Skip page header and navigation

Ydych chi eisiau bod yn Oruchwyliwr y Coleg Doethurol?

Ochr yn ochr â’n gweithgareddau datblygu ymchwil helaeth i fyfyrwyr, mae’r Coleg Doethurol hefyd yn gweithio gyda goruchwylwyr graddau ymchwil er mwyn gwella profiad myfyrwyr ymchwil wrth iddynt astudio a meithrin gallu a sgiliau goruchwylio ar draws y brifysgol. Wrth i raddau ymchwil a gwaith ymchwil ddod yn fwyfwy rhyngddisgyblaethol, mae cefnogaeth a datblygiad goruchwylwyr wedi dod yn gynyddol bwysig. Rydym yn gweithio gydag Athrofeydd a rhaglenni i ddarparu gweithgareddau hyfforddi a datblygu eang a rhai mwy lleol yn benodol.​

Mae ein rhaglen datblygu goruchwylwyr wedi'i chynllunio i feithrin cymuned o ymarferwyr medrus iawn.​ Mae digwyddiadau’n cynnwys gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein, sesiynau cydamserol ac anghydamserol sy’n cwmpasu sgiliau goruchwylio craidd, gweithgareddau DPP uwch, a digwyddiadau sy’n cael eu harwain gan oruchwylwyr, gan ddefnyddio sgiliau a gallu o fewn rhwydwaith goruchwylio PCYDDS a thu hwnt i’r gymuned.​ Mae cymorth ychwanegol ar gael i oruchwylwyr newydd, gan gynnwys mentora i’r rôl.

Mae rhan o’r gwaith meithrin capasiti yn cynnwys meithrin grŵp eang o oruchwylwyr graddau ymchwil, gan gynnwys grŵp o staff sy’n cael eu cyflogi fel goruchwylwyr yn unig, gyda nifer ohonynt yn gweithio mewn prifysgolion eraill yn y DU ac sydd â phrofiad goruchwylio helaeth.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â dod yn oruchwyliwr graddau ymchwil yn PCYDDS,
cysylltwch â thîm y Coleg Doethurol.​