Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Fel myfyriwr yn y diwydiannau perfformio yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer.  

Cluster Facilities

Mae ein cyfleusterau arbenigol i’r Diwydiannau Perfformio yn cynnwys y canlynol:    

Mae gan fyfyrwyr BA Actio a MA Theatr Gymhwysol fynediad at fan perfformio y Llwyfan, mannau ymarfer Stiwdio Parry, Theatr Halliwell a dwy stiwdio ddawns.

Mae gan fyfyrwyr Dylunio Set a Chynhyrchu fynediad at ddau weithdy – y prif weithdy theatr a’r hen weithdy cerameg.   

Hefyd mae gan fyfyrwyr fynediad at ystafell Mac, pensetiau VR ac Ystafell Drochi’r campws.  

Neuadd fawr a ddefnyddir fel gweithdy a storfa; mae mwgwd mawr papier-mâché o Mr Punch yn hongian o lawr y llofft ganol; mae grŵp o wyth o fyfyrwyr yn sefyll neu’n eistedd ar focsys storio i wrando ar eu tiwtoriaid.

Ein Lleoliad  

Mae Caerfyrddin yn cynnig canolfan gyfoethog a bywiog o greadigrwydd sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau o’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformio gyda phrosesau ffilm a chyfryngau digidol uwchdechnoleg, i greu cymuned ddysgu sy’n ddeinamig, arloesol a chyffrous. Mae’r campws yn bair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid wedi’i leoli o fewn adeiladau trawiadol ac eiconig. 

Three students walk towards the teaching and learning building; one has a Pride shoulder bag while another is carrying a red saxophone.

Mannau stiwdio   

Mae cylch o saith o fyfyrwyr yn neidio ar yr un pryd mewn stiwdio ymarfer dawnsio sydd â wal o ddrychau.

Mannau perfformio  

Cylch o fyfyrwyr mewn stiwdio ymarfer; yn y blaendir mae gŵn ddawnsio las yn hongian ar resel o wisgoedd.

Gweithdy Dylunio Set a Chynhyrchu  

Mae pedair myfyrwraig yn gwrando ar diwtor wrth sefyll yng nghanol gweithdy adeiladu set.

Mannau ymarfer 

Trwy ddefnyddio ei ffôn, mae dynes ifanc yn ffilmio myfyriwr gwrywaidd yn chwarae gitâr acwstig.
Golwg uwchben ar unigolyn ar ei benliniau wrth ochr rhan o lawr sgwariog; maent yn gafael mewn rholiwr paent.
A workshop with rough timber shelving supporting a collage of different set designs and notes.
A giant red papier-mâché dragon head in a workshop ready for deployment.
A young man lifts down a wrench from a large tool rack.

Gwahanol fath o ystafell ddosbarth mewn profiad trochol ar y campws  

Rydym yn tanysgrifio i’r syniad bod pobman yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Y cyfleoedd i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau yw lle caiff syniadau eu llunio, eu trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chyfleoedd. P’un a ydych chi’n actor, yn artist neu’n ddylunydd, byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr, a gydag, ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a chyfarwyddwyr. 

Mae pum myfyriwr yn eistedd ar gadeiriau mewn neuadd Fictoraidd sydd â phaneli pren, wrth i diwtor sefyll a siarad, gyda llaw wedi’i godi i bwysleisio rhywbeth.

Ystafell Drochi  

Yn yr ystafell drochi, mae myfyriwr yn eistedd wrth ddesg; mae golau gwyrdd o lamp desg yn disgleirio o gwmpas ei dwylo a’i hwyneb; mae un deg tri o bobl yn sefyll gyferbyn â hi yn gwylio, ac mae un dyn yn ffilmio gan ddefnyddio camera trybedd.
Oriel Gyfleusterau 

Campus Life (add relevant campus)

Bywyd ar y Campws  

students at Carmarthen Campus

Bywyd ar gampws Caerfyrddin

Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.