Skip page header and navigation

Celf a Dylunio Sylfaen (Llawn amser) (CertHE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ein Tyst AU: Mae’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS yn brofiad dysgu arbrofol, archwiliadol ac amrywiol.

Mae ein myfyrwyr yn cael cyflwyniad eang i gelf a dylunio ac yn mynd ymlaen i arbenigo mewn ystod eang o ddisgyblaethau neu feysydd dylunio.

Mae’n canolbwyntio ar osod sylfaen gadarn ar gyfer eich dyfodol creadigol.

Yn bennaf, mae’r rhaglen yn weledol ac ymarferol, gydag elfennau o waith ysgrifenedig, ac mae’n datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniad, cyd-destunau a gwneud.

Mae’r cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad i’r cyllid myfyrwyr arferol sydd ar gael i fyfyrwyr gradd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
F4W8
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dysgu mewn arddull ‘ysgol gelf’, mewn stiwdio
02
Technegwyr cwrs pwrpasol
03
Mae’r holl diwtoriaid yn Artistiaid a Dylunwyr wrth eu gwaith
04
Mae’r cwrs Sylfaen hwn wedi bodoli yn Abertawe ers dros 100 o flynyddoedd
05
Ni yw’r unig gwrs Celf a Dylunio Sylfaen Addysg Uwch Lefel 4 yng Nghymru
06
Mynediad at yr holl gyfleusterau arbenigol a gweithdai ar draws y Brifysgol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs TystAU: Celf a Dylunio Sylfaen yn ddatblygiad newydd cyffrous o’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yma yng Ngholeg Celf Abertawe (PCYDDS) sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 yn ddiweddar. Mae llawer o newidiadau wedi bod yn ystod yr amser hwnnw, ond mae’r cwrs wedi mynd o nerth i nerth, gan adeiladu enw da am ragoriaeth: nawr rydym yn cychwyn cyfnod newydd.

Addysgir y cwrs cyfan ar Lefel 4. Mae hyn yn ddilyniant clir o Lefel A ond gan roi i fyfyrwyr amser i ystyried opsiynau arbenigol BA yng nghyd-destun profiad ysgol gelf llawn. 

Rydym yn cynnal ethos a hud cwrs Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen.  Credwn fod hyn yn hanfodol i lwyddo ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.

Mae’r cwrs wedi’i seilio ar stiwdio hardd yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX sef man cychwyn gwreiddiol y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl.  Hefyd, rydym yn gweithio ar draws Campysau Alex a Dinefwr ac yn cynnig mynediad lawn i’n myfyrwyr at weithdai pwrpasol, cyfleusterau ac adnoddau yn yr ysgol gelf, gan weithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr gradd. Mae gan yr ysgol gelf rai o gyfleusterau gorau’r ardal ac mae yma offer traddodiadol ac o’r radd flaenaf ar gael i bob myfyriwr fanteisio arno. 

Mae’r Dystysgrif AU: Celf a Dylunio Sylfaen yn gyflwyniad i astudio ym maes celf a dylunio, sef sylfaen neu sail i fyfyrwyr sy’n mynd i ‘ysgol gelf’ ac sy’n dod ar draws, am y tro cyntaf, addysgu a dysgu mewn stiwdio, a nodweddir gan ymholi a dysgu trwy ddarlunio, gwneud a phroses, ysgrifennu, ymchwil, cyflwyno a thrafodaeth.

Mae’r cwrs yn pontio astudio ar Lefel Tri ac yn arwain at astudio ar gyrsiau anrhydedd ym maes celf a dylunio, a meysydd astudio eraill, trwy broses gydlynol a strwythuredig o ddatblygu a gwneud penderfyniadau, gan symud o ddysgu sgiliau sylfaenol ac arbrofi’n eang i gadarnhau a gweithio’n annibynnol.

Mae’r cwrs yn galluogi i fyfyrwyr symud ymlaen trwy gynhyrchu portffolio o waith ymarferol, a gweledol, enghreifftiau o waith ysgrifenedig ac arddangosfa derfynol. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i feysydd astudio arbenigol gan gynnwys Celf Gain, Cyfathrebu Gweledol, Cyfryngau sy’n defnyddio Lens, Dylunio 3D, Ffasiwn a Thecstilau.

Bydd myfyrwyr yn arbenigo ymhellach ac yn symud ymlaen i gyrsiau astudio gan gynnwys Celf Gain, Peintio a Thynnu Llun, Darlunio, Dylunio Graffig, Hysbysebu a Dylunio Brand, Dylunio Gemau, Y Celfyddydau Digidol, Animeiddio, Ffilm a Fideo, Ffotograffiaeth, Moduro, Addurno Mewnol, Cynnyrch, Dylunio a Chynhyrchu Theatr, Dylunio Ffasiwn a Gemwaith, Tecstilau a Phatrymau Arwyneb.

