Plismona (Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol) (Rhan amser) (MSc)
Cynlluniwyd y cwrs hwn mewn ymgynghoriad â’r heddlu ar gyfer uwch swyddogion heddlu (mewn swydd) sy’n dymuno gwella eu gyrfa. Bydd PCYDDS yn defnyddio dull addysgu ar-lein/cyfunol i leihau’r amser y byddai angen i swyddogion ei gymryd oddi wrth eu dyletswyddau, sy’n nodwedd bwysig o’r cwrs hwn.
Bydd yr MSc yn galluogi uwch swyddogion i gael cydnabyddiaeth am addysg a phrofiad blaenorol a datblygu sgiliau uwch mewn arweinyddiaeth ar lefel weithredol a strategol.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r radd MSc Plismona (arweinyddiaeth weithredol a strategol) wedi’i chynllunio ar ôl ymgynghori’n helaeth â Heddluoedd Cymru. Mae cyflwyno’r Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) wedi sefydlu lefel mynediad gradd ar gyfer pob cwnstabl sy’n derbyn cymhwysedd galwedigaethol llawn.
Nodwyd bod bwlch addysgol rhwng y rhengoedd erbyn hyn, gyda phob cwnstabl yn cyrraedd lefel gradd yn y pen draw, tra bod dim cymwysterau achrededig ffurfiol gan rai o’r Prif Arolygwyr, er eu bod yn gweithio ar lefel uchel o feddwl yn feirniadol.
Bydd yr MSc yn galluogi uwch swyddogion i gael cydnabyddiaeth am addysg a phrofiad blaenorol a datblygu sgiliau uwch mewn arweinyddiaeth ar lefel weithredol a strategol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol, a fydd yn caniatáu i swyddogion i ddilyn y cwrs wrth ddal i weithio a lleihau’r amser sydd angen iddynt dreulio o’u gwaith; mae hyn yn cyd-fynd ag anghenion yr heddlu a bydd hefyd yn dilyn y patrwm a osodwyd gan y brentisiaeth gradd yr ydym yn ei darparu gyda heddluoedd De Cymru a Gwent ar hyn o bryd.
Mae’r cwrs hefyd yn caniatáu i swyddogion wneud cais am gydnabod dysgu drwy brofiad blaenorol (RPEL) mewn perthynas â nifer o fodiwlau megis Arweinyddiaeth Weithredol, Llywodraethu Corfforaethol mewn Plismona, Rheolaeth Strategol mewn Plismona. Trwy ymgynghori â’r heddluoedd, mae hwn yn opsiwn deniadol gan ei fod yn cydnabod y wybodaeth a’r sgiliau y maent eisoes wedi’u meithrin yn ystod eu gyrfaoedd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylai ymgeiswyr fod mewn swydd a bod ar lefel uwch swyddog.
-
Mae’r modiwlau a’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol.
Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol.
Defnyddir ystod o ddulliau asesu crynodol, h.y., asesu sy’n cael ei fynegi mewn marciau sy’n cyfrif tuag at gyfrifo’r marc terfynol. Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol yn cael eu defnyddio i brofi gwybodaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol.
Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac ymarfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Portffolios
- Prosiectau Ymchwil
-
Bydd gofyn i fyfyrwyr gael mynediad at offer TG er mwyn astudio’r cwrs hwn ar-lein.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y cyfle i astudio ar lefel 7 ac ymgymryd ag ymchwil o fewn yr heddlu neu grŵp partneriaeth nid yn unig o fudd i’r unigolyn ond i staff eraill o fewn y sefydliad hefyd, gan fod rhywun sydd â lefel benodol o wybodaeth a dealltwriaeth mewn maes penodol yn ymchwilio i faes penodol ac yn canolbwyntio arno.