Skip page header and navigation

Rheolaeth Adnoddau Dynol (Rhan amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Rhan amser

Mae ein rhaglen Rheolaeth Adnoddau Dynol yn darparu dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth, gan ganiatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes arbenigol adnoddau dynol. Bydd integreiddio modylau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dewis y llwybr hwn ddealltwriaeth glir o ofynion y corff proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon.

Bydd modylau’n cynnwys disgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheolaeth adnoddau dynol a datblygiad proffesiynol ond fe fydd hefyd yn cynnwys modylau disgyblaeth-benodol, fel Arwain a Datblygu Pobl a Rheoli Perthnasau Gweithwyr. Mae sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o’r modylau.

Mae’r modylau adnoddau dynol yn ymgorffori hanfodion y ddisgyblaeth wedi’u halinio â chymwysterau proffesiynol CIPD. Byddant yn rhoi i chi ddealltwriaeth glir o’r ffordd y gall sefydliad greu gwerth trwy ei bobl.

Byddwch yn cynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, ac yn paratoi ar gyfer, a datblygu gyrfa rheoli posibl trwy gaffael ystod o wybodaeth a sgiliau busnes penodol, ynghyd â gwell hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HRM1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant ac ymchwil at yr addysgu.
02
Modylau’n cydweddu â gofynion y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad.
03
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein BA (Anrh) Rheolaeth Adnoddau Dynol yn darparu dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth, gan ganiatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes arbenigol adnoddau dynol. Bydd integreiddiad modylau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dewis y llwybr hwn ddealltwriaeth glir o ofynion y corff proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon. 

 Gorfodol

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Gorfodol

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Gorfodol

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Rheoli Perfformiad Ariannol

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Gorfodol

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol Annibynnol
Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu

(6 credydau)

Gorfodol

Arwain a Datblygu Pobl

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Rheoli Cysylltiadau Gweithwyr

(20 credydau)

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Moeseg Fyd-eang

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd gyda thasgau “byd go iawn” sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau