Skip page header and navigation

Rheolaeth Busnes (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae ein Gradd Rheolaeth Busnes yn Abertawe yn berffaith os ydych chi’n gobeithio gweithio ym myd busnes, boed hynny’n lleol neu ledled y byd. Bydd ein rhaglen yn rhoi dealltwriaeth gref i chi o fusnes a rheolaeth wrth eich helpu i ddatblygu sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Yn y radd hon, byddwch yn dysgu am feysydd allweddol fel cyllid, rheolaeth adnoddau dynol, marchnata, a chyfrifeg. Mae’r pynciau hyn yn hanfodol er mwyn deall sut mae busnesau yn gweithredu a llwyddo. Byddwch hefyd yn archwilio economeg a strategaeth, sy’n eich helpu i feddwl yn feirniadol am benderfyniadau busnes.

Un o’r pethau cyffrous am y cwrs hwn yw’r cyfle i ddysgu mewn ffordd ymarferol. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau yn y byd go iawn ac yn ennill profiadau ymarferol trwy weithgareddau allgyrsiol gyda gwahanol gwmnïau y mae gennym berthynas sefydledig gyda nhw. Nid yn unig mae hyn yn golygu y byddwch yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth ond byddwch hefyd yn rhoi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau busnes go iawn. Byddwch yn cwrdd ag ymarferwyr proffesiynol y diwydiant ac yn adeiladu rhwydwaith sy’n gallu agor drysau i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Hefyd, mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth. Byddwch yn dysgu sut i reoli timau, gwneud penderfyniadau strategol, ac annog arloesedd o fewn busnesau. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i unrhyw un sy’n gobeithio sefyll allan yn y byd busnes cystadleuol. Gyda ffocws ar gyflogadwyedd, mae ein cwrs wedi’i lunio i roi i chi’r wybodaeth arbenigol a’r profiad o ddiwydiant sydd eu hangen ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y maes busnes byd-eang.

Mae’r rhaglen hon yn sicrhau bod gennych sgiliau trawsnewid digidol ac arloesi gan eich paratoi ar gyfer rheolaeth busnes y dyfodol. Byddwch yn elwa o gyfleoedd helaeth i rwydweithio ac yn datblygu dealltwriaeth ddofn o arweinyddiaeth, strategaeth, ac entrepreneuriaeth.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
BMG1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
02
Y cyfle i astudio dramor.
03
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
04
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
05
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.
06
Cyfle i astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol wrth gyfathrebu, datrys problemau, ac arfer adfyfyriol. Erbyn diwedd eich astudiaethau, byddwch yn barod am yrfa lwyddiannus ym maes rheolaeth busnes, ac i gael effaith sylweddol ar wahanol sectorau.

Blwyddyn 1

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i hanfodion rheolaeth busnes, gan drin a thrafod pynciau hanfodol fel cyllid, rheolaeth adnoddau dynol, a marchnata. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o gyfrifeg, gan osod y sylfeini ar gyfer astudiaethau uwch. Trwy aseiniadau a phrosiectau ymarferol, byddwch yn dechrau rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn sefyllfaoedd busnes yn y byd go iawn.

Blwyddyn 2

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol ac yn dechrau archwilio meysydd manylach fel arfer marchnata, rheolaeth perfformiad ariannol, a hanfodion cyfraith contract. Yn ogystal, cewch gyfle i fynd am gyfnod i astudio dramor, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr a chyfoethogi eich cyflogadwyedd.

Blwyddyn 3

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ffocysu ar bynciau uwch gan ganolbwyntio ar foeseg, cynaliadwyedd, arweinyddiaeth, a rheolaeth. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol, lle byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth i broblem neu gyfle busnes. Bydd y cwrs yn rhoi i chi’r sgiliau sydd eu hangen i yrru llwyddiant busnes mewn amgylchedd byd-eang sy’n newid yn gyflym.
 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Gorfodol

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Marchnata ar waith

(20 credydau)

Rheoli Perfformiad Ariannol

(20 credydau)

Cyfraith Contract

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Materion Cyfoes mewn Rheolaeth

(20 credydau)

Moeseg Fyd-eang

(20 credydau)

Arwain a Datblygu Pobl

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rheini sydd wedi astudio meysydd pwnc eraill cyn cael mynediad i’r cwrs yn ogystal ag ymgeiswyr sydd wedi astudio’r pwnc hwn yn y gorffennol.   Yn benodol, gall ymgeiswyr â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen yn dilyn asesiad o’u tueddfryd.  Mae’r rhaglen yn croesawu ymgeiswyr sydd â dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r“byd go iawn”sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol. Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. Yn 2015/16 roedd 98% o raddedigion yr Ysgol Fusnes mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach ar ôl chwe mis.

    Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir. Hefyd, fe fydd yna gyfleoedd i ymuno â rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y cyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau