Skip page header and navigation

Coleg Doethurol PCYDDS

Mae’r Coleg Doethurol yn ganolbwynt ar gyfer gwella hyfforddiant doethurol ein myfyrwyr a’u datblygiad fel ymchwilwyr. Rydym yn cynnal ein digwyddiadau ein hunain ac yn gweithio gyda rhaglenni ac Athrofeydd i ddarparu adnoddau, cyfleoedd i rwydweithio, a hyfforddiant ar gyfer ein myfyrwyr doethuriaeth amrywiol, sydd ar wasgar yn ddaearyddol o fewn cymuned fywiog sy’n tyfu.

Cymuned ddoethurol ddiddorol ac ysgogol

Mae Coleg Doethurol PCYDDS yn ganolbwynt ymchwil gyfoethog a bywiog gydag adnoddau, cyfleusterau, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pob myfyriwr ymchwil sy’n dilyn ein cyrsiau PhD, Doethuriaeth Broffesiynol gan gynnwys DBA, EdD, a DProf, yn ogystal ag MPhil, Mhres, ac MA trwy Ymchwil / MSc trwy Ymchwil.​ Mae’r cyfleoedd hyn i fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni PhD traddodiadol a rhai sy’n seiliedig ar ymarfer, rwydweithio â myfyrwyr sy’n astudio rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol sy’n canolbwyntio mwy ar arfer yn hanfodol wrth i astudiaethau doethuriaeth ddod yn fwy rhyngddisgyblaethol.

Mae hon yn gymuned o ysgolheigion sy’n cynhyrchu gwaith ymchwil arloesol sy’n gwella theori ac arfer. Ein nod yw cefnogi’r gwaith hwn, helpu i’w osod o fewn amgylchedd ymchwil ehangach PCYDDS, a helpu i ddatblygu ymchwilwyr rhagorol sy’n gallu gwneud cyfraniad sylweddol i’w dewis ddisgyblaeth neu arfer proffesiynol.

Mae ein myfyrwyr doethuriaeth yn elwa ar Raglen Datblygu Ymchwilwyr unigryw sydd wedi’i chynllunio ar gyferdatblygu eu sgiliau ymchwil a’u sgiliau proffesiynol. Mae cynhadledd myfyrwyr ymchwil flynyddol yn rhan o’r rhaglen hon, lle yn ogystal â chyflwyno eu gwaith eu hunain mae myfyrwyr yn cael y cyfle i archwilio syniadau, materion, ac arfer gyda chyfoedion eraill sydd yn hefyd yn fyfyrwyr gradd ymchwil o amrywiaeth eang o gefndiroedd disgyblaethol ac arfer.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr drwy:

  • Gefnogaeth gyson ragorol gan oruchwylwyr sydd ag arbenigedd a hyfforddiant perthnasol​
  • Mynediad i’r platfform Cymuned Ddoethurol unigryw - platfform ar-lein ar gyferr hwydweithio a chael mynediad at adnoddau a dogfennau rhaglenni
  • Darparu Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr gynhwysfawr sy’n cynnwys gweithdai, hyfforddiant ar-lein, a chyfleoedd eraill i ddatblygu
  • Mae’r Symposia Poster rheolaidd a’r Ysgol Haf Flynyddol ar gyfer pob myfyriwr doethuriaeth wedi’u cynllunio er mwyn annog dull rhyngddisgyblaethol a rhannu adnoddau.

Rydym yn cefnogi Goruchwylwyr trwy:

  • Ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu goruchwylwyr gynhwysfawr ar-lein, a chyfleoedd datblygu eraill
  • Mynediad i’r platfform Cymuned Ddoethurol unigryw - platfform ar-lein ar gyfer rhwydweithio, cael mynediad at adnoddau a dogfennau rhaglenni, cefnogaeth i oruchwylwyr wrth eu gwaith.