Skip page header and navigation

Crefftau Dylunio - Deialogau Cyfoes (Rhan amser) (MA)

Abertawe
3 Blynedd Rhan amser

Fel rhan o’r portffolio MA Deialogau Cyfoes, cewch eich annog i ymgysylltu â materion cyfoes ac archwilio defnyddiau, gan gynnwys deialogau beirniadol a damcaniaethol, fel rhan annatod o’ch cynnydd a’ch arfer unigol.

Mae gweithdai Crefftau Dylunio yn darparu ar gyfer arbenigo mewn cerameg, gwydr, neu fetelau ynteu gweithio ar draws disgyblaethau, yn cynnwys ffotograffiaeth, print, a thecstilau, gan eich annog i ddatblygu dull rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig yn draddodiadol ag arfer Crefftau Dylunio a thu hwnt.  Gellir ystyried prosesau gwneud â llaw a rhai digidol, yn ogystal ag ysgrifen a thestun, fel dulliau o wneud a meddwl.

Bydd y cwrs yn gorffen gydag arddangosfa dan arweiniad myfyrwyr ac adroddiad beirniadol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
02
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.
03
Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig opsiynau llawn-amser a rhan-amser ac, er mwyn helpu i gefnogi ein myfyrwyr meistr, rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r addysgu craidd ar ddyddiau Iau a Gwener.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae portffolio meistr Deialogau Cyfoes Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. 


Gall graddedigion a gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth helaeth o wahanol arbenigeddau elwa o ddysgu amlddisgyblaethol gyda’n darlithwyr arbenigol ac amrywiaeth eang o gyfleusterau.


Cewch gyfle i dynnu ar brofiadau a gwybodaeth o’r holl wahanol lwybrau a myfyrio arnyn nhw yn eich astudiaeth eich hun.


Mae mewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, sy’n aml yn ddylunwyr, yn ddamcaniaethwyr ac yn artistiaid ymchwilgar o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, yn creu amgylchedd ymchwilio gwych.

Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau sy’n cael eu haddysgu. Byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd lle cewch drafodaethau amlddisgyblaethol gyda myfyrwyr eraill o bob un o raglenni’r portffolio Deialogau Cyfoes, a hynny er mwyn ysgogi cyfeiriadau newydd a herio safbwyntiau. Mae rhannu syniadau drwy ddeialogau o’r fath yn annog myfyrwyr i ailystyried y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n berthnasol i’w disgyblaeth.


Trwy gydol y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei haddysgu, bydd disgwyl i chi ymchwilio i ddeunyddiau a gwneud gwaith ymchwil ar themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Compulsory

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Ymchwil ac Arfer Archwiliol

(60 credydau)

Arfer Cadarnhau

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, rydym yn gofyn i chi fod â gradd 2.1. Ond, byddwn ni hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol, a’n nod yw cyfweld â phob un ymgeisydd. Pan fo’n bosibl, rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr i ddod i gael blas ar ddiwrnod o addysgu er mwyn gweld a yw’n addas iddyn nhw.

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.


    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.


    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyno’r gwaith i’r tîm asesu.
     

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill:

    Tiwtorialau 
    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.


    Yn Semester 1, llawn-amser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawn- amser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.


    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 


    Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.


    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu’r seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.


    Arddangos gwaith
    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdai a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.


    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu. 


    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety. Fel
    arfer mae cyfraddau is ar gyfer ein myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion yn aelodau gweithgar o’n diwylliant creadigol, ac yn datblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o rolau proffesiynol, fel:

    • Entrepreneur diwylliannol
    • Curadur
    • Addysgwr – darlithydd prifysgol
    • Myfyriwr gradd ymchwil a ariennir
    • Artist/dylunydd

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau