Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc, DipAU)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc, DipAU)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon wedi ymateb i newid yn y sector drwy ymgorffori elfennau newydd o bolisi a sgiliau a chynyddu opsiynau ar gyfer myfyrwyr yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant a phobl ifanc sy’n esblygu’n gyflym. Y nod yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu bodloni nodau llywodraethol strategol ac yn barod ar gyfer amgylchedd gwaith sydd â chyfleoedd niferus ac amrywiol.

Mae’r rhaglen hon yn gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â’r sector iechyd, iechyd digidol a gofal cymdeithasol. Ei nod yw rhoi i chi astudiaethau blaengar sydd â pherthnasedd i yrfaoedd yn swyddogaethau cynradd gofal o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwch yn ymarfer grymoedd ymchwiliol, dadansoddol, adfyfyriol a rhesymu mewn cyd-destun ac yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i ymestyn eich astudiaethau a’ch hyfforddiant ar ôl i chi raddio.

Bydd astudio’r rhaglen hon yn caniatáu i chi uwchsgilio os ydych eisoes yn gweithio fel ymarferydd proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol (gan helpu i leddfu’r diffyg ymarferwyr proffesiynol iechyd a gofal sydd â chymwysterau lefel 4 a 5) neu eich paratoi ar gyfer bod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf sy’n barod ar gyfer cyflogaeth addas a llwyddiannus yn y sector.

Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc) (3 blynedd)
Cod UCAS: L510
Gwneud cais drwy UCAS

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DipAU) (2 flynedd)
Cod UCAS: HSC5
Gwneud cais drwy UCAS


Llundain

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc; 3 blynedd)
Ymgeisio Uniongyrchol


Birmingham

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc; 3 blynedd)
Ymgeisio Uniongyrchol


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: amanda.owens@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Amanda Owens


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

5 Rheswm dros astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  1. Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd
  2. Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio
  3. Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  4. Mae gennym bartneriaethau gyda sefydliadau sy’n gallu cynnig rolau gwaith â thâl a gwirfoddol.
  5. Rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r profiad sydd gennych yn barod wrth wneud eich cais.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs yn darparu trosolwg o’r sector iechyd a gofal cyfunol ac yn cynnig cyfleoedd i chi ymuno â’r gweithlu mewn ystod o rolau. Mae ystod o oedrannau, profiadau a rolau gwaith presennol yn defnyddio’r cwrs hwn i uwchsgilio a symud ymlaen ym maes iechyd a gofal.

Mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r radd hon i gael mynediad i rolau yn y sector cyhoeddus (er enghraifft gofal, adnoddau dynol, tai ac amgylchedd, rolau addysg neu hyfforddi, neu eiriolaeth), y sector preifat (asiantaethau, rolau gweithiwr cymorth, gweinyddol a rheoli) neu’r trydydd sector (rolau codi arian, cydlynu a gefnogi). Hefyd, mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r cwrs hwn fel platfform ar gyfer astudio pellach er mwyn cymhwyso’n weithwyr cymdeithasol, seicolegwyr a darlithwyr, neu symud ymlaen i gwrs Meistr.

Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau a phobl allweddol o fewn y sector iechyd. Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd. 

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (TystAU, DipAU a BSc)

  • Cwnsela, Cyfathrebu, a’r Berthynas Therapiwtig (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Iechyd a Llesiant y Cyhoedd (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Rheolaeth, Ymddygiad Sefydliadol a Newid Digidol (20 credyd; gorfodol)
  • Seicoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol).

 Blwyddyn Dau – Lefel 5 (DipAU a BSc)

  • Cyflwyniad i Ffisioleg (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil Annibynnol (20 credyd; gorfodol)
  • Diogelu a Chefnogi Teuluoedd ym maes Iechyd a Gofal (20 credyd; gorfodol)
  • Egwyddorion Arfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.

 Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BSc)

  • Dosbarthiadau a Darpariaethau Seicopatholegol (20 credyd; gorfodol)
  • Grymuso’r Person Hŷn (20 credyd; gorfodol)
  • Iechyd, Llesiant a Datblygu Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
  • Trawsnewid Digidol yn y Proffesiynau Iechyd a Gofal (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol, trafodaethau beirniadaethau polisi a phortffolios proffesiynol. Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.

I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Tyst AU (blwyddyn) neu Ddiploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.

I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS. 

Cyfleoedd Gyrfa

Mae gennym gymorth cyflogaeth a system profiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd.

Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector a grwpiau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.

Costau Ychwanegol

Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth