Skip page header and navigation

Sgiliau Menter (Rhan amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Rhan amser

Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau presennol er mwyn datblygu eich cymwyseddau sydd, yn ôl y dystiolaeth, yn hanfodol i lwyddiant ledled y byd.

Mae meistroli set o sgiliau a chymwyseddau entrepreneuraidd craidd yn hanfodol i lwyddiant pob menter. Mae’r dystysgrif lefel 7 dyfeisgar yma wedi’i achredu gan PCYDDS ac yn defnyddio fframwaith byd-eang a llwyddiannus Entrecomp, a fydd yn datblygu eich sgiliau a’ch gallu i wireddu eich syniadau.  Dyma gwrs sydd wedi’i deilwra i gefnogi dysgwyr o amrywiaeth o sectorau, ac mae wedi’i baratoi yn arbennig ar gyfer unigolion sy’n amau na fyddai cwrs busnes traddodiadol yn gweddu iddyn nhw, ond sy’n ymwybodol bod meithrin sgiliau entrepreneuraidd yn hollbwysig i lwyddiant eu gyrfa.

Mae’r Dystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Menter wedi’i gynllunio i roi cymorth ac arweiniad i unigolion sy’n awyddus i sefydlu neu ddatblygu eu busnes neu fenter gymdeithasol/dinesig, yn ogystal â’r rhai sydd am wella eu sgiliau entrepreneuraidd. Mae’r cwrs hefyd yn addas i addysgwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau menter fel myfyrwyr, gweithwyr sydd eisiau gwella eu sgiliau intrapreneuraidd, a buddsoddwyr sy’n gweithio gyda mentrau busnes entrepreneuraidd.

Yn y bôn, bydd y cwrs ar-lein hwn yn cynnig offer a thechnegau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddatblygu ac i weithredu cynllun busnes neu fenter gymdeithasol lwyddiannus. Mae’n gyfle gwych i ddysgu ac i ddatblygu sgiliau entrepreneuriaeth, i ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ac, o bosibl, i lansio, ehangu neu gefnogi eraill gyda’u mentrau busnes neu eu mentrau cymdeithasol/dinesig.

Bydd ein taith ddysgu yn cynnig y cyfleoedd canlynol:

  • Mynediad 100% ar-lein (mynediad 24x7)
  • 200+ o dasgau wedi’u cynllunio’n greadigol er mwyn datblygu eich cymwyseddau
  • 100+ astudiaeth sydd wedi eu seilio ar bobl go iawn fel chi
  • Cynnwys unigryw a radical wedi’i seilio ar fentrau llwyddiannus yr unfed ganrif ar hugain
  • Trefniadau sy’n cynnig cymhelliant i gynnal eich brwdfrydedd
  • Cyngor busnes pwrpasol a phersonol
  • Dilynwch eich dyheadau a dewch yn entrepreneur neu’n gyfrannwr mentrus ble bynnag rydych chi’n gweithio.

Gyda ni, gallwch feithrin meddylfryd a fydd yn denu:

  • Cyllid
  • Cyd-sylfaenwyr
  • Cwsmeriaid
  • Defnyddwyr gwasanaeth

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae ein cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau ailgyfeirio’r sgiliau y maen nhw wedi'u dysgu eisoes, p'un ai fel myfyriwr israddedig PCYDDS neu fel graddedigion o brifysgol bywyd.
02
Rydym yn defnyddio technegau profedig ac ymarferol sy'n annog creadigrwydd mewnol fydd yn eich helpu i ddod o hyd i lwybrau newydd ar gyfer y dyfodol.
03
Ydych chi hefyd eisiau bod yn gynaliadwy ac yn foesegol, yna rydym wedi cynnwys sawl elfen er mwyn eich ysbrydoli i fentro?

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ymchwil ryngwladol wedi adnabod yr elfennau hynny y mae mentrau eu hangen er mwyn llwyddo. Mae fframwaith EntreComp yn nodi 15 o wahanol alluoedd sydd, pan gânt eu cyfuno, yn creu llwybr tuag at lwyddiant. Dyna ble rydyn ni’n dechrau.
Trwy ganolbwyntio ar arferion yr Unfed Ganrif ar Hugain, fel meddwl chwim ac ystwyth a meddylfryd cadarnhaol byddwch yn cael eich ysbrydoli gan fusnesau newydd Arfordir Gorllewinol yr UDA. Byddwch yn dysgu trwy esiampl pa dechnegau y mae dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol, datblygwyr gemau, crefftwyr lleol crefftus, ac actifyddion aflonyddgar yn eu defnyddio.

Byddwch hefyd yn dysgu pa egwyddorion y mae entrepreneuriaid sy’n rhan o’r ysgol effeithiad (effectuation) o feddwl, sef y pwyslais ar fod yn ymarferol, yn eu defnyddio. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n dysgu pa bethau mae eich cwsmeriaid a’ch defnyddwyr gwasanaeth yn eu HOFFI am eich cynnig, yn hytrach na meddwl eich bod yn gwybod hynny cyn dechrau.

Ar y dechrau, bydd y cwrs yn eich helpu i greu gweledigaeth glir. Y weledigaeth hon fydd yn eich arwain i greu gwerth ar ffurf economaidd, yn ogystal â gwerth personol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod mentrau sy’n creu hwyl, cyfiawnder cymdeithasol, dylanwad a chytgord yn tueddu i fod yn fwy gwydn a llwyddiannus nag eraill yn y tymor hwy.

Syniadau a Chyfleoedd mewn Menter

(20 credydau)

Rheoli Adnoddau mewn Menter

(20 credydau)

Gweithredu mewn Menter

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Caiff pob cais ei ystyried yn ôl eu teilyngdod unigol. Fe fyddan nhw’n cael eu hasesu gan ddefnyddio dull cyfunol o werthuso, sy’n ystyried statws proffesiynol a phrofiad gwaith yn ogystal â chyflawniad academaidd.

    Gofynion Saesneg

    Os nad Saesneg ydy eich iaith gyntaf, efallai y byddwn angen tystiolaeth o’ch gallu i ddefnyddio Saesneg ar ffurf prawf cydnabyddedig (IELTS, TOEFL neu PTE-A). Yn y prawf hwn byddwch angen sgorio o leiaf:

    • IELTS: 5 yn gyffredinol, heb farc is na 5.5 mewn unrhyw is-brawf; neu
    • TOEFL ar y rhyngrwyd:
      • Ar gyfer ymgeiswyr o’r tu allan i’r DU: 90 yn gyffredinol, gydag isafsymiau sgôr o: Gwrando - 17, Darllen - 18, Siarad 20, Ysgrifennu - 17
      • Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol o’r tu allan i’r DU/Undeb Ewropeaidd: 90 yn gyffredinol, gydag isafsymiau sgôr o: Gwrando - 21, Darllen - 22, Siarad - 23, Ysgrifennu - 21; neu
    • PTE-A (Prawf Pearson o Saesneg Academaidd): 60 yn gyffredinol, heb farc is na 51 yn yr is-brofion
  • Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o asesiadau ffurfiannol a chrynodol.

    Asesiad Ffurfiannol

    Mae’r gweithgareddau dysgu yn annog ac yn cefnogi myfyrwyr i gynhyrchu portffolio digidol sy’n cynnwys ymarferion myfyriol a fydd yn datblygu eu gwerthfawrogiad o fenter ac yn eu helpu i adnabod eu gallu a’u potensial ac i gyfleu hynny i eraill.

    Cynlluniwyd y gwaith er mwyn meithrin sgiliau meddwl ar lefel uwch. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gasglu bydd yn ffurfio’r ddogfennaeth angenrheidiol y gall y fenter ei gyflwyno i ddarpar rhanddeiliaid, gweithwyr a noddwyr yn y dyfodol.

    Bydd y gwaith yn cael ei grynhoi o fewn ffolder Microsoft OneNote lle bydd eich cyd-fyfyrwyr yn gallu gweld rhai elfennau, neu gellir ei rannu ar sail bersonol un i un gyda’r tîm sy’n gyfrifol am y cwrs.

    Byddwn yn cynnig hyfforddiant OneNote i’r rhai sydd ei angen.

