Skip page header and navigation

Dylunio - Deialogau Cyfoes (Llawn amser) (MA)

Abertawe
12 Mis Llawn amser

Bydd y rhaglen Meistr mewn Dylunio yn adeiladu ar eich sgiliau a’ch gwybodaeth i’r pwynt lle gallwch ddangos dealltwriaeth gynhwysfawr o theori a thechnegau dylunio. Wedi’ch paratoi yn y modd hwn, byddwch yn gallu cynnal ymchwil gyda’r bwriad o’i ddefnyddio mewn cyd-destun proffesiynol.  

Mae’r rhaglen yn darparu cyfle am waith annibynnol a chydweithredol, gan greu lle ar gyfer creadigrwydd ac arbrofi. 

Drwy strwythuro modylau’n ofalus, mae’n rhoi cyfle i chi ddeall syniadau damcaniaethol ac athronyddol cymhleth tra byddwch yn adeiladu ymchwil academaidd annibynnol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
12 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
02
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.
03
Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig opsiynau llawnamser a rhan-amser ac, er mwyn helpu i gefnogi ein myfyrwyr meistr, rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r addysgu craidd ar ddyddiau Iau a Gwener.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae portffolio meistr Deialogau Cyfoes Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. 

Gall graddedigion a gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth helaeth o wahanol arbenigeddau elwa o ddysgu amlddisgyblaethol gyda’n darlithwyr arbenigol ac amrywiaeth eang o gyfleusterau.

Cewch gyfle i dynnu ar brofiadau a gwybodaeth o’r holl wahanol lwybrau a myfyrio arnyn nhw yn eich astudiaeth eich hun.

Mae mewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, sy’n aml yn ddylunwyr, yn ddamcaniaethwyr ac yn artistiaid ymchwilgar o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, yn creu amgylchedd ymchwilio gwych.

Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau sy’n cael eu haddysgu. Byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd lle cewch drafodaethau amlddisgyblaethol gyda myfyrwyr eraill o bob un o raglenni’r portffolio Deialogau Cyfoes, a hynny er mwyn ysgogi cyfeiriadau newydd a herio safbwyntiau. Mae rhannu syniadau drwy ddeialogau o’r fath yn annog myfyrwyr i ailystyried y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n berthnasol i’w disgyblaeth.

Trwy gydol y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei haddysgu, bydd disgwyl i chi ymchwilio i ddeunyddiau a gwneud gwaith ymchwil ar themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Gorfodol

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Arloesi Creadigol

(20 credydau)

Profiadau Dylunio

(40 credydau)

Prosiect Dylunio Mawr

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, rydym yn gofyn i chi fod â gradd 2.1. Ond, byddwn ni hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol, a’n nod yw cyfweld â phob un ymgeisydd. Pan fo’n bosibl, rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr i ddod i gael blas ar ddiwrnod o addysgu er mwyn gweld a yw’n addas iddyn nhw.

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.

    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.

    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyniad o’r gwaith i’r tîm asesu.

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill: 

    Tiwtorialau 
    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

    Yn Semester 1, llawnamser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawnamser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.

    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 

    Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.

    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.

    Arddangos gwaith
    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu. 

    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety, ac fel arfer mae cyfraddau is ar gael i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Addurno Mewnol 

    • Dylunydd Wneuthurwr 
    • Golygyddol – cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio 
    • Llawrydd ar gyfer brandiau addurno mewnol a chleientiaid 
    • Rolau mewnol ar gyfer brandiau addurno mewnol 
    • Steilydd addurno mewnol 
    • Dylunydd cynnyrch ffordd o fyw 
    • Dylunydd patrymau 
    • Sgrin-brintiwr 
    • Dylunydd tecstilau 
    • Rhagweld tueddiadau a rhagfynegi ym maes addurno mewnol 
    • Dylunydd papur wal 

    Ffasiwn

    • Cynorthwyydd dylunio 
    • Rolau stiwdio ddylunio 
    • Dylunydd Wneuthurwr
    • Dylunydd tecstilau digidol 
    • Golygyddol – cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio
    • Steilydd ffasiwn 
    • Llawrydd ar gyfer brandiau 
    • Swyddi hyfforddeion graddedig 
    • Rolau mewnol ar gyfer brandiau 
    • Dylunydd ffordd o fyw ac ategolion 
    • Dylunydd patrymau
    • Sgrin-brintiwr
    • Dylunydd tecstilau
    • Rhagweld tueddiadau a rhagfynegi ym maes ffasiwn 

    Deunydd ysgrifennu

    • Dylunio rhoddion – deunydd lapio, ac ategolion a nwyddau cysylltiedig 
    • Darlunydd 
    • Dylunio deunydd ysgrifennu – cardiau, llyfrau, nwyddau ffordd o fyw 

    Cyrff y Celfyddydau 

    • Artistiaid Preswyl
    • Prosiectau cymunedol
    • Gwneuthurwr sy’n arddangos 
    • Rheoli orielau 
    • Rheoli Prosiectau
    • Stocio a gwerthu drwy siopau orielau a guradwyd 
    • Gwirfoddoli
    • Gweithdai

    Manwerthu

    • Prynu 
    • Steilydd Personol
    • Gwerthu drwy safleoedd manwerthu 
    • Steilio 
    • Marsiandïo Gweledol – dylunio a gosod 

    Addysgu

    • Gweithdai Cymunedol a grwpiau’r Celfyddydau 
    • TAR – Uwchradd, Cynradd, AB
    • Darlithydd prifysgol 
    • Darlithydd ar ymweliad 
    • Gweithdai, llawrydd 

    Dulliau gweithio 

    • Cyflogaeth
    • Mentergarwch
    • Llawrydd 
    • Hunangyflogaeth
    • Gwirfoddol

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau