Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol wedi’u lleoli ar ein campysau yn Abertawe, Caerdydd a Chaerfyrddin ac maent yn cynnig amrywiaeth o weithdai arbenigol, cyfleusterau a mannau stiwdio.     

Our Facilities Include

Neuadd fawr a ddefnyddir fel gweithdy a storfa; mae mwgwd mawr papier-mâché o Mr Punch yn hongian o lawr y llofft ganol; mae grŵp o wyth o fyfyrwyr yn sefyll neu’n eistedd ar focsys storio i wrando ar eu tiwtoriaid.

Cyfleusterau Caerfyrddin

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio ar gampws Caerfyrddin fynediad at weithdai arbenigol a mannau stiwdio a hefyd maen nhw’n elwa ar brofiad trochol ar y campws lle mae popeth ar garreg y drws, ac i gyd o fewn taith fer ar droed i dref farchnad hyfryd Caerfyrddin.  

Mae dawnswyr ifanc yn ymarfer eu symudiadau o flaen drychau mawr.

Cyfleusterau Caerdydd

Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn Nhŷ Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns â llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas. 

Mae dyn ifanc mewn crys-t oren a chap pêl fas yn gwenu wrth iddo addasu’r deialau a llithryddion ar fwrdd cymysgu.

Ein Cyfleusterau yn Abertawe

I’n myfyrwyr sy’n astudio BA Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Abertawe, mae’r cyfleusterau o fewn adeiladau Coleg Celf Abertawe yn cynnwys mynediad at Neuadd y BBC, stiwdios recordio o safon y diwydiant, cyfleuster cymysgu analog, a Stiwdio Gymysgu Dolby Atmos 9.1.4. 

Oriel Gyfleusterau

Bywyd ar y Campws

Profiad a Chyfleusterau 

Trwy ddefnyddio ei ffôn, mae dynes ifanc yn ffilmio myfyriwr gwrywaidd yn chwarae gitâr acwstig.

Profiad a Chyfleusterau

Dysgwch ragor am y cyfleusterau sydd ar gael ar ein campysau. 

O’r llyfrgell a mannau astudio i ddewisiadau o ran llety, cyfleusterau chwaraeon, caffis ac ati.

Dysgwch ragor am y profiad a chyfleusterau yn PCYDDS