Skip page header and navigation

Rheoli Cynaliadwyedd (Ar-lein) (Rhan amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Rhan amser

Nod y rhaglen hon yw datblygu arweinwyr creadigol a fydd yn cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd byd-eang sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn creu dyfodol cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer busnes a chymdeithas.


Yr MBA yw’r prif gymhwyster ar gyfer rheolwyr a’r rhai sy’n awyddus i fod yn rheolwyr, neu’r rhai sydd am helpu i lunio dyfodol eu sefydliad. 


Gyda rhaglen MBA PCYDDS fydd ddim angen teithio na gofynion presenoldeb: Mae’r cwbl ar-lein. 


Rydym yn gobeithio y bydd ein graddedigion yn rhan o’r weledigaeth o lywio meddylfryd busnes y byd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i astudio cwrs MBA fydd yn eich paratoi ar gyfer arweinyddiaeth ym maes cynaliadwyedd.
02
Cewch ddysgu mewn ffordd gydweithredol gyda myfyrwyr o bob cwr o'r byd.
03
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn caniatáu i chi gyfuno eich gwaith gydag eich astudiaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae cael arferion busnes cynaliadwy yn dod yn flaenoriaeth strategol allweddol. Mae’r sefydliadau hynny sydd wedi dechrau sylweddoli bod angen newid eu harferion a’u modelau economaidd mewn ymateb i newidiadau cymdeithasol ac amgylcheddol, a bod arferion cynaliadwy, mewn gwirionedd, yn gwneud busnes yn fwy llwyddiannus.


Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at unigolion sy’n ymwneud ag arferion cynaliadwy o fewn unrhyw sefydliad.  Bydd dysgwyr yn ail-ystyried y ffyrdd y mae busnesau’n gweithio, a hynny trwy ymgysylltu â’i gilydd ar-lein, trwy rannu a chwestiynu arferion presennol, a thrwy sbarduno newid gyda chymuned ddysgu gydweithredol ar-lein.


Mae’r rhaglen yn cynnig profiad dysgu ysgogol dan arweiniad staff sydd â dealltwriaeth o’r byd academaidd, o arfer dda broffesiynol ac o ymgysylltu allanol.  Mae gwerthoedd datblygu cynaliadwy, dinasyddiaeth fyd-eang a chydweithio yn rhan ganolog o gynnwys a dull dysgu’r rhaglen.  Trwy gynnig profiad dysgu ar-lein cydweithredol sy’n ymateb i’r galw cynyddol yn fyd-eang am ailystyried beth yw arweinyddiaeth, nod y rhaglen hon yw datblygu arweinwyr creadigol a fydd yn cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd byd-eang sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac sydd â’r wybodaeth, y sgiliau, a’r dylanwadau angenrheidiol er mwyn datblygu dyfodol cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer busnes a chymdeithas.


Bydd myfyrwyr y rhaglen yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o sefydliadau, y cyd-destun allanol y maen nhw’n gweithredu ynddo, a sut y cant eu rheoli trwy ymgysylltu â’u harferion mewn modd beirniadol.


Mae gan PCYDDS brofiad sylweddol o gefnogi dysgwyr o bell. Fel dysgwr MBA ar-lein, byddwch yn rhan o raglen astudio sydd wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i’ch gwaith a’ch uchelgais chi ar hyn o bryd. Yn ystod y rhaglen, byddwch yn trafod yr holl ddadleuon a materion allweddol sy’n wynebu sefydliadau. Gydag eich tiwtoriaid byddwch yn ymgysylltu â myfyrwyr MBA eraill ledled y byd er mwyn mynd i’r afael â heriau allweddol. Byddwch yn dysgu gydag eraill mewn gwahanol leoliadau ac mewn gwahanol gyd-destunau busnes, gan roi cyfle i chi ystyried ystod o ddulliau, arferion a safbwyntiau gwahanol ar gynaliadwyedd o fewn Busnes.


Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno o fewn ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir ar-lein, lle byddwch yn cael mynediad at eich holl weithgareddau dysgu allweddol, eich adnoddau a’ch grŵp dysgu, a hynny gan ddefnyddio’r apiau a’r offer cyfathrebu rhyngweithiol diweddaraf. Bydd gwasanaethau cymorth ein Prifysgol ar gael ar eich cyfer trwy gydol eich astudiaethau.
 

Gorfodol

Her Cynaliadwyedd

(30 credydau)

Arfer Rheoli: Persbectif Beirniadol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Byddwch yn cael eich ystyried gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

    • Fel arfer, byddwch angen gradd anrhydedd 2:2 o leiaf, neu gymhwyster cyfwerth priodol, h.y. cymhwyster proffesiynol gan sefydliad cydnabyddedig o Brydain neu dramor.
    • Bydd rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan sefydliad neu’n cael eu cyflogi gan sefydliad, fel bo modd iddyn nhw ddefnyddio eu cyd-destun proffesiynol yn eu dysgu.
    • Cymhelliant ac uchelgais amlwg a phriodol ar gyfer astudio MBA Arwain Cynaliadwyedd.
    • Bydd angen bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer mynediad ar Raglenni MBA, sef, yn bennaf, gallu’r ymgeisydd i gwblhau’r rhaglen yn foddhaol ac i elwa ohoni.
    • Byddwn yn ystyried derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni’r meini prawf cyffredinol os gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw’r gallu i gwblhau’r rhaglen ar y safon academaidd ofynnol, ac y byddan nhw’n gallu cyfrannu at brofiadau dysgu’r rhaglen ac i elwa ohonyn nhw.
    • Ni fydd angen bod yn bresennol yn y DU ar gyfer y rhaglen MBA Arwain Cynaliadwyedd ar-lein/dysgu o bell.
    • Dylai ymgeiswyr sydd wedi’u haddysgu a’u hasesu mewn ieithoedd heblaw’r Saesneg allu dangos hyder wrth astudio trwy’r Saesneg ar lefel sy’n cyfateb i IELTS 6.0.
    • Bydd ymgeiswyr angen mynediad priodol at offer cyfrifiadurol er mwyn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rithwir y Brifysgol.
       

    O ran cymwysterau a meini prawf mynediad y Rhaglenni MBA, gall yr ymgeisydd feddu ar:-

    • (i) Radd baglor heb anrhydedd mewn pwnc cysylltiedig gan brifysgol yn y DU yn ogystal â thystiolaeth o brofiad perthnasol (dwy flynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
    • (ii) Gradd baglor ag anrhydedd mewn pwnc sydd ddim yn gysylltiedig gan brifysgol yn y DU yn ogystal â thystiolaeth o brofiad perthnasol (dwy flynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
    • (iii) Gradd ardystiedig gan sefydliad y tu allan i’r DU sy’ cyfateb i’r rhai a bennir yn (i) a (ii) uchod.
    • (iv) Cymwysterau sydd ddim yn raddau, fel Diploma Cenedlaethol Uwch, mewn pwnc cysylltiedig (e.e. EdExel), neu gymwysterau tramor cyfatebol, pan fo’r ymgeisydd â phrofiad priodol trwy eu cyflogaeth (tair blynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
    • (v) Cymwysterau gan Gyrff Proffesiynol perthnasol eraill, sydd ar lefel is na Gradd Anrhydedd y DU ond sy’n dangos profiad proffesiynol perthnasol (tair blynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
       

    Gall ymgeiswyr sydd wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig, sydd â phrofiad mewn maes/disgyblaeth/pwnc cysylltiedig, profiad gwirfoddol diffiniedig, neu brofiad maes cyflogaeth cysylltiedig gael eu derbyn ar y rhaglen heb radd neu gymwysterau sy’n cyfateb i radd os gallan nhw ddangos eu potensial i fodloni gofynion dysgu’r rhaglen. 
     

    Mynediad Uwch gyda Chredyd APL/APCL
     

    Bydd ymgeiswyr sydd ag achrediad proffesiynol perthnasol a derbyniol yn cael eu hystyried fel eithriadau.  Sylwer: nid yw achrediadau sydd eisoes wedi’u derbyn o fewn yr adran cymwysterau yn dderbyniol.
     

    Cyfweliadau
     

    Fel arfer, bydd pob ymgeisydd ar lefel ôl-raddedig yn cael cyfweliad. Gallwn gynnig lle ar sail y ffurflen gais yn unig, gan gynnwys hanes academaidd, y datganiad personol a’r geirda.
     

    Bydd gofynion ychwanegol ar fyfyrwyr rhyngwladol pan nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a bydd angen iddyn nhw ddangos bod eu Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn bodloni gofynion y Rhaglenni MBA. 
     

    Fel arfer, bydd angen sgôr prawf IELTS o 6.0, neu 232 ar gyfer y prawf cyfrifiadurol neu dystiolaeth neu eirda sy’n dangos eich bod wedi gweithio trwy gyfrwng y Saesneg am gyfnod o fwy na blwyddyn. Cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol am gymorth gyda’r prawf neu i ddarparu tystiolaeth arall. international.registry@uwtsd.ac.uk
     

  • Bydd yr holl asesiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein, ac maen nhw’n adeiladu ac yn myfyrio ar y gweithgareddau cydweithredol sy’n digwydd o fewn y modiwlau. Bydd y tiwtor yn rhoi adborth ffurfiannol a chrynodol, a byddan nhw ar gael i egluro eu hadborth ymhellach drwy e-bost, galwad ffôn a/neu Skype, os bydd y myfyriwr yn dymuno hynny. Bydd adborth ar gyfer y camau cynnydd a’r dyfarniad yn cymryd lle yn unol â rheoliadau safonol y Brifysgol ar gyfer rhaglenni Meistr. Bydd trefniadau ar gyfer ail-sefyll yn cael eu darparu drwy Amgylchedd Dysgu Rithwir y Brifysgol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol.


    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau, fel ar gyfer y traethawd hir, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd myfyrwyr ar y rhaglen yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o sefydliadau, y cyd-destun allanol y maen nhw’n gweithredu ynddo ynghyd â chynnig cyfle i ddadansoddi sut y cant eu harwain a’u rheoli. 


    Bydd cyfleoedd i ddechrau ar yrfaoedd neu i ddatblygu gyrfaoedd o fewn sefydliadau sy’n ceisio ail-lunio ei hun drwy gyflogi unigolion allweddol sydd â’r gallu i’w harwain trwy gydol y daith sy’n arwain at gynaliadwyedd. 


    Mae swyddi allweddol posibl yn cynnwys: Rheolwr Cynaliadwyedd; Arweinydd mewn Datblygu Adnoddau Dynol, Rheolwr Prosiect, Ymgynghorydd; Gweithredydd Cynaliadwyedd neu Asiant Newid mewn Busnes, Diwydiant, Datblygu; Y Celfyddydau; Mentrau Cymdeithasol; Llywodraeth; Cyrff Anllywodraethol; Elusennau, iechyd neu addysg.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau