![Student in class.](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-07/356256411_686520003488306_6199991550184337972_n%20%281%29.jpg?h=fe5f0ecc&itok=9oM-fHs3)
Arfer Proffesiynol (Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Brys) (MA)
Dyma gwrs arloesol a hyblyg y gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol neu sefydliadol. Ei nod yw darparu cyfleoedd hygyrch wedi’u teilwra wrth gydnabod ac achredu dysgu trwy brofiad yn y gweithle.
Pam dysgu’r hyn rydych chi’n ei wybod yn barod?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ennill credydau am eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol, a dyma beth rydyn ni’n ei alw’n ‘dysgu trwy brofiad’.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
£30 y credyd
£5 y credyd ar gyfer dysgu drwy brofiad
Why choose this course?
What you will learn
Gellir addasu’r cwrs i’ch llwybr gyrfaol chi, ond gallai llwybr nodweddiadol gynnwys y Modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), lle gallwch hawlio’r credyd am ddysgu trwy brofiad, ac 20 credyd ychwanegol ar gyfer eich adolygiad adfyfyriol. Wedyn, argymhellir yn gryf eich bod yn dilyn y modwl Dulliau Ymchwil cyn ymgymryd â modwl Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith lle byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a chyflwyno.
Optional
(30 credydau)
(30 credydau)
Optional
(20 credydau)
*Diffinnir Cydnabod Dysgu Blaenorol drwy Brofiadau (RPEL) fel y broses a ddefnyddir i werthuso dysgu drwy brofiadau blaenorol ac i ddyfarnu credydau amdano. Gellir disgrifio dysgu drwy brofiadau fel y wybodaeth a’r sgiliau a geir drwy brofiadau bywyd, profiadau gwaith a thrwy astudio nad ydynt yn cael eu hardystio’n ffurfiol trwy unrhyw ardystiad addysgol neu broffesiynol. Gallai hefyd gynnwys dysgu sy’n deillio o ddatblygiad staff a ddarperir gan unrhyw sefydliad, sydd heb ei arholi trwy unrhyw un o’r systemau arholi cyhoeddus. Y cyrhaeddiad dysgu, neu ddeilliannau’r dysgu hwnnw, ac nid dim ond profiad y gweithgareddau ar eu pen eu hunain, y gellir eu hystyried am gydnabyddiaeth.
Compulsory option
(60 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 mlynedd o brofiad gwaith.
-
Defnyddir amrywiaeth o asesiadau i herio dysgwyr. Mae ffocws academaidd cryf o fewn y rhaglen ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol.
-
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gofynnol ar gyfer y cwrs. Mae opsiwn i gynnal asesiad Seicometrig Insights.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar ein gwefan.