    Mae cyflwyno portffolio yn cefnogi asesu ffurfiannol, lle gall y tîm sy’n cyflwyno a’u cyfoedion gael eu gwadd i roi adborth ar gynnydd a pherfformiad yn ôl yr angen.

    Asesiad Crynodol

    Mae asesiadau crynodol yn cael eu cynnal ar ddiwedd pob tymor, a’u nod yw arddangos dysg y myfyrwyr drwy ofyn iddyn nhw greu’r ddogfennaeth y byddan nhw ei angen er mwyn sefydlu, cyllido a gwireddu prosiect neu fenter benodol.

    Bydd gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno ar ffurf dogfennau Word neu PDF gan ddefnyddio’r porth asesu Turnitin sy’n gyfarwydd i’n myfyrwyr presennol. Mae hyn yn golygu bod angen llunio llyfryddiaeth a chyfeiriadaeth gywir er mwyn osgoi camgymeriadau llên-ladrad.

    Bydd cyflwyniadau fideo yn digwydd ar Microsoft Stream. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar sut i’w ddefnyddio. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno i’r tîm sy’n gyfrifol am y cwrs yn breifat, ond mae modd ei ddefnyddio hefyd fel rhan o’r cynllun buddsoddi pe byddai’r myfyriwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

    Modiwl 1: Syniadau a Chyfleoedd

    Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu syniadau a chyfleoedd menter sy’n greadigol. Cyfleoedd sy’n bwrpasol i werthuso gwahanol fathau o werth, i adnabod anghenion ynghyd â chyfrifoldeb i gefnogi pobl a’r blaned, ac i wynebu heriau newydd.

    Mae dau asesiad:

    Mae Asesiad 1 yn cynnwys achos busnes 3,500 o eiriau sy’n egluro manteision a chyfleoedd sy’n amlygu eu hunain o syniad y myfyriwr o ran creu a chynyddu gwerth.

    Mae Asesiad 2 yn gyflwyniad byr (elevator pitch) sy’n cyflwyno’r syniad mewn ychydig eiriau. Bydd yr aseiniad yn cynnwys fideo 6 munud i gyflwyno syniad drwy baratoi brîff. Bwriad hynny fydd ennyn diddordeb yn y syniad ac i drosglwyddo’r wybodaeth honno â rhanddeiliaid ac eraill fydd yn cael budd posibl o wireddu’r syniad busnes.

    Modiwl 2: Rheoli Adnoddau

    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ysbrydoli ac i gysylltu ag eraill. Byddan nhw’n diffinio ac yn rheoli’r adnoddau y byddan nhw eu hangen i sicrhau bod eu menter yn fenter hyfyw.

    Mae dau asesiad:

    Mae Asesiad 1 yn cynnwys paratoi cais am gyllido’r fenter. Bydd modd i’r myfyriwr i ddewis pa ddull cyllido sydd fwyaf perthnasol. Gall hynny fod yn drwy gyllido torfol (crowdfunding) neu ffynhonnell arall o gyllido o’u dewis nhw. 

    Mae Asesiad 2 yn gyflwyniad neu MVP sydd wedi’i baratoi gyda’r dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio ar y cwrs (Canva).

    Modiwl 3: Ar Waith

    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i drefnu ac i lansio menter, a hynny trwy gydweithio a rhyngweithio ag eraill a thrwy ddysgu o brofiad.

    Mae dau asesiad:

    Mae Asesiad 1 yn gynllun sy’n disgrifio’r cynnydd a ragwelir ar gyfer y busnes. Bydd hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio’r sgiliau ac ennill trwy gynllunio Agile a’r defnydd o MOSCOW.

    Mae Asesiad 2 yn cynnwys paratoi fideo 10 munud sy’n egluro llwyddiannau, heriau a chynnydd y daith fusnes hyd yn hyn. Bydd hynny’n cael ei wneud drwy gyfrwng cyfweliad neu Viva.
     

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i arwain yn uniongyrchol at sefydlu busnes, prosiect yn y gweithle neu sefydlu menter. Mae’r model hwn yn cefnogi hunangyflogaeth. Gall y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth ychwanegu at y cymwyseddau hynny a fyddai’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau