Skip page header and navigation

Mae Ryan L. Moule, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig Coleg Celf Abertawe PCYDDS, wedi cael ei ddewis i arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd mewn arddangosfa o’r enw ‘The Valleys’, i amlygu straeon yr ardal.

An example of the work being displayed at the exhibition

Bydd yr arddangosfa, sy’n rhedeg o 25 Mai i 3 Tachwedd, yn arddangos 200 darn o waith celf mewn amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys paentio, ffotograffiaeth, ffilm a chelf gymhwysol. Mae’n dangos sut mae bywydau a thirlun y Cymoedd a’r bobl a fu’n byw a gweithio yno wedi cael eu trawsnewid gan haearn a glo, a sut y gwaeth y cymunedau hyn gyfraniad hanfodol i’r byd modern.

Meddai Ryan: “Mae’n anrhydedd mawr i mi arddangos fy ngwaith yn yr arddangosfa hon ochr yn ochr â chymaint o artistiaid a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae celf wedi galluogi i wahanol genedlaethau adfyfyrio ar effaith gymdeithasol, wleidyddol ac amgylcheddol eu hoes. Mae gallu cyfrannu at ddealltwriaeth sy’n newid yn barhaus o’r fan rwy’n ei alw’n adref yn fy llenwi ag ymdeimlad o ddiolchgarwch.

Yn yr 20fed ganrif, rhoddodd grymoedd byd-eang bwysau economaidd a chymdeithasol anferthol ar y cymunedau hyn. Ymatebodd artistiaid drwy gynhyrchu cynrychiolaeth unigryw o bwys rhyngwladol o brofiad cymunedau dosbarth gwaith, ond eto i gyd mae’r traddodiad hwn yn parhau’n gymharol anhysbys. 

Mae’r arddangosfa’n proffilio gwaith dros 60 o artistiaid gan gynnwys Tina Carr ac Annemarie Schöne, Robert Frank, Josef Herman, ac Ernest Zobole yn ogystal â chyflwyno gwaith artistiaid a gwneuthurwyr sy’n lowyr gan gynnwys Nicholas Evans, Harry Rodgers ac Illtyd David.

Mae’n cynnwys nifer o ddarnau o waith nad ydynt wedi’u harddangos o’r blaen, ochr yn ochr â grŵp o gaffaeliadau ffotograffiaeth newydd sydd wedi bod yn bosibl gyda chymorth gan Art Fund.

Mae PCYDDS yn gyntaf yng Nghymru am Ffotograffiaeth ac yn 4ydd yn DU yn Nhabl Cynghrair Y Guardian 2024.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon