Skip page header and navigation

Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (Llawn amser) (LLB)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Nod ein gradd LLB yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yw helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o Gyfundrefn Gyfreithiol Lloegr, meysydd allweddol o fewn y cyfundrefnau hyn, a Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol yn benodol, wrth roi sylfaen gyffredinol i chi ar gyfer ymarfer cyfreithiol.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol ar y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gan gynnwys gwybodaeth gydlynol a manwl, rhai sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, neu a lywir ganddi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyfreithiau cyhoeddus a phreifat o fewn cyd-destun sefydliadol, cymdeithasol, cenedlaethol a byd-eang;
  • Cyd-destun meysydd o sylwedd o’r gyfraith a chyfiawnder;
  • Egwyddorion Rheoleiddio a Chod Ymddygiad yr SRA a’i ofynion moesegol;
  • Materion athrawiaethol a pholisi;
  • Ecwiti ac ymddiriedolaethau;
  • Cyfraith eiddo;
  • Trawsgludo;
  • Cyfraith busnes; ac
  • Ymarfer Profiant.

Byddwch yn dysgu dod o hyd i, gwerthuso a rhoi sylwadau ar ymchwil, neu ysgolheictod cyfatebol, yn y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gan werthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a therfynau gwybodaeth, a dangos meddwl cysyniadol a beirniadol, dadansoddi, syntheseiddio a gwerthuso rhagdybiaethau, cysyniadau a data haniaethol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
LPR1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr i sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
02
Mae'r cwrs yn ymdrin â meysydd sy'n hollbwysig o ran Ymarfer Cyfreithiol yn yr 21ain Ganrif
03
Cyflwynir y cwrs gan staff profiadol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (LLB) wedi’i gynllunio i gwmpasu hanfodion y gyfraith a’r meysydd ymarfer cyfreithiol cysylltiedig sy’n ofynnol er mwyn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.

Bydd y rhaglen newydd hon yn paratoi myfyrwyr i sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ac mae wedi’i chynllunio’n seiliedig ar y fframwaith cenedlaethol hwn. Mae’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflogaeth neu hunan-gyflogaeth ym maes ymarfer cyfreithiol. Ni all hyn ond cyfoethogi rhagolygon y myfyrwyr a rhoi mantais gystadleuol iddynt yn rhaglenni recriwtio’r proffesiwn cyfreithiol.

Bûm eisoes yn ymgysylltu â sefydliadau proffesiynol ar gyfer y rhaglenni cyfraith presennol ac mae’r ymgysylltu hwn yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Ymgynghorwyd â chwmnïau cyfreithiol lleol fel

Peter Lynn a’i Bartneriaid, Graham Evans a’i Bartneriaid, JCP a DJM, ac maent yn gweithio gyda’r tîm i greu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau ac interniaethau i’r myfyrwyr. Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi ganddynt.

Gorfodol 

Sgiliau Astudio

(10 credydau)

Ymgyfreitha Troseddol

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

(20 credydau)

Cyfraith Droseddol

(20 credydau)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyfraith Gyhoeddus

(20 credydau)

Gorfodol 

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Ymgyfreitha Sifil

(20 credydau)

Ymchwil Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyfraith ac Ymarfer Busnes

(20 credydau)

Cyfraith Camwedd

(20 credydau)

Gorfodol 

Trawsgludo

(20 credydau)

Ymarfer Profiant

(20 credydau)

Ecwiti ac Ymddiriedolaethau

(20 credydau)

Cyfraith Eiddo

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil

(20 credydau)

Cyfraith Etifeddu a Gweinyddu Ystadau

(20 credyd; gorfodol)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 80 pwynt UCAS neu gyfwerth.

  • Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000–3,500 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd, yn dibynnu ar y lefel astudio.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.

    Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.

    Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.

    Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau