Skip page header and navigation

Croeso i fyd cyffrous y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona. Mae ein rhaglenni sydd â ffocws proffesiynol yn cynnig cyfle i weithio’n agos gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Dewch i wybod mwy am ein gradd mewn Eiriolaeth sy’n eich grymuso chi ac eraill. 

Ymgollwch mewn addysg sydd â ffocws proffesiynol a fydd yn mynd y tu hwnt i ddulliau traddodiadol. Mae ein rhaglenni cyfraith, troseddeg a phlismona yn cynnig profiad ymarferol ynghyd â chysylltiadau cymunedol ac yn y diwydiant, a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus. 

Cewch brofiad ymarferol trwy wirfoddoli gyda’r heddlu, mewn carchardai neu gyda chwmnïau cyfreithiol. Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau amrywiol yn y system cyfiawnder troseddol, gan sicrhau bod ein cyrsiau yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr.  

Dywedwch ffarwel wrth ddulliau addysgu traddodiadol wrth i ni gofleidio ffyrdd arloesol o ddysgu. Mae ein hamgylchedd cefnogol yn sicrhau cymorth academaidd a bugeiliol. Cewch fynediad i nifer fawr o lwybrau gyrfa, gyda llawer o fyfyrwyr yn ymuno â’r heddlu, y gwasanaethau cyfreithiol, neu’n dilyn cyrsiau gradd Meistr. Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol trwy gyfrwng lleoliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd i rwydweithio. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o gymuned lewyrchus. 
 
Rydym yn ymfalchïo yn ein dull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan gynnig dulliau addysgu a dysgu arloesol sy’n rhoi’r grym i chi lywio eich addysg eich hun. Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i fodloni gofynion y diwydiant a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori mewn maes sy’n datblygu’n gyflym. 
 

Efallai nad yw eiriolaeth yn gwrs gradd gyfarwydd, ond mae’n cynnig cyfle unigryw i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i sefyll dros gyfiawnder. Yn PCYDDS, rydym yn falch o fod yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig y math hwn o radd eiriolaeth. Mwynhewch y posibiliadau a ddaw o’r opsiynau i astudio ar y campws, ar-lein a thrwy ddulliau cyfunol gydag addysgu cydamserol i ganiatáu i fyfyrwyr rannu a thrafod.

Trwy astudio eiriolaeth, byddwch yn dod o hyd i’ch llais eich hun, yn meithrin dealltwriaeth ddofn o gydraddoldeb fel y mae’n berthnasol i unigolion, ac yn magu’r hyder i frwydro yn erbyn anghyfiawnder. Mae llawer o’n graddedigion yn dod yn eiriolwyr proffesiynol i elusennau a sefydliadau, yn dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol neu’n sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain. 

Pam astudio'r Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn PCYDDS?

01
Llwybrau gyrfa eang: Ymunwch â rhengoedd asiantaethau gorfodi'r gyfraith, gwasanaethau cyfreithiol neu gwmnïau cyfreithiol neu barhau gyda'ch addysg gyda'n cyrsiau gradd meistr. Mae ein rhaglenni yn agor drysau i gyfleoedd gyrfa amrywiol.
02
Cefnogaeth eang: Profiad mewn amgylchedd agored a chymuned gefnogol sy'n gwerthfawrogi eich llwyddiant. Mae ein staff ymroddedig a’n timau ehangach wedi ymrwymo i'ch datblygiad academaidd a’ch datblygiad personol.
03
Ymgysylltu’n ymarferol â’r diwydiant: gwirfoddoli yng ngharchardai’r heddlu neu gyda chwmnïau cyfreithiol i gael profiad ymarferol o gydweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau yn y system cyfiawnder troseddol, gan bontio’r bwlch rhwng theori ac arfer.
04
Dysgu sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr: Symud i ffwrdd o ddulliau addysgu traddodiadol a chroesawu dulliau arloesol sy'n annog cyfranogiad gweithredol a meddwl beirniadol. Chi fydd wrth wraidd eich addysg.
05
Cyrsiau perthnasol a chyfredol: Rydym yn cydweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant i sicrhau bod pob rhaglen yn gyfredol, yn berthnasol ac yn cyd-fynd ag anghenion y maes.
06
Cyfleoedd i rwydweithio: Ymgysylltu â siaradwyr gwadd, mynychu digwyddiadau a meithrin cysylltiadau gwerthfawr. Mae ein rhaglenni yn cynnig nifer o gyfleoedd i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol.

Spotlights

Darlithydd yn rhoi cyflwyniad i ddosbarth

Cyfleusterau

  • Efelychiadau safle’r drosedd 

  • Chwarae rôl  

  • Mynediad i ystafelloedd Hydra gyda Heddlu Dyfed Powys 

  • Ystafelloedd trochi 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.