Noson Agored Coleg Celf Abertawe 4ydd Gorffennaf
Ymunwch â ni ar gyfer Noson Agored Coleg Celf Abertawe
Dysgwch fwy am ein hamrywiaeth eang o gyrsiau gradd a chyrsiau uwchraddedig mewn Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth.
- Ewch ar daith o gwmpas ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
- Dewch i gwrdd â’n darlithwyr ac i sgwrsio â’n myfyrwyr.
- Dysgwch pam ein bod wedi gwneud cystal yn nhabl cynghrair y Guardian 2024.
Beth mae ein Diwrnod Agored yn ei gynnig
Os dewch i un o Ddiwrnodau Agored PCYDDS, cewch gyfle i ddod i’n hadnabod ni, i weld a yw’r brifysgol yn addas i chi, ac i grwydro’r ddinas a allai ddod yn gartref i chi. Ar ddiwrnod agored, cewch gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu yn ogystal â chael cyfle i weld y cyfleusterau a’r mannau dysgu sy’n allweddol i’ch cwrs chi.
Dysgwch fwy am ble byddwch chi’n aros trwy siarad â’n timau llety, a thrafodwch pa ddewisiadau llety sydd ar gael i chi. Cewch sgwrsio gyda’r rhai sy’n astudio â ni ar hyn o bryd a chlywed ble sydd orau i gymdeithasu ac i fwynhau yn Abertawe.
Ac yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sydd o bwys i chi.
Gweld beth sydd gan Abertawe i'w gynnig.
Rhaglenni Israddedig
- Celf a Dylunio, Sylfaen (CertHe)
- Celf Gain (BA)
- Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith (BA)
- Darlunio (BA)
- Dylunio Cynnyrch a Dodrefn (BA/BSc)
- Dylunio Graffig (BA)
- Dylunio Patrymau Arwyneb (BA)
- Ffilm a Theledu (BA)
- Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA)
- Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau (BA)
- Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (BA)
Rhaglenni Ôl-raddedig
- Celf a Dylunio (MA)
- Dylunio - Deialogau Cyfoes (MA)
- Crefftau Dylunio - Deialogau Cyfoes (MA)
- Celf Gain - Deialogau Cyfoes (MA)
- Gwydr - Deialogau Cyfoes (MA)
- Dylunio Graffig - Deialogau Cyfoes (MA)
- Darlunio - Deialogau Cyfoes (MA)
- Ffotograffiaeth - Deialogau Cyfoes (MA)
- Tecstilau - Deialogau Cyfoes (MA)
- Cyfathrebu Gweledol - Deialogau Cyfoes (MA)
- PhD, MPhil, ProfDoc
Lleoliad
PCYDDS Coleg Celf Abertawe
Adeilad Alex
Abertawe
SA1 5DU
Y Deyrnas Unedig