Cwrs dysgu o bell yw’r rhaglen Athroniaeth a Chrefydd: Meddwl y Dwyrain a’r Gorllewin sydd wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau archwilio materion athronyddol a chrefyddol pwysig am fywyd a natur ein bodolaeth ond nad ydynt am gael eu cyfyngu yn eu hastudiaeth i un llwybr neu draddodiad penodol.
Mae’n archwilio pynciau allweddol sy’n ymwneud ag athroniaeth a chrefydd, megis natur yr hunan, natur realiti, a natur profiadau crefyddol, o safbwyntiau athronyddol a chrefyddol amrywiol, ac o draddodiadau dwyreiniol a gorllewinol.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl a addysgir yn ystod eu blwyddyn gyntaf (llawn-amser) neu ddwy flynedd (rhan-amser) cyn symud ymlaen i Ran II i ysgrifennu eu traethawd hir. Yn Rhan I, mae myfyrwyr yn astudio un modiwl gorfodol 30 credyd a thri modiwl dewisol 30 credyd (cyfanswm o 120 credyd).
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy ddysgu o bell. Nid oes angen ymweld â’n campws, er bod croeso i chi wneud hynny. Mae’r rhaglen yn cynnwys darlithoedd, fforymau trafod a thiwtorialau un-i-un ar-lein.
Gorfodol
Dewisol
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol.
-
Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol yn sail i’r dysgu ar y cwrs Athroniaeth a Chrefydd (MA), gan gynnwys theori astudiaethau rhyng-ffydd a pherthynas rhyng-grefyddol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi.
-
Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i:
- ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol;
- cyflwyno dadleuon clir a chydlynol;
- cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.
Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion rhyng-ffydd o fudd.
Bydd hefyd yn apelio at fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer gwasanaeth crefyddol a/neu ddefosiynol, bywyd o wasanaeth cyhoeddus, ac amrywiol brosiectau gwirfoddol.