Skip page header and navigation

Coleg Celf Abertawe – Doethuriaeth (Llawn amser) (PhD)

Abertawe
4 Blynedd Llawn amser

Mae Doethuriaeth yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i bwnc sy’n berthnasol i’r meysydd y mae’r Gyfadran yn arbenigo ynddyn nhw, a hynny o dan oruchwyliaeth tîm o staff academaidd cymwys.

Yr hyn sy’n gwneud doethuriaeth yn wahanol i raddau ymchwil eraill, fel MPhil, yw bod yn rhaid i ddoethuriaeth wneud cyfraniad gwreiddiol i’r maes, tra bo cymhwyster fel MPhil yn gallu ystyried a gwneud sylwadau ar yr hyn rydym yn ei wybod yn barod.

Yng Ngholeg Celf Abertawe, rydym yn cynnig amrywiaeth o astudiaethau M.Phil./PhD ar draws meysydd eang Celf a Dylunio. Ewch i’n tudalen ffioedd i weld cost y cyrsiau.

Mae gennym restr hir o academyddion sydd â doethuriaethau ac arbenigeddau cysylltiedig a all oruchwylio myfyrwyr sy’n gweithio ar lefel gradd ymchwil ar draws y prif ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig ag ysgol gelf o’r radd flaenaf.

Mae addysgeg y pedair ysgol sy’n rhan o Goleg Celf Abertawe yn arloesol ac maen nhw’n cynnal prosiectau ymchwil blaengar yn holl feysydd celf a dylunio:

  • Dylunio a’r Celfyddydau Cymhwysol
  • Ffilm a’r Cyfryngau Digidol
  • Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth
  • Cyfathrebu Gweledol

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig cyfle i ddarpar-ymchwilwyr ymuno â’n timau yn eu hamgylcheddau proffesiynol a datblygu meysydd archwilio newydd cyffrous ar draws disgyblaethau diwylliannol.
02
Cynigiwn raddau ymchwil rhan-amser a llawn amser, a’n nod yw denu ystod o bobl, boed yn ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym maes celf a dylunio neu’n athrawon ar ganol eu gyrfa sy’n chwilio am ysbrydoliaeth a chyfle i ystyried safbwyntiau newydd.
03
Mae croeso hefyd i ymchwilwyr diwedd gyrfa sydd ag amser o’r diwedd, i fynd ar drywydd y syniad gwych hwnnw a gafwyd sbel yn ôl. Os hoffech ddysgu rhagor am gyfleoedd cyffrous ein rhaglen graddau ymchwil, cysylltwch â ni er mwyn trefnu apwyntiad.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd darpar ymgeiswyr yn cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil.

Ar ôl cymeradwyo’r cais, bydd tîm goruchwylio yn cael ei benodi i chi a fydd yn cynnwys dau neu dri aelod priodol o staff dan arweiniad Cyfarwyddwr Astudiaethau. Byddwch chi, ynghyd â’r tîm, yn cynnal ymchwiliad estynedig i’r pwnc dan sylw, ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil.

Gallwch ddewis gwneud ymchwil seiliedig ar arfer hefyd, sy’n golygu traethawd ymchwil byrrach ynghyd â chorff sylweddol o waith ymarferol. Mae pob myfyriwr ymchwil yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddiant ymchwil yn ogystal ag Ysgol Haf y Brifysgol.

Mae’r Gyfadran yn arbenigo ym mhob agwedd ar y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth, ffilm a’r cyfryngau. Yn aml, bydd gwaith Doethuriaeth yn arwain at gyhoeddi, a gallai arwain at yrfa yn y byd academaidd.

.

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Y meincnod ar gyfer mynediad yw gradd israddedig 2:1 neu uwch. Gall myfyrwyr aeddfed wneud cais sy’n ystyried eu portffolio a/neu eu gyrfa academaidd/diwydiannol flaenorol.

    Mae gweithdrefn hefyd ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol brofi eu bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at y lefel IELTS 6.5 ofynnol.

  • Caiff Doethuriaeth ei hasesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil ysgrifenedig ynghyd â chorff o waith ymarferol, os yw’n briodol, ac yna bydd dau arholwr, un o’r tu allan i’r Brifysgol, yn cynnal arholiad llafar, neu viva, er mwyn craffu ar y gwaith.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

    Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau