Skip page header and navigation

Os ydych chi’n breuddwydio am serennu ar y sgrin, neu efallai â’ch bryd ar weithio yn yr esgyll, mae ein Rhaglenni Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn hyfforddi myfyrwyr a’u datblygu i fod yn berfformwyr a gweithwyr y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig addysg gynhwysfawr ar draws y rhaglenni, a’ch galluogi i ganfod pwy ydych chi ac i ffynnu. 

Mae’r rhaglenni Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Mae ein modiwlau wedi’u seilio ar arfer ac yn canolbwyntio ar y proffesiwn, a byddan nhw’n eich paratoi â set o sgiliau technegol cryf, â galluoedd creadigol, ac â dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant. Cewch baratoi portffolio helaeth cyn dechrau ar eich gyrfa, gan achub y blaen ar eraill pan fyddwch yn chwilio am waith mewn maes hynod gystadleuol. 

Os ydych chi’n angerddol am actio, cerddoriaeth neu ddylunio, mae lle i chi yma.  Oherwydd y profiadau ymarferol a’r cysylltiadau â’r diwydiant, cewch ystod eang o gyfleoedd os dewiswch ymuno â ni.     

Caerfyrddin yw cartref ein graddau BA Actio a BA Dylunio Setiau. Mae’r rhaglenni hyn yn cyd-fynd a’i gilydd, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd â digon o brofiad ymarferol i ffynnu yn y diwydiant. Fel myfyriwr yng Nghaerfyrddin, bydd gennych fynediad at weithdai a theatrau ar y campws, a bydd hyn yn eich galluogi i gyfuno eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol.    

Yng Nghaerdydd mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA), sef sefydliad sy’n cynnig rhaglenni gradd sy’n darparu techneg gadarn i fyfyrwyr, ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Mae Haywood House yn y Brifddinas yn gampws yn yr arddull conservatoire ac mae ganddi gysylltiadau cryf â Chanolfan y Mileniwm ac â BBC Cymru.  

Pam Astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn PCYDDS?

01
Daeth PCYDDS i’r brig trwy Gymru o ran Drama, Dawns a Sinema – Complete University Guide 2023.
02
Cewch addysg gan weithwyr proffesiynol profiadol o’r diwydiant a chyfleoedd i gydweithio â nhw.
03
Cewch gydweithio â myfyrwyr eraill o amrywiaeth o raglenni gradd y portffolio er mwyn creu darnau artistig, gan gynyddu eich sgiliau cyflogadwyedd.

Spotlights

Myfyrwyr yn ymarfer ar gyfer perfformiad

Cyfleusterau

Mae dewis astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol gyda ni yn golygu dewis cyfleusterau gwych. O fannau stiwdio mawr, ystafelloedd perfformio a lloriau dawnsio yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, i ofod gweithdy mawr ar gyfer myfyrwyr Dylunio Set ar gampws Caerfyrddin, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo. Mae gennym hefyd labordai cyfrifiadurol ar gyfer ein myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Abertawe. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.