Prentisiaeth mewn Paragyfreithiwr, Uwch Baragyfreithiwr, Cyfreithiwr (CILEX, Israddedig)
Mae Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX) yn Gorff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol (PSRB) ar gyfer y sector gwasanaethau cyfreithiol. Nod CILEX yw trawsnewid darpariaeth gwasanaethau cyfreithiol a bodloni anghenion newidiol cyflogwyr.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Why choose this course?
What you will learn
Mae pob cam o’r Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ) yn cynnwys tair elfen: gwybodaeth gyfreithiol graidd, ymarfer a sgiliau; moeseg a chyfrifoldeb proffesiynol; a phrofiad proffesiynol. Gyda’i gilydd mae’r elfennau hyn yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu’r sgiliau, y wybodaeth, yr ymddygiadau a’r profiad sydd eu hangen i fod yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol effeithiol.
Bydd dysgwyr eisoes yn cael eu cyflogi yn y sector gwasanaethau cyfreithiol a byddan nhw’n gallu cychwyn ar y cymhwyster CPQ ar bwynt sy’n cyfateb i’w profiad a’u cymwysterau cyfreithiol blaenorol - gan gynnwys ystyried unrhyw gymwysterau CILEX sydd eisoes ganddynt. Mae’r CPQ hefyd yn caniatáu i ddysgwyr i gael seibiant ac ailddechrau ar eu hyfforddiant er mwyn cyd-fynd ag ymrwymiadau eraill.
Paragyfreithiwr CILEX (Sylfaen) – lefel 3
Bydd Paragyfreithwyr CILEX yn gallu dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o’r gyfraith sy’n sail i feysydd ymarfer allweddol trwy gwblhau cam Sylfaen Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ).
Uwch Baragyfreithiwr CILEX (Uwch) – lefel 5
Bydd Uwch Baragyfreithwyr CILEX yn gallu dangos gwybodaeth dechnegol a’r gallu i roi’r gyfraith, sy’n ymwneud â meysydd ymarfer allweddol, ar waith. Byddan nhw hefyd yn gwella’u sgiliau, gan gynnwys eu hymwybyddiaeth o fusnes, a’u dealltwriaeth o safonau proffesiynol a rheoleiddio, a’u hymlyniad atynt.
Cyfreithiwr CILEX (Proffesiynol) – lefel 6
Bydd Cyfreithwyr CILEX yn gallu dangos gwybodaeth arbenigol a’r gallu i roi’r gyfraith mewn meysydd ymarfer penodol ar waith, a’r gallu i weithio’n annibynnol ac yn unol â safonau proffesiynol a moesegol uchel.
Craidd
( credydau)
( credydau)
( credydau)
( credydau)
( credydau)
Craidd
( credydau)
( credydau)
( credydau)
( credydau)
Dewisol
(20 credydau)
( credydau)
( credydau)
Craidd
Dewisol
(20 credydau)
( credydau)
( credydau)
( credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Accommodation
![example of student bedroom](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-07/Student%20Roost%20accommodation.jpg?h=d1cb525d&itok=7JQw5GK5)
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Further information
-
Nid oes unrhyw ofynion mynediad, ond ar gyfer llwybr y brentisiaeth, rhaid bod ymgeiswyr mewn swydd, a naill ai’n meddu ar TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch, neu bydd rhaid i ymgeiswyr wneud sgiliau hanfodol.
-
Mae’r asesiadau’n cael eu cynnal ar-lein gan CILEX a’u nod yw asesu gwybodaeth a sgiliau mewn ffordd sy’n adlewyrchu realiti gweithredu’r gyfraith yn well.
Ar bob cam, mae CILEX yn asesu mwyafrif y modiwlau trwy arholiad ar-lein. Yr eithriadau i hyn yw’r modiwlau Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol, sy’n cael eu hasesu trwy waith cwrs. Bydd asesiadau’n cael eu cynnig ddwywaith y flwyddyn i ddechrau, ym mis Ionawr a mis Mehefin. Fel rhan o’r ffi gofrestru bydd dysgwyr yn cael sefyll un asesiad ar gyfer pob modiwl. Bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi i ailsefyll (gan CILEX).
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Mae Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ) wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad cyfreithwyr arbenigol.