Darperir y modylau cynyddol trwy Weithdai Ymarferol, cyflwyniadau i Brosiectau Cyd-destunol, Tiwtorialau Grŵp ac Unigol, Beirniadaethau, Darlithoedd a Seminarau.

Gorfodol 

Ysgrifennu Academaidd ac Ymchwil Ymarferol / Ysgrifenedig

(20 credydau)

Datblygu Arfer Personol

(20 credydau)

Datblygu Arfer Arbenigol a Pharatoi ar gyfer Cynnydd

(20 credydau)

Canlyniadau Arddangosfa

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gelf a Dylunio

(20 credydau)

Canlyniadau Arddangosfa

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Myfyriwr Celf yn gweithio mewn stiwdio

Cyfleusterau Celf a Dylunio Sylfaen

Mae’r cwrs Sylfaen wedi’i leoli mewn stiwdio fawr, agored, brydferth yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac yma oedd lleoliad cyntaf y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym yn gweithio ar draws Campysau Alex a Dinefwr sy’n cynnig mynediad llawn i fyfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau pwrpasol yn y Coleg Celf.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Oriel Celf a Dylunio Sylfaen

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs hwn yw 32 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth

    Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol.

    Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Mae pob un o’r 6 modwl yn ennill ugain credyd, a chaiff pob un ei asesu trwy Waith Cwrs.

    Cyflwynir y gwaith cwrs mewn Llyfrau braslunio/Dyddiaduron Gweledol, Gwaith Paratoadol, Gwaith o Weithdai a Dosbarth Darlunio, Deilliannau Prosiect, Dogfennaeth Ddigidol, Portffolio Dethol a Gasglwyd, Aseiniadau Ysgrifenedig.

    Beirniadaethau

    Trefnir beirniadaethau grŵp yn rheolaidd i gloi prosiectau a bod yn rhan o’r asesu. Maent yn darparu cyfle i gyflwyno deilliannau a gwaith paratoi yn ffurfiol ac i gymheiriaid a staff roi beirniadaethau. 

    Portffolio Dethol a Gasglwyd 

    Bydd myfyrwyr sy’n gweithio gyda staff yn dethol a choladu portffolio o waith i’w gyflwyno mewn cyfweliadau i symud ymlaen i gyrsiau pellach/eraill. Prif ran y portffolio fydd gwaith prosiect ac, yn arbennig deilliannau arbenigol a gwaith paratoi. Dewisir darluniau a gwaith prosiect ac fe’u dewisir i ddangos sgiliau a gallu ychwanegol. Bydd llyfrau braslunio, dyddiaduron gweledol ac unrhyw waith paratoadol 3D yn cyd-fynd â’r portffolio.

    Aseiniadau ysgrifenedig

    Gall fformat aseiniadau ysgrifenedig gynnwys traethodau ar themâu arfaethedig, adroddiadau arddangosfa, cynigion prosiect ac adolygiadau. Gall fformat cyflwyniadau gynnwys: traethodau academaidd wedi’u cyfeirnodi’n llawn ac adroddiadau a/neu flogiau llai ffurfiol.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu. 

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs.  Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.  

    Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf.  Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi, felly cysylltwch â ni cyn prynu unrhyw beth.

  • Bydd myfyrwyr sy’n dechrau’r cwrs hwn yn y flwyddyn academaidd 2024-2025 ac sy’n mynd ymlaen i gofrestru ar gwrs gradd llawn amser yn derbyn ysgoloriaeth gwerth £1,500 

  • Mae’r cwrs Sylfaen wedi’i leoli mewn stiwdio fawr, agored, brydferth yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac yma oedd lleoliad cyntaf y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym yn gweithio ar draws Campysau Alex a Dinefwr sy’n cynnig mynediad llawn i fyfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau pwrpasol yn y Coleg Celf.

    Mae gan y Coleg Celf rai o gyfleusterau gorau’r ardal, gan gynnwys offer traddodiadol a thra modern sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr fanteisio arnynt. Mae’r myfyrwyr sylfaen yn cael mynediad i feysydd astudio arbenigol megis: Gwneud printiau, Ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth, Adeiladu mewn gweithdy â chyfarpar llawn, Argraffu 3D, Torri â laser, Cerameg a Gwydr, mannau gwaith digidol gyda chyfrifiaduron personol a Mac.

    Rydym yn cynnal ethos a hud y cwrs Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen.  Credwn fod hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau