Skip page header and navigation

Mae Katie Rees, myfyrwraig BA Dylunio Graffeg yn ei hail flwyddyn, wedi cael rôl gyffrous fel ffotograffydd llawrydd gyda’r Scarlets. Mae’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith ddysgu Katie gyda’r Brifysgol, gan arddangos ei hymroddiad, ei dawn a’i hangerdd dros y celfyddydau creadigol.

A happy smiling student wearing a grey top.

A hithau wedi’i dylanwadu gan ei theulu artistig, datblygodd Katie gariad at ffotograffiaeth yn ystod ei hastudiaethau TGAU a mireiniodd ei sgiliau ymhellach drwy astudio Ffotograffiaeth, Graffeg a Thecstilau at Safon Uwch. Er gwaethaf ei hamheuon cychwynnol ynglŷn â mynd i brifysgol, gwnaeth y pandemig ei symbylu i ddilyn cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yn y Drindod Dewi Sant, ac roedd wrth ei bodd. Yna fe wnaeth ei llwybr ei harwain at Ddylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant, lle mae hi wedi ffynnu.

Meddai Katie: “Rydw i wastad wedi cael dylanwad creadigol cryf gan fy nheulu a chariad at ffotograffiaeth a ddechreuodd pan oeddwn i’n yr ysgol. Mae fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant wedi bod yn drawsnewidiol, ac mae sicrhau’r rôl hon gyda’r Scarlets yn gwireddu breuddwyd i mi. Mae wedi ailgynnau fy angerdd am ffotograffiaeth ac wedi rhoi hyder aruthrol i mi yn fy sgiliau.”

Mae rôl Katie gyda’r Scarlets yn cynnwys tynnu lluniau hyrwyddo ar gyfer ystafelloedd a bocsys lletygarwch y tîm. Mae ei llwyddiant yn y rôl hon eisoes wedi agor cyfleoedd pellach, gan ddangos bod modd cymhwyso’r sgiliau mae wedi’u dysgu trwy ei chwrs yn y byd go iawn.

Dywedodd Katie iddi ddioddef o ddiffyg hyder i ddechrau ond cafodd gefnogaeth wych gan ei darlithwyr a’i chyfoedion, yn enwedig yn ystod ei beichiogrwydd ac ar ôl dod yn fam newydd. 

“Mae’r gefnogaeth gan y staff wedi bod yn anhygoel,” meddai. “Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m hyder a’m gallu i lwyddo.”

Yn ychwanegol at ei gwaith cwrs, mae Katie’n mynd i’r afael â chyfleoedd ychwanegol i wella ei sgiliau. “Fy nod yw manteisio ar bob eiliad o’r cwrs hwn,” meddai. “Roedd Wythnos Ddylunio 2024 yn uchafbwynt, gan roi ysbrydoliaeth a mewnwelediadau gwerthfawr i’r diwydiant.  Rydw i wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith hwn drwy gydol fy mlwyddyn olaf.”

Meddai Donna Williams, Rheolwr Rhaglen y BA Dylunio Graffig, “Ffocws craidd yr addysgu ar y rhaglen BA Dylunio Graffig yw meithrin a chymhwyso sgiliau creadigol amrywiol ac angerdd pob myfyriwr unigol. Mae Katie, sy’n hoff iawn o ffotograffiaeth, yn cyfuno’r sgil hwn yn effeithiol â’i llygad craff am ddylunio graffig. Rydym wrth ein bodd bod Katie wedi dangos menter drwy ymgeisio am y swydd gyda’r Scarlets, yn enwedig o ystyried iddi ddod yn fam yn ddiweddar, sy’n dangos ei phenderfyniad cadarn a’i hymroddiad i gyflawni ei nodau. Da iawn Katie!”

Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae ein Cwrs BA Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe (PCYDDS) yn rhoi cymaint o brosiectau diwydiant byw gwych, interniaethau a chyfleoedd i fyfyrwyr gael gwaith yn y sector dylunio. Rydyn ni wrth ein bodd bod Katie wedi cael y cyfle hwn gyda’r Scarlets, rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n gaffaeliad iddyn nhw.”

Dywedodd Kathryn Gardner, Cydlynydd Masnachol y Scarlets: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Katie i arddangos ein lletygarwch arobryn yma ym Mharc y Scarlets a dod â phrofiad diwrnod gêm yn fyw trwy ei ffotograffiaeth. Mae ei gwaith hefyd wedi bod yn rhan o’n hymgyrch aelodaeth tymor gyda’i delweddau ar bosteri a hysbysfyrddau ar draws y rhanbarth.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon