ymgeisio, yn enwedig gan Arweinydd y Cwrs, Donna Williams. Mae lleoliad da PCYDDS yn agos i ganol y ddinas gyda’i bwrlwm gyda’r hwyr, trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, a’r brif lyfrgell braf wrth y môr yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy deniadol i fyfyrwyr. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’r brifysgol, rwy’n treulio fy amser ar y traeth, yn cwrdd â phobl dros goffi yn The Secret, neu’n cerdded draw i’r Mwmbwls. Rydw i hefyd yn mwynhau bwyd da a mynd i fwytai newydd gyda’m ffrindiau. Rwy’n berson cymdeithasol, ac yn mwynhau mynd am ddiod neu ddau ar Wind Street, ond rydw hefyd yn mwynhau noson dawel yn chwarae pŵl neu fowlio deg.  

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Ar ôl graddio, fy nod yw cael swydd lawn-amser neu interniaeth yn y maes rwy’n arbenigo ynddo. Fy swydd ddelfrydol fyddai ymuno â thîm bychan o ddylunwyr graffig mewn cwmni fel Pink Pony Creative, sy’n enwog am eu gwaith ym meysydd hunaniaeth gorfforaethol, brandio, a dylunio pecynnau. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn treulio blwyddyn dramor yn gweithio fel dylunydd graffig, gan ddatblygu fy sgiliau mewn amgylchedd dinesig. Yn y pen draw, hoffwn i weithio fel dylunydd proffesiynol llawrydd, gyda chasgliad o gleientiaid amrywiol a nodedig, ynghyd â sefydlu fy nghwmni fy hun.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Roedd sawl agwedd ar y cwrs yn apelio ataf i, a’r pwysicaf ohonyn nhw oedd anogaeth a chefnogaeth ddiwyro’r darlithwyr.  

 Maen nhw’n tywys myfyrwyr ar y daith drawsnewidiol drwy’r brifysgol, gan feithrin eu datblygiad o’r flwyddyn gyntaf tan y byddan nhw’n graddio. Hefyd, rwy’n trysori’r amrywiaeth o gyfleoedd a ges i trwy’r brifysgol, gan gynnwys cysylltu â chwmnïau dylunio graffig a gweithwyr llawrydd i gael cyngor amhrisiadwy. Er enghraifft, bues i’n ddigon ffodus i gael gweithio gyda Sefydliad Swansea City AFC ar interniaeth 6 mis. Yn ogystal, cafodd y profiad dysgu ei gyfoethogi gan yr amrywiaeth o weithdai sydd ar y campws, lle’r oedd adnoddau gwerthfawr o fewn cyrraedd hawdd. Cyfrannodd y ffordd y cafodd cefnogaeth, rhwydweithio, ac adnoddau ymarferol eu hymgorffori, yn fawr at fy ngwerthfawrogiad o’r cwrs. 

Bethan's design piece

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Yn sicr, byddwn yn argymell PCYDDS. Trwy gydol fy nghwrs tair blynedd, cefais gefnogaeth arbennig gan fy narlithwyr, roedden nhw bob amser yn sylwi ar unrhyw bryderon neu ymholiadau oedd gen i. Roedd y brifysgol yn cyfathrebu’n rheolaidd, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau a newidiadau i ddod. Yn y flwyddyn olaf, roedd digonedd o gyfleoedd ar gael ar gyfer interniaethau, a oedd yn ein galluogi i gydweithio â dylunwyr graffig a sefydliadau uchel eu parch. Fe wnaeth y profiadau ymarferol hyn gyfoethogi ein sgiliau ni, ac maen nhw’n hynod werthfawr wrth wneud ceisiadau am swyddi neu mewn cyfweliadau. 

Gwybodaeth Gysylltiedig