Skip page header and navigation

Dewch ar daith gydag ystod o opsiynau rhaglen sy’n ymwneud â’r diwydiant Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth, p’un ai gwestai, gastronomeg, neu chwaraeon sy’n mynd â’ch bryd, byddwch yn mwynhau eich taith gyda ni. Mae astudio Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth gyda ni yn cyfuno hyfforddiant galwedigaethol gydag astudiaeth academaidd. Ymgollwch mewn rhaglenni sydd wedi’u datblygu o ganlyniad i bartneriaethau cydweithredol ac ewch ar daith. 

Bydd y rhyddid gyda chi i ddysgu, a’r rhyddid i ddewis o amrywiaeth o opsiynau lleoliad gwaith. Cewch ddewis o blith arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn ymgysylltu â nhw a dysgu ganddynt ar leoliadau ym mhob rhan o’r diwydiant. Cewch gyfuno eich cariad at y diwydiant gyda gyrfa werth chweil i’w dilyn.

Sicrhewch eich gyrfa ddelfrydol a chanolbwyntio ar fusnes a rheoli popeth sy’n ymwneud â chwaraeon, o ddarparwyr hamdden i reoli timau chwaraeon proffesiynol a stadia. Byddwch yn deall bod digwyddiadau chwaraeon yn rhan fawr o’r diwydiant twristiaeth.

Dewiswch astudio rhaglenni arbenigol rhyngwladol neu fyd-eang, a thrwy gyfleoedd ar y rhaglen a chyfleoedd lleoliad gwaith yn y diwydiant, cewch feithrin rhwydweithiau gyrfa rhagorol gydag arweinwyr yn y farchnad yn lleol ac ar draws y byd.

Mae cefnogaeth yn agwedd allweddol ar bob un o’n rhaglenni, boed hynny’n cefnogi eich astudiaethau gyda darlithwyr cyfeillgar, yn cynnig cefnogaeth i ddod o hyd i’r lleoliad gwaith sydd fwyaf addas i chi, neu’r gefnogaeth y mae ein cyfleoedd o ran lleoliad yn ei darparu ar gyfer eich dyfodol.

Archwiliwch ddiwylliannau newydd a chreu profiadau bythgofiadwy, a hynny i gyd wrth ennill mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi. Ar ôl graddio, gallwch ddisgwyl dilyn gyrfa ym maes lletygarwch, cynllunio digwyddiadau, a rheoli twristiaeth, i enwi ond rhai.

Pam astudio Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn PCYDDS?

01
Mae rhaglenni’n defnyddio cyfleoedd dysgu arloesol a chreadigol er mwyn eich galluogi i gael profiad rheolaidd o’r tu ôl i ddrysau caeedig y diwydiant.
02
Cewch deimlo’r rhyddid i ddysgu a theimlo eich bod yn cael eich cefnogi yn y dosbarth a phan fyddwch ar leoliad gyda darlithydd penodedig wrth law.
03
Bydd sail academaidd ac ansawdd rhagorol ein tîm addysgu yn cefnogi eich cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Spotlights

Derbynnydd yn ateb y ffôn

Cyfleusterau

Pan fo’r byd yn ystafell ddosbarth i chi, mae’r cyfleusterau’n ddiddiwedd. Mae defnyddio ein hystafell drochi newydd yn mynd â chi i holl ryfeddodau’r byd o gysur campws SA1. Tra byddwch ar leoliad, byddwch ynghanol yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn profiadau ymarferol.  

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.