Skip page header and navigation

Celf a Dylunio (Rhan amser) (ProfDoc)

Abertawe
6 Blynedd Rhan amser

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio wedi’i chynllunio i feithrin dealltwriaeth ddofn ohonoch chi eich hun, eich safle a’ch canfyddiad o fyd Celf a Dylunio yn ei holl ffurfiau a’i gynrychiolaethau.

I wneud hyn, byddwch angen rhywfaint o brofiad sylfaenol o weithio yn y diwydiant — rydym yn meddwl bod rhwng 2 a 5 mlynedd o weithio yn fan cychwyn da.

Bydd y cyfnod hwn yn sylfaen i’ch myfyrio. Byddwn yn gofyn i chi fyfyrio ar feysydd o’ch bywyd hyd yn hyn, gan ofyn cwestiynau fel ‘sut ydych chi’n dysgu?’ a ‘beth sy’n cyfrif fel gwybodaeth yn eich barn chi?’

Rydym hefyd yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol fethodolegau ymchwil ansoddol er mwyn canfod beth sy’n gweithio orau i chi. 

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddefnyddio popeth rydych wedi’i ddysgu yn eich bywyd. Mae’n eich helpu i fyfyrio ar brofiadau’r gorffennol, yn broffesiynol ac yn bersonol.  

Rydym yn edrych ar ddylunio o safbwynt byd-eang, felly rydym yn croesawu meysydd dylunio o Tsieina a De-ddwyrain Asia, India a De America fel testun myfyrio ac ymchwil. 

Rydym yn angerddol dros ail-ddychmygu sut mae cyfathrebu, y cyfryngau, celf a dylunio yn gweithio o fewn eich ymarfer proffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs hwn yn eich herio a’ch datblygu i fod yr arweinydd nesaf yn eich dewis arferion celf, dylunio a diwydiannau creadigol.
02
O’ch blwyddyn gyntaf, byddwch yn creu papurau cynhadledd, erthyglau cyfnodolion, ac arddangosfa.
03
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn arddangos gwaith yn Llundain a dinas arall yn Ewrop.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ystod y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei addysgu (Rhan 1, Blwyddyn 1), mae’r myfyriwr yn astudio chwe modiwl.

Mae pob modiwl yn werth 30 credyd (cyfanswm o 180 credyd) ac yn cael eu hasesu drwy aseiniadau gwaith cwrs.

Mae Rhan 2 o’r rhaglen (sydd werth 360 credyd) yn gyfnod o ymchwil uwch dan oruchwyliaeth (Blynyddoedd 2 a 3) sy’n arwain at gyflwyno portffolio ymchwil, gan gynnwys traethawd ymchwil o 60,000 o eiriau ar ddiwedd Blwyddyn 3.

Gorfodol

Prosiect Ymchwil Seiliedig ar Waith

(360 credydau)

Dulliau Ymchwil Celf a Dylunio a Chyfathrebu Academaidd

(30 credydau)

Cynnig Ymchwil Ymarferydd Celf a Dylunio

(30 credydau)

Dulliau Ymchwil Ansoddol o fewn y Diwydiannau Creadigol

(30 credydau)

Sgyrsiau Proffesiynol

(30 credydau)

Dewisol

Adolygu Dysgu Proffesiynol ym maes Celf a Dylunio

(30 credydau)

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith Celf a Dylunio

(30 credydau)

Arfer Cadarnhau

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, y gofyniad mynediad sylfaenol arferol ar gyfer ymgeiswyr Doethuriaeth Broffesiynol yw:

    Gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch
    neu
    Radd Meistr mewn maes sy’n berthnasol i’r rhaglen arfaethedig (wedi’i dyfarnu gan brifysgol neu sefydliad addysg uwch cydnabyddedig arall yn y DU, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA)).

    Byddai o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol yn ddiweddar yn ddymunol. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun.

  • Asesir pob modiwl drwy amrywiaeth o aseiniadau gwaith cwrs, a all gynnwys traethodau, cyflwyniadau, ymarferion a dadansoddiadau testunol, adolygiadau o lyfrau, astudiaethau achos ac aseiniadau eraill.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu hymarfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu.  

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio eu hunain gyda nhw pan fyddan nhw’n dechrau’r cwrs.  Gallwn roi cyngor o ran yr offer y byddwch ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio, a’ch cyfeirio at gyflenwyr addas os ydych yn awyddus i brynu offer angenrheidiol yn ystod y cwrs neu cyn i chi ddechrau.  

    Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100, ond mae’n ddigon posibl bod llawer o’r eitemau gennych yn barod, felly gwiriwch gyda ni yn gyntaf.  Hefyd, er bod stiwdios dylunio digidol (PC a MAC) helaeth ar gael i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch eisiau dod â’ch dyfeisiau digidol eich hun hefyd. Gwiriwch gyda ni yn gyntaf cyn prynu.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r ymwneud hwn ag agweddau allweddol ar arfer proffesiynol yn atgyfnerthu’r ffaith mai nod y rhaglen yw datblygu ymarferwyr addysg medrus iawn sydd hefyd â’r wybodaeth, a’r sgiliau dadansoddi ac ymchwil sydd gan raddedigion Doethurol llwyddiannus.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau