Skip page header and navigation

Celf Gain - Deialogau Cyfoes (Rhan amser) (MA)

Abertawe
18 Misoedd Llawn amser

Mae ein rhaglen Celf Gain (MA) yn myfyrio ar ac yn ymateb i natur ryngddisgyblaethol celf gyfoes ac yn meithrin diwylliant o drafodaeth feirniadol mewn cyd-destun sy’n seiliedig ar arfer. 

Mae’r rhaglen astudio hon yn gwerthfawrogi pob arfer gan gynnwys, ymhlith eraill, arlunio, cerflunio, gosodiadau, perfformio, ffotograffiaeth a ffilm.

Mae’r cwrs gradd meistr hwn yn archwilio rôl yr artist, o ran eu dulliau astudio annibynnol a chydweithredol, ac yn hyrwyddo dull dadansoddol o arfer celf.

Mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr i ymestyn eu harfer ar draws gwahanol ddisgyblaethau, cyfryngau a llwyfannau ac yn ysgogi deialog rhwng ymarferwyr creadigol, asiantaethau a sefydliadau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
18 Misoedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
02
Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn cael ei gydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer dysgu ac ymchwil ym maes celf a dylunio.
03
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae portffolio meistr Deialogau Cyfoes Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw.

Gall graddedigion a gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth helaeth o wahanol arbenigeddau elwa o ddysgu amlddisgyblaethol gyda’n darlithwyr arbenigol ac amrywiaeth eang o gyfleusterau.

Cewch gyfle i dynnu ar brofiadau a gwybodaeth o’r holl wahanol lwybrau a myfyrio arnyn nhw yn eich astudiaeth eich hun.

Mae mewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, sy’n aml yn ddylunwyr, yn ddamcaniaethwyr ac yn artistiaid ymchwilgar o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, yn creu amgylchedd ymchwilio gwych.

Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau sy’n cael eu haddysgu.

Byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd lle cewch drafodaethau amlddisgyblaethol gyda myfyrwyr eraill o bob un o raglenni’r portffolio Deialogau Cyfoes, a hynny er mwyn ysgogi cyfeiriadau newydd a herio safbwyntiau.

Mae rhannu syniadau drwy ddeialogau o’r fath yn annog myfyrwyr i ailystyried y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n berthnasol i’w disgyblaeth.

Trwy gydol y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei haddysgu, bydd disgwyl i chi ymchwilio i ddeunyddiau a gwneud gwaith ymchwil ar themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

 

Pynciau Modiwlau

Mae’r portffolio meistr yn gwrs ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol arloesol. Mae strwythur y cwrs yn hwyluso dysgu o fewn ac ar draws disgyblaethau, gan eich galluogi i feithrin cysylltiadau â staff a myfyrwyr sydd ag ehangder a dyfnder o wybodaeth a phrofiad.

Mae rhan gyntaf y cwrs yn cael ei chyflwyno mewn tri modiwl 20 credyd, gyda’r nod o ehangu profiad a dyfnhau gwybodaeth. Mae’r pwyslais ar arbrofi ac ymchwilio.

Mae cam nesaf y cwrs yn cael ei arwain gan y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn dewis o blith amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, gan ddewis y rhai sy’n ennyn eu diddordeb ac a fydd yn ddefnyddiol i’w profiad dysgu unigol. Yn ystod y modiwl 60 credyd hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu gwaith ymchwil unigol neu gydweithredol, a hynny trwy archwilio ac arbrofi ymarferol a damcaniaethol, gyda chefnogaeth gan weithdai ymarferol, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau.

Cam olaf y cwrs yw Prosiect Mawr dan arweiniad y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn atgyfnerthu’r gwaith maen nhw wedi’i wneud yn barod, gyda’r nod o gyflwyno’r canlyniadau’n gyhoeddus, ar ffurf arddangosfa, prototeip o gynnyrch, neu lyfr, er enghraifft. Mae’r rhan hon o’r cwrs yn cael ei chefnogi gan seminarau, tiwtorialau a rhaglen o sesiynau gan ddarlithwyr gwadd sy’n cynnig cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol.

Gorfodol

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Ymchwil ac Arfer Archwiliol

(60 credydau)

Arfer Cadarnhau

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.

    Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.

    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.

    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyniad o’r gwaith i’r tîm asesu.

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill: 

    Tiwtorialau 
    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

    Yn Semester 1, llawnamser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawnamser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.

    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 

    Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.

    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu’r seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.

    Arddangos gwaith
    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny. 

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdai a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu. 

    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety. Fel arfer mae cyfraddau is ar gael i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd digonedd o ddewisiadau ar gael i fyfyrwyr Celfyddyd Gain, gan fod eu dull aml-sgil yn caniatáu iddyn nhw ddilyn nifer o lwybrau artistig proffesiynol, gan gynnwys:

    • Therapi celf
    • Curadur/rheoli amgueddfa neu oriel
    • Arlunydd proffesiynol
    • Arweinydd prosiect ym maes celf gymunedol
    • Addysgu/darlithio

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau