Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar gyfer y rheini sy’n angerddol am ddeall trosedd, ei achosion, a’i effeithiau. Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau, o gyfiawnder ieuenctid a throseddau difrifol a chyfundrefnol i effaith ffactorau cymdeithasol fel trais ar sail rhywedd, gwahanu, ac anghydraddoldeb ar ymddygiad troseddol.
Archwiliwch feysydd pwysig fel polisi cyhoeddus, niwed cymdeithasol, a sut mae polisïau cyffuriau’n llywio cymdeithas. Mae ein dull amlddisgyblaethol yn cyfuno cymdeithaseg, y gyfraith a pholisi cyhoeddus, gan roi persbectif cynhwysfawr i chi ar droseddolrwydd a chyfiawnder.
Byddwch yn ymchwilio i faterion hollbwysig fel cynhwysiant cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, a phrosesau cyfreithiol, gan gael cipolwg ar drosedd a throseddolrwydd. Dysgwch am blismona, y system cyfiawnder troseddol a sut mae’r cyfryngau’n adrodd am droseddau. Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi i fynd i’r afael â throsedd a bregusrwydd mewn amrywiol gyd-destunau.
Yn ogystal, mae ein cwrs yn ymdrin ag adsefydlu, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r system yn cefnogi troseddwyr i ailintegreiddio i gymdeithas. Byddwch yn archwilio sut mae hil a chrefydd yn dylanwadu ar drosedd ac effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol ar gymunedau.
Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer swyddi ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o drosedd a chyfiawnder troseddol, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y maes.
Blwyddyn 1
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfaen ar gyfer deall troseddeg a chyfiawnder troseddol. Byddwch yn astudio hanfodion troseddeg, gan archwilio beth yw trosedd a sut mae’n effeithio ar gymdeithas. Bydd modylau mewn cyfiawnder ieuenctid, yn eich helpu i ddeall achosion troseddau ieuenctid a sut mae’r system yn ymdrin â throseddwyr ifanc. Bydd modylau allweddol yn eich cyflwyno i’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau’r heddlu, y llysoedd a sefydliadau cywirol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio sut mae ffactorau cymdeithasol fel hil, rhywedd, a dosbarth yn dylanwadu ar drosedd a’r ymatebion iddo.
Blwyddyn 2
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am droseddeg a chyfiawnder troseddol. Byddwch yn astudio plismona, gan ddysgu am yr heriau a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio gan y rheini sy’n gorfodi’r gyfraith. Bydd modylau ar adsefydlu a chyfiawnder troseddol yn eich dysgu am y dulliau amrywiol sy’n cael eu defnyddio i adsefydlu troseddwyr a lleihau aildroseddu. Bydd modylau ar drais ar sail rhywedd a niwed cymdeithasol yn eich helpu i ddeall cyd-destun ehangach trosedd a’i effeithiau ar wahanol grwpiau. Yn ogystal, byddwch yn ymchwilio i bolisi cyhoeddus, gan archwilio sut mae cyfreithiau a pholisïau yn cael eu creu a’u heffaith ar drosedd a chyfiawnder.
Blwyddyn 3
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch a chymwysiadau ymarferol. Byddwch yn archwilio sut mae’r cyfryngau’n adrodd am drosedd, deall sut mae trosedd yn cael ei bortreadu a’i effaith ar ganfyddiad y cyhoedd. Byddwch yn archwilio troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan ddysgu am yr effaith a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio i frwydro yn eu herbyn. Byddwch yn dysgu am ddulliau ymchwil sy’n cael eu defnyddio ym maes troseddeg, gan eich helpu i gasglu a dadansoddi data’n effeithiol. Yn ogystal, bydd gennych y cyfle i wneud ymchwil annibynnol, gan gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch wedi’u hennill ar y cwrs ar gyfer pwnc o’ch dewis.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 credyd)
Dewisol
((60 Credyd))
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(40 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
![example of student bedroom](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-07/Student%20Roost%20accommodation.jpg?h=d1cb525d&itok=7JQw5GK5)
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
96 Pwynt UCAS
-
Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, cyflwyniadau ac arholiadau.
-
.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
.