Skip page header and navigation

Fideos 360° Tŷ Haywood

Fideos 360° Tŷ Haywood

Student Ambassadors outside Haywood House Cardiff

Fideos 360° Tŷ Haywood

Croeso i Dŷ Haywood, canolfan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd. Ewch ar daith o gwmpas y lloriau gwahanol gyda’n fideos 360°.

Llawr Gwaelod

Mae llawr gwaelod Tŷ Haywood newydd ei addurno mewn arddull modern syml gyda waliau gwyn a charpedi llwyd golau neu bren golau ar y lloriau. Mae’n cynnwys cyntedd, ardal dderbynfa ble gallwch gwrdd â’r tîm, ystafell ddosbarth, labordy cyfrifiaduron gyda phymtheg cyfrifiadur Apple Mac, stiwdio fawr gyda sgrin deledu a phiano cyngerdd, ac ystafell adrodd sy’n cynnwys piano cyngerdd arall, technoleg addysgu hybrid, yn ogystal â chegin yng nghefn yr ystafell. Mae’r coridorau wedi’u haddurno â ffotograffau o gynyrchiadau’r gorffennol.

Llawr Cyntaf

Mae llawr cyntaf Tŷ Haywood yn cynnwys dwy stiwdio ymarfer fawr. Stiwdio ddawns yw un ohonynt, sydd â llawr dawnsio Harlequin, drychau cludadwy a Barrau Ballet, ynghyd â system PA Yamaha a phiano llwyfan. Gofod hyblyg yw’r llall sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau dysgu. Mae’n cynnwys cyfleusterau darlithio a phiano llwyfan.

Ail Lawr

Mae ail lawr Tŷ Haywood yn cynnwys gofod stiwdio mawr gyda lloriau Le Mark a drychau cludadwy ynghyd â system PA Yamaha. Mae’n addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a gall ddarparu ar gyfer pob disgyblaeth dawns. Yn ogystal, ceir theatr stiwdio a gofod theatr ‘blwch du’ hyblyg gyda lloriau Le Mark.

Video