Skip page header and navigation

Rheoli Eiddo a Chyfleusterau (Rhan amser) (MSc)

Abertawe
2-3 Blynedd Rhan amser

Mae Rheoli Cyfleusterau yn un o’r proffesiynau sy’n tyfu ar y raddfa gyflymaf yn y DU. Mae’n cyflwyno dull cyfannol, integredig o ddarparu ac o reoli eiddo a’r gwasanaethau cymorth cysylltiedig gan alluogi’r sefydliad a’r unigolyn i reoli asedau, cynnwys a chydrannau mewn ffordd ragweithiol ac effeithiol, a hynny er budd y defnyddwyr.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2-3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Amgylchedd dysgu cefnogol, gyda sylw personol yn cael ei roi i bob myfyriwr.
02
2. Y profiadau dysgu llwyddiannus a phleserus sydd wrth graidd ein gweledigaeth i greu gweithwyr proffesiynol heb eu hail sydd â sgiliau cyflogadwyedd uchel.
03
Lleoliad trefol/arfordirol sy'n agos iawn at 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' cyntaf Prydain gydag adeiladau diddorol yn ogystal â chyfleusterau diwylliannol gerllaw.
04
Dosbarthiadau o 15 neu lai fel arfer, sy’n creu diwylliant ac awyrgylch lle bydd anghenion myfyrwyr unigol yn cael eu clywed a’u cefnogi.
05
Addysg sy’n cael ei lywio gan waith ymchwil mewn pynciau sy'n ymestyn ar draws ein portffolio, gyda chefnogaeth briodol gan arbenigwyr allanol o bob cwr o'r byd.
06
Rydym yn credu mewn cysylltu â chyflogwyr er mwyn cyflwyno a pharatoi cyrsiau sy'n gwella cyflogadwyedd ein graddedigion mewn ffordd sy'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer y myfyrwyr, y ddinas a'r rhanbarth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr rhan-amser cyffrous sydd â digon o hyblygrwydd i ganiatáu unigolion sydd â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau eraill i ennill gradd Meistr ym maes Rheoli Cyfleusterau, Eiddo ac Asedau. Mae’r rhaglen yn fodiwlaidd, gan gynnwys modiwlau craidd a rhai dewisol yn ystod Rhan Un, a Thraethawd Hir, sydd fel arfer yn gysylltiedig â byd gwaith yn Rhan Dau. Yn aml, bydd y traethawd hir yn cael ei gwblhau o bell, gyda chefnogaeth lawn yn cael ei ddarparu gan dîm goruchwylio profiadol yn ogystal â chefnogaeth staff o arbenigwyr y Brifysgol.

Does dim un sefydliad addysgol arall yng Nghymru a de-orllewin Lloegr sy’n cynnig cymhwyster ôl-raddedig ym maes rheoli cyfleusterau. Dyma raglen sy’n gwbl addas i uwch-reolwyr, neu’r rhai sy’n awyddus i fod yn uwch-reolwr. Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â’r materion drwy fabwysiadu’r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf arloesol sy’n effeithio ar strategaeth mewn perthynas ag ystadau, eiddo, cyfleusterau a gwasanaethau busnes corfforaethol. Ar hyn o bryd, y drefn yw bod Rhan Un yn cael ei gyflwyno ar gampws SA1 yn Abertawe, gyda’r myfyrwyr yn bresennol, ac fel arfer bydd y cyfnodau addysgu yn cymryd lle ar brynhawn dydd Mercher, rhwng 2.00pm ac 8.00pm.

Daw’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr o amryw o wahanol ddisgyblaethau arbenigol, gan gynnwys peirianneg, y gwasanaethau adeiladu, tirfesur, gwasanaethau gwesty, gweinyddu busnes cyffredinol, rheoli cyfleusterau caled a meddal, eiddo, rheoli prosiectau, cynllunio trefol, gofal iechyd, a llawer mwy. Mae’r cwmnïau sydd wedi cyflogi ein myfyrwyr yn cynnwys Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus rhyngwladol, llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, practisau proffesiynol, prifysgolion, Colegau Addysg Bellach, Cymdeithasau Tai, sefydliadau rheoli cyfleusterau allanol, Asiantaethau Llywodraeth Cymru ac yn y blaen.

Gorfodol

Cynnal a Chadw Adeiladau a Rheoli Asedau

(20 credydau)

Gwasanaethau Adeiladu a Pherfformiad Ynni mewn Adeiladau

(20 credydau)

Rheoli'r Amgylchedd Gweithio Integredig

(20 credydau)

Gorfodol

Rheoli Ynni ac Adnoddau

(20 credydau)

Eiddo, Cyllid a Chaffael Strategol

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Craidd

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld. Rydyn ni’n gweld myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn ymuno â’r cwrs sy’n cynnwys y rhai sydd â gradd Anrhydedd neu uwch mewn maes sy’n gysylltiedig â chyfleusterau, eiddo, yr amgylchedd adeiledig neu reoli busnes yw’r llwybr mwyaf addas o bosibl. Rydym fodd bynnag yn annog ymgeiswyr sydd â chyfoeth o brofiad ymarferol ac/neu gymwysterau technegol neu broffesiynol eraill sy’n berthnasol i wneud cais hefyd, a byddan nhw’n cael eu cyfweld â’u mentora yn unigol. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw addysg neu brofiad blaenorol ar y lefel hon.

  • Byddwch yn cael eich asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys aseiniadau sy’n ymwneud ag astudiaethau achos o’r diwydiant, rhai arholiadau ffurfiol, paratoi cyflwyniadau i baneli, a thraethawd hir a allai ganolbwyntio ar faes cyflogaeth y myfyriwr neu faes y maen nhw’n awyddus i ymuno â’r maes hwnnw.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr mewn cyflogaeth lawn-amser, ac mae sawl un o’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr wedi llwyddo i wella eu gyrfa o ganlyniad i’w hastudiaethau ffurfiol â’r Brifysgol.  Mae gennym ymgeiswyr sy’n gweithio i Gwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus rhyngwladol, cyrff ac asiantaethau a ariannir gan y llywodraeth ganolog, tai cymdeithasol, maes addysg a gofal iechyd.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau