Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy (Llawn amser) (PGDip)
Mae’r cwrs MA Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy yn rhaglen ryngddisgyblaethol a baratowyd i gynnig profiad dysgu unigryw i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd ac arweinyddiaeth rhyngddiwylliannol ac i fynd i’r afael â heriau allweddol yr 21ain ganrif.
Mae’r rhaglen arloesol hon, a ddatblygwyd rhwng Academi Fyd-eang Cymru a’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, yn defnyddio cyd-destun rhyngddisgyblaethol gwaith y Brifysgol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gymdeithasol o Ddinasyddiaeth Fyd-eang trwy ofyn cwestiynau am rymuso ac arwain, naratif hanesyddol a chymdeithasol a diwylliant, a hunaniaeth a deialog.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael yn feirniadol â nifer o broblemau’r 21ain ganrif, fel yr angen am Ddinasyddiaeth Fyd-eang wydn, Grymuso ac Arwain, Hanesion Dadleuol, ac Agweddau Beirniadol at Ddiwylliant. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, fel llythrennedd a sgiliau arwain rhyngddiwylliannol.
I raddau helaeth, mae’r modiwlau’n cymryd ymagwedd ddyniaethol feirniadol i faterion sy’n berthnasol i ddinasyddiaeth fyd-eang yn y byd cyfoes, gan archwilio a mabwysiadu nifer o fframweithiau beirniadol er mwyn archwilio pynciau fel gwaddol trais, gwladychu, dirywio amgylcheddol, a dadleoli cymdeithasol. Mae modiwlau unigol ac elfennau o’r prosiect yn ymsefydlu’r ymagwedd hon o fewn meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr.
Mae gogwydd beirniadol a dyniaethol y rhaglen yn cynnig agwedd unigryw ar yr hyn sy’n cael ei gynnig gan y Brifysgol yn y maes hwn, ac yn datblygu ymhellach y gwaith ymchwil ac addysgu cryf ar y lefel hon yn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau. Mae’r radd hon yn mynd ati i geisio ymgysylltu â chymunedau/unigolion amrywiol i ddatblygu sylfaen ar gyfer gwaith rhyngddisgyblaethol sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol ar gyfer y byd cynaliadwy a chytûn sydd ohoni ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y rhaglen hon yn denu myfyrwyr o gefndiroedd a diddordebau amrywiol ac sydd ag ystod o raddau israddedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar alluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig gyda PCYDDS. Mae’r radd hon yn cynnig ateb i raddedigion a myfyrwyr aeddfed rhyngwladol sy’n ceisio datblygu dealltwriaeth fanwl o natur ryngddisgyblaethol Dinasyddiaeth Fyd-eang a materion cysylltiedig, ac sy’n ceisio deall sut mae gwahanol agweddau ar eu profiad bywyd yn gysylltiedig ac yn rhyng-gysylltiedig.
Mae’r rhaglen hon yn defnyddio ymrwymiadau’r Brifysgol i wireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015), i wreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â bod yn gydnaws â Strategaeth Weithredol UNESCO ar gyfer Ieuenctid (2021-27) a’r Strategaeth Tymor Canolig (2022-29) o ran darpariaeth a chynnwys y rhaglen.
Wrth gyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae’r rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o gyd-destun rhyngddisgyblaethol yr hyn a gynigir gan yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ar hyn o bryd, gan sicrhau ei bod yn gydnaws â datblygiadau yn y Sefydliad ar gyfer Deialog Rhyng-ffydd a Rhyngddiwylliannol, Clymblaid Gwyddoniaeth Cynaliadwyedd Bridges UNESCO, Canolfan Tir Glas a Chanolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru, a Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch sydd newydd ei ddatblygu. Yn ogystal â’r canolfannau rhagoriaeth newydd hyn, mae’r rhaglen yn gwneud defnydd o gryfderau ymchwil presennol ym maes y Dyniaethau, gan gynnwys mewn meysydd yn ymwneud â chynaliadwyedd, arweinyddiaeth, heddwch byd-eang, a deialog rhyngddiwylliannol a rhyng-ffydd.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llambed
Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws. Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch); er hynny, mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
-
Bydd asesiadau o fewn modiwlau yn darparu ar gyfer ystod o allbynnau gan gynnwys traethodau traddodiadol, ond hefyd datblygiad methodoleg prosiect ymchwil, cyflwyniadau seminar, portffolios a gwaith ysgrifenedig o genres eraill. Yn ogystal, bydd ffocws cryf ar waith grŵp, naill ai fel deunydd ffurfiannol neu ddeunydd wedi’i asesu, yn sicrhau craidd cryf a chydlynus wrth gyflwyno’r rhaglen.
-
Gallai myfyrwyr wario hyd at £200 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Nod y rhaglen hon yw datblygu annibyniaeth ddeallusol ac ymgysylltiad beirniadol myfyrwyr mewn perthynas â dinasyddiaeth fyd-eang ac arweinyddiaeth gynaliadwy.