Skip page header and navigation

Our Facilities

Ein Cyfleusterau 

Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn Nhŷ Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns gyda llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas.  

Cluster Facilities

Mae ein cyfleusterau arbenigol i’r Celfyddydau Perfformio yn cynnwys y canlynol: 

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys theatr stiwdio, ystafell ddatganiadau, pedair stiwdio, ystafell ddosbarth, a labordy cyfrifiadurol â chyfrifiaduron Apple Mac. At hynny rydym ni’n cynnig Hwb Myfyrwyr a man ymneilltuo, gan ddarparu mannau hyblyg ar gyfer astudio ac ymlacio.  

Mae llinell o tua 14 o fyfyrwyr yn eistedd gan wynebu tiwtor wrth allweddell yn ystod ymarfer cerddoriaeth.
Llysgenhadon Myfyrwyr yn sefyll o flaen baner Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA)

Fideos 360° Tŷ Haywood

Croeso i Dŷ Haywood, canolfan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd. Ewch ar daith o gwmpas y lloriau gwahanol gyda’n fideos 360°.

Theatr Stiwdio 

Nine students in black stand in a dark room with a single white spotlight; they raise one arm in the air and look solemn.

Ystafell Ddatganiadau 

Saif darlithydd gydag un llaw ar allweddell piano, a’r llall wedi’i godi mewn ystum sy’n dangos pwyslais wrth iddo esbonio rhywbeth i’w gynulleidfa o fyfyrwyr.

Stiwdio Ddawns 

Mae tri myfyriwr yn ymarfer symudiadau dawns: cam sy’n swagro i’r dde gan glicio’r bysedd.

Tŷ Haywood 

Myfyrwyr yn sgwrsio yn nerbynfa Haywood House.
Oriel Gyfleusterau 

Bywyd ar y Campws

Bywyd ar y Campws  

Eistedda pedwar myfyriwr o gwmpas bwrdd mewn parc o flaen caban Brodies Coffee Company.

Darganfyddwch Gampws Caerdydd

Os ydych chi’n berfformiwr, neu’n dwlu ar y celfyddydau, byddwch chi’n dod o hyd i’r hyn sy’n iawn i chi yng Nghaerdydd.  Mae’n ganolfan gyffrous i bobl y theatr – lle sy’n gorlifo gyda chreadigrwydd a’r bwrlwm oesol cyn y sioe. Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl â diddordebau tebyg i chi.  Oherwydd fan hyn y dewch chi ar draws pobl o’r un anian greadigol a fydd yn dod yn ffrindiau pennaf am oes i chi.