Skip page header and navigation

Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) (BA Anrh)

Llambed
3 Years Full-time

Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i dreftadaeth ddeallusol, foesol a chymdeithasol Tsiena hynafol. Mae’n archwilio sut oedd meddylwyr clasurol Tsieineaidd wedi dychmygu datblygiad rhagoriaeth ddynol. 

Byddwn yn archwilio egwyddorion craidd, fframweithiau athronyddol a chysyniadau llywodraethol Tsiena hynafol, gan archwilio eu doethineb diamser a’u perthnasedd. Yn ogystal, byddwn yn archwilio goblygiadau modern sinoleg a sut y gellir cymhwyso’r syniadau hynafol hyn heddiw.

Ymunwch â ni ar y daith ddarganfod hon, sy’n defnyddio dull cyfannol o ddysgu.  Wrth astudio’r cwrs, byddwn yn pontio’r gorffennol a’r presennol, gan ddatgelu doethineb oesol i feithrin tyfiant personol a chymdeithasol.

Mae’r BA (Anrh) Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn rhaglen israddedig a addysgir yn Saesneg a ddarperir gan Academi Sinoleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen yn cwmpasu ystod eang o bynciau pwysig mewn astudiaethau Tsieineaidd, gan gynnwys ietheg Tsieineaidd, y system addysg gyn-fodern, clasuron Conffiwsiaid, hanes ac egwyddorion economaidd hynafol. 

Mae gan y rhaglen Sinoleg bedair nodwedd unigryw: hygyrchedd, ymroddiad, addasrwydd a dull rhyngddisgyblaethol.   Mae’r cyfle i ddysgu Tsieinëeg Mandarin yn gynwysedig, fel rhan allgyrsiol o’r cwrs hwn. 

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn ennill sgiliau a fydd yn agor ystod eang o opsiynau gyrfa, er enghraifft:

  • Addysg a hyfforddiant
  • Llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Adnoddau Dynol
  • Gweinyddiaeth Fusnes
  • Astudiaeth ac ymchwil ôl-raddedig 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
3 Years Full-time

Tuition fee 2024/25: £8,000

Pam ddewis y cwrs hwn

01
Datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws disgyblaeth Sinoleg
02
Ennill dealltwriaeth o destunau sylfaen gwareiddiad Tsieina, gan gynnwys Analectau Conffiwsiws a'r Mencius
03
Cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, gan roi’r cyfle i archwilio Sinoleg o safbwynt rhyngddiwylliannol
04
Datblygu gwybodaeth ryngddisgyblaethol a sgiliau ar draws addysg, hanes, ieithyddiaeth ac economeg
05
Ennill y sgiliau i ddehongli doethineb traddodiadol Tsieineaidd drwy lens fodern
06
Archwilio sut y gellir trosoli doethineb Tsieineaidd i helpu i fynd i’r afael â materion cyfoes

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn anelu at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau helaeth mewn Sinoleg. 

Trwy ddadansoddi prif destunau clasurol Tsieineaidd, bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’u cysyniadau craidd a’u gwerthoedd. Mae hyn yn cynnwys, astudiaethau ar draws y Pedwar Llyfr (sishu 四書), er mwyn allu darparu dealltwriaeth ymhellach o destunau sylfaenol addysg ddyneiddiol Tsieina ddiweddar. Dyfarnwyd bod y testunau hyn yn ddysgu gorfodol ar gyfer ysgolheictod clasurol a gwasanaeth cyhoeddus ond hefyd yn dylanwadu’n sylweddol ar werthoedd diwylliannol Tsieineaidd cyn-fodern.

Ategir modiwlau’r Pedwar Llyfr gan hyfforddiant ieithegol i gynorthwyo gyda darllen testunau’n agos, ynghyd â modiwlau rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar Feddwl Gwleidyddol, Addysgol ac Economaidd ynghylch cymhwyso’r addysg ddyneiddiol. 

Bydd myfyrwyr yn datblygu llythrennedd diwylliannol eang a fydd yn eu galluogi i gael dealltwriaeth ddiwylliannol ddyfnach ar faterion cyfoes yn ymwneud â Tsieina a’r Gorllewin. 

Y BA (Anrh) Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yw’r rhaglen israddedig gyntaf a addysgir yn Saesneg a gyflwynir gan yr Academi Sinoleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen dair blynedd hon yn ymdrin ag ystod eang o bynciau pwysig mewn astudiaethau Tsieineaidd, gan gynnwys ieitheg Tsieineaidd, y system addysg gyn-fodern, clasuron Conffiwsiaid, hanes ac egwyddorion economaidd hynafol.   

Mae gan y rhaglen Sinoleg hon bedair nodwedd unigryw

Hygyrchedd: Nod y rhaglen yw cyflwyno myfyrwyr i dreftadaeth Tsieineaidd drwy destunau sylfaenol y gwareiddiad Tsieineaidd, gan edrych ar sut y gellir dadansoddi eu mewnwelediadau a’u gwneud yn fuddiol i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Gan gael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg ac wrth archwilio Sinoleg o safbwynt rhyngddiwylliannol, disgwylir i’r rhaglen helpu i hwyluso deialog traws diwylliannol.   Nid oes unrhyw ragofyniad ar ran gallu iaith Tsieinëeg neu Tsieinëeg lenyddol.  Bydd y dosbarthiadau’n cael eu teilwra i’r myfyrwyr i’w cefnogi i ddeall Tsieinëeg fodern a chlasurol.

Cymhwysiad Trafododd meddylwyr Tsieineaidd hynafol lawer o ddulliau a safbwyntiau y gellid eu defnyddio i berffeithio rhagoriaeth ddynol - roedd dysgu yn rhan annatod o’r grefft o fyw. Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i seilio ar ddarlleniadau agos a dadansoddiadau o weithiau cynrychioladol, yn darparu myfyrwyr â sgiliau i ddadansoddi cysylltiadau rhwng athroniaeth Gonffiwsaidd, economeg a gwyddorau cymdeithasol eraill mewn cyd-destun hanesyddol, wrth gymhwyso gwybodaeth o egwyddorion hynafol i sefyllfaoedd modern.

Addasrwydd: Bydd dysgwyr yn cael eu herio i archwilio sut y gellir defnyddio doethineb Tsieineaidd traddodiadol i fynd i’r afael â materion cymdeithasol cyfoes. 

Dull rhyngddisgyblaethol: Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu gwybodaeth a sgiliau a fyddai’n eu caniatáu i ymgysylltu â thrafodaethau mewn addysg, hanes, ieithyddiaeth, ac economeg mewn ffordd wahanol, ryngddisgyblaethol a methodolegol. 

Cyflwyniad i Foesoldeb a Moeseg Tsieineaidd Draddodiadol mewn Addysg I

(20 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Astudiaeth Graffigol ac Etymolegol o Sinogramau

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr

(30 credydau)

Darlleniadau Dethol o'r Canon Barddoniaeth

(30 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Moesoldeb a Moeseg Tsieineaidd Draddodiadol mewn Addysg II

(20 credydau)

Saesneg Sinolegol II: Cyfieithu Llenyddiaeth Daoaidd

(20 credydau)

Trafodaeth Ddiwylliannol a Deallusol ar y Cofnodion Defodol

(30 credydau)

Seinyddiaeth

(20 credydau)

Y Daodejing

(30 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Addysg Foesol a Moesegol Tsieineaidd Draddodiadol III

(20 credydau)

Canon Newid

(20 credydau)

Eglureg

(20 credydau)

Traethawd Hir: Sinoleg

(40 credydau)

Saesneg Sinolegol III – Cyfieithu Llenyddiaeth Gonffiwsaidd a Bwdhaidd

(20 credyd)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Further information

    • Cyfateb i (96 – 112 Pwynt UCAS) yn y DU. 
    • Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos lefel ddigonol o Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS academaidd o 6.5 o leiaf yn gyffredinol, gydag isafswm sgôr o 6.1 ym mhob un o’r pedair cydran (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad), neu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan UK NARIC gan wlad Saesneg ei hiaith.  Sylwch y bydd y Brifysgol ond yn derbyn tystysgrifau IELTS o ganolfan brawf a gymeradwyir gan UKVI a rhaid i ymgeiswyr ddewis y categori “IELTS ar gyfer UKVI ac Academaidd Mewnfudo”. Am restr o ganolfannau cymeradwy, cliciwch yma.

    D.S. Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.  Mae diddordeb gennym mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w maes pwnc dewisol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. 

  • Mae dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond gallwch ddisgwyl asesiadau gan gynnwys traethodau a chyflwyniadau.  Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â myfyrio ar gymhwysiad ymarferol yr egwyddorion sy’n dangos gallu myfyriwr i integreiddio eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ystyrlon.

  • Am fwy o wybodaeth am y rhaglen hon, e-bostiwch sinology@uwtsd.ac.uk

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau