Prentisiaeth mewn Crefftwr Gwydr Lliw (Dysgu Gydol Oes)
Mae’r rhaglen Prentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw wedi ei datblygu mewn cydweithrediad â chyflogwyr er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion dilyniant gyrfa cyfredol mewn diwydiant sy’n ganolog i gynnal crefft draddodiadol gwydr lliw.
Bydd y rhaglen arloesol hon a ariennir gan y Llywodraeth yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudio yn y brifysgol a dysgu seiliedig ar waith.
Bydd y prentis yn datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth o ran ymchwil, dylunio, crefft, adeiladu a ffitio gwydr pensaernïol a gwydr lliw.
Gall hyn gynnwys gwaith cadwraeth ac adfer ar wydr lliw yn ogystal â gweithio ar gomisiynau newydd neu waith pensaernïol. Mae prosiectau’n amrywio o gomisiynau preifat a chyhoeddus bach i rai ar raddfa fawr a all gynnwys ymchwil, dylunio ac adeiladu gwydr lliw newydd a phresennol o fewn cyd-destunau hanesyddol a/neu gyfoes mewn adeiladau cyhoeddus neu ddomestig.
Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol (IFATE).
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
Dim ffioedd dysgu
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y prentis yn datblygu sgiliau ymarferol wrth drin a thorri gwydr, paentio gwydr, gosod plwm, sodro a smentio. Mae hyn yn hanfodol i greu gwydr lliw.
Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol hyn, bydd prentisiaid yn datblygu sgiliau i ddelio â phobl a gweithio fel aelod o dîm, byddant yn dysgu sut i ymchwilio a dadansoddi gwybodaeth hanesyddol a thechnegol.
Byddant hefyd yn dysgu creadigrwydd mewn dylunio sy’n cynnwys lluniadu a chyflawni cartwnau gwydr lliw a lluniadau llinell dorri.
Mae’r cynllun yn cael ei astudio dros gyfnod o 3 blynedd yn ystod cyflogaeth ac mae’n cynnwys ystod o weithdai ar-lein, dysgu o bell ac ymarferol arbenigol.
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
I gael mynediad i’r rhaglen brentisiaeth, rhaid i chi fod yn gyflogedig yn y sector ac yn gweithio yn Lloegr am fwy na 50% o’r amser.
-
Asesu ac adborth ffurfiannol yn ystod hyfforddiant ‘i ffwrdd o’r gwaith’, a thrwy Adolygiadau Cynnydd gyda mentor yn y gweithle a swyddog cyswllt.
Asesu Terfynol drwy aseswyr annibynnol ICON drwy arsylwi yn y gweithle, a thrafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar bortffolio o dystiolaeth, sy’n arddangos bod Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiad ar safon y Brentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw wedi’u cyflawni.
-
Os ydych yn gyflogwr nad yw’n talu’r Ardoll, mae’r Llywodraeth yn gofyn am gyfraniad o 5% o’r costau hyfforddi ac asesu. Cysylltwch i gael cyngor pellach.
-
Mae rhai cyfleoedd cyllido allanol ar gael i gyflogwyr ac unigolion. Cysylltwch i gael cyngor pellach.
-
Creu, atgyweirio ac adfer gwydr lliw, a gwaith cadwraeth.