Skip page header and navigation

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar gyfer y rheini sy’n angerddol am ddeall trosedd, ei achosion, a’i effeithiau. Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau, o gyfiawnder ieuenctid a throseddau difrifol a chyfundrefnol i effaith ffactorau cymdeithasol fel trais ar sail rhywedd, gwahanu, ac anghydraddoldeb ar ymddygiad troseddol.  

Archwiliwch feysydd pwysig fel polisi cyhoeddus, niwed cymdeithasol, a sut mae polisïau cyffuriau’n llywio cymdeithas.  Mae ein dull amlddisgyblaethol yn cyfuno cymdeithaseg, y gyfraith a pholisi cyhoeddus, gan roi persbectif cynhwysfawr i chi ar droseddolrwydd a chyfiawnder.

Byddwch yn ymchwilio i faterion hollbwysig fel cynhwysiant cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, a phrosesau cyfreithiol, gan gael cipolwg ar drosedd a throseddolrwydd. Dysgwch am blismona, y system cyfiawnder troseddol a sut mae’r cyfryngau’n adrodd am droseddau.  Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi i fynd i’r afael â throsedd a bregusrwydd mewn amrywiol gyd-destunau.

Yn ogystal, mae ein cwrs yn ymdrin ag adsefydlu, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r system yn cefnogi troseddwyr i ailintegreiddio i gymdeithas. Byddwch yn archwilio sut mae hil a chrefydd yn dylanwadu ar drosedd ac effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol ar gymunedau.

Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer swyddi ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CCJ1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder cyfreithiol neu’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r system cyfiawnder troseddol.
02
Mae'r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau lleol i ganiatáu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol gan roi'r sylfaen gorau posibl i'n graddedigion wrth iddynt fynd o'r byd academaidd i'r byd gwaith.
03
Mae tîm y cwrs yn gweithredu polisi drws agored sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar ac agored i fyfyrwyr ddysgu a datblygu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o drosedd a chyfiawnder troseddol, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y maes.

Blwyddyn 1

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfaen ar gyfer deall troseddeg a chyfiawnder troseddol.  Byddwch yn astudio hanfodion troseddeg, gan archwilio beth yw trosedd a sut mae’n effeithio ar gymdeithas.  Bydd modylau mewn cyfiawnder ieuenctid, yn eich helpu i ddeall achosion troseddau ieuenctid a sut mae’r system yn ymdrin â throseddwyr ifanc. Bydd modylau allweddol yn eich cyflwyno i’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau’r heddlu, y llysoedd a sefydliadau cywirol.  Yn ogystal, byddwch yn archwilio sut mae ffactorau cymdeithasol fel hil, rhywedd, a dosbarth yn dylanwadu ar drosedd a’r ymatebion iddo.  

Blwyddyn 2

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am droseddeg a chyfiawnder troseddol. Byddwch yn astudio plismona, gan ddysgu am yr heriau a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio gan y rheini sy’n gorfodi’r gyfraith.  Bydd modylau ar adsefydlu a chyfiawnder troseddol yn eich dysgu am y dulliau amrywiol sy’n cael eu defnyddio i adsefydlu troseddwyr a lleihau aildroseddu.  Bydd modylau ar drais ar sail rhywedd a niwed cymdeithasol yn eich helpu i ddeall cyd-destun ehangach trosedd a’i effeithiau ar wahanol grwpiau. Yn ogystal,  byddwch yn ymchwilio i bolisi cyhoeddus, gan archwilio sut mae cyfreithiau a pholisïau yn cael eu creu a’u heffaith ar drosedd a chyfiawnder.

Blwyddyn 3

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch a chymwysiadau ymarferol. Byddwch yn archwilio sut mae’r cyfryngau’n adrodd am drosedd, deall sut mae trosedd yn cael ei bortreadu a’i effaith ar ganfyddiad y cyhoedd.  Byddwch yn archwilio troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan ddysgu am yr effaith a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio i frwydro yn eu herbyn. Byddwch yn dysgu am ddulliau ymchwil sy’n cael eu defnyddio ym maes troseddeg, gan eich helpu i gasglu a dadansoddi data’n effeithiol. Yn ogystal, bydd gennych y cyfle i wneud ymchwil annibynnol, gan gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch wedi’u hennill ar y cwrs ar gyfer pwnc o’ch dewis.
 

Gorfodol 

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Pobl ifanc, Gangiau a Throseddu Difrifol

(20 credyd)

Camddefnyddio Sylweddau a Throseddolrwydd

(20 credyd)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Gorfodol 

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil Troseddegol

(20 credydau)

Yr Heddlu, Plismona a Chymdeithas

(20 credydau)

Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Lles

(20 credydau)

Gwirfoddoli: Y Porth i Gyflogaeth

(20 Credydau)

Adsefydlu Troseddwyr

(20 credyd)

Dewisol

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

((60 Credyd))

Gorfodol 

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol

(20 credyd)

Y Cyfryngau a Throsedd

(20 credyd)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 96 Pwynt UCAS

  • Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, cyflwyniadau ac arholiadau.

  • .

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • .

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau