Skip page header and navigation

Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Nod ein rhaglen radd Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yw cyfoethogi sgiliau dysgu gydol oes a datblygiad personol, i’ch galluogi i weithio gyda hunangyfeiriad a gwreiddioldeb a chyfrannu at y diwydiannau bwytai a gastronomeg a chymdeithas yn gyffredinol. Nod y rhaglen yw creu graddedigion sy’n ddinasyddion byd-eang ac sy’n mynd i’r afael â’u bywydau personol a phroffesiynol o safbwynt cynaliadwy.

Bydd y rhaglen BA Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn datblygu eich sgiliau rheoli a deallusol, yn cynnwys rhesymu beirniadol, dadansoddi, creadigrwydd ac adfyfyrio. Byddwch yn datblygu gallu i ddangos gwybodaeth fanwl a gwerthfawrogiad o natur rheolaeth gastronomeg a bwytai ryngwladol, nodweddion gwesteion sy’n bwyta, a goblygiadau ar gyfer rheoli cyfarfyddiadau gwasanaeth.

Bydd y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gyrfa, neu ddatblygiad gyrfa, o fewn y sector gastronomeg a bwytai rhyngwladol trwy ddatblygu sgiliau proffesiynol priodol. Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth systematig, a gwybodaeth gydlynol a manwl o ffeithiau, cysyniadau ac egwyddorion cysylltiedig â rheolaeth gastronomeg, y gellir eu defnyddio yn eich gyrfa yn y diwydiant yn y dyfodol. Yn ogystal, cewch ddealltwriaeth systematig o strwythur, rheolaeth a marchnata sefydliadau o fewn y diwydiant gastronomeg.

Mae’r rhaglen hon yn darparu lleoliad parhaus o fewn bwyty proffesiynol ochr yn ochr â modwl academaidd bob tymor yn ystod y tair blynedd.

Dylai myfyrwyr wneud cais drwy UCAS er mwyn dechrau ym mis Medi.  Os ydych chi’n gwneud cais am ddyddiad dechrau arall, dylech chi wneud cais uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
IGA1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn

Achrededig:
Institute of Hospitality Education Membership Scheme

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyflwynir hanner y rhaglen ar leoliad yn y diwydiant a chyflwynir y modylau ‘a addysgir’ ar-lein
02
Mae cyflogadwyedd yn greiddiol i’r rhaglen.
03
Perthnasoedd gwaith cryf ag arweinwyr yn y diwydiant bwytai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cyflwynir hanner y rhaglen ar leoliad yn y diwydiant a chyflwynir y modylau ‘a addysgir’ ar-lein.

Ar lefel 4, mae’r myfyrwyr yn rhannu eu hastudiaethau’n gyfartal rhwng modylau mwy damcaniaethol a addysgir (60 credyd a gyflwynir ar-lein) a modylau ar leoliad ymarferol mewn bwyty (60 credyd) o fewn fframwaith rhagarweiniol. Mae myfyrwyr yn astudio ar sail tri thymor, 40 credyd fesul tymor (neu 20 credyd ar gyfer myfyrwyr Rhan-amser).

Ar lefel 5 a 6, mae’r patrwm cyflwyno hwn yn cael ei ailadrodd, gan symud ymlaen i fodylau datblygu ac yna modylau gweithredu.

Ar lefel 6, anogir myfyrwyr i ddilyn agwedd arbenigol, gan ganiatáu iddynt ddewis llwybr gyrfa penodol:

  • cegin (sgiliau cogydd);
     
  • gwasanaeth blaen tŷ (gan gynnwys gweini gwin a sgiliau bar);
     
  • rheoli bwytai (gan ystyried rheoli agoriadau newydd, marchnata, AD, rolau rheoli cyffredinol).

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ymgeiswyr ddatblygu sgiliau penodol, yn canolbwyntio ar fwytai a gastronomeg rhyngwladol, gan eu caniatáu i gael mynediad at gyfleoedd gyrfaol eang ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Mae gan yr holl staff a fydd yn addysgu ar y rhaglen gysylltiadau clos â’r diwydiant ac mae sawl un yn gyn-weithwyr neu weithredwyr bwytai.

Ceir ymgysylltiad cryf â chyflogwyr allweddol a chyfranogiad â ffocws mewn rhwydweithiau sgiliau a mentrau. Bydd y cwrs yn esblygu’n barhaus yn unol ag adborth gan y diwydiant; mae gan y Brifysgol berthnasoedd gwaith cryf ag arweinwyr yn y diwydiant bwytai, gan gynnwys The Seren Collection, The Cygnus Group, The Secret Hospitality Group a Jessica Rice Events, a chyda chymorth cogyddion a sommeliers blaenllaw ar draws y DU.

Cyflwyniad i Gastronomeg

(20 credydau)

Lleoliad: Sgiliau coginio

(20 credydau)

Rheolaeth Effeithiol

(20 credydau)

Cynnyrch, Tarddiad a Chyrchu

(20 credydau)

Lleoliad: Profiad Cwsmer a Sgiliau Gwasanaeth

(20 credydau)

Lleoliad: Rheoli Bwyty

(20 credydau)

Marchnata a Gwerthu

(20 credydau)

Lleoliad: Datblygu Sgiliau Coginio

(20 credydau)

Ymgorffori Cynaliadwyedd o fewn Sefydliadau

(30 credydau)

Gwasanaeth Proffesiynol

(20 credydau)

Lleoliad: Profiad Cwsmer a Sgiliau Gwasanaeth

(20 credydau)

Lleoliad: Rheoli Bwyty

(20 credydau)

Dadansoddi ac Adolygu'r Broses Weithrediadau

(20 credydau)

Arwain Strategaeth Bwytai

(20 credydau)

Marchnata a Hyrwyddo Cyfleusterau Bwytai

(20 credydau)

Lleoliad Arbenigol: Adolygu Hunan Berfformiad

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, mae’r rhaglen yn gofyn bod myfyrwyr wedi cyflawni 88 o bwyntiau UCAS.

    Er bod graddau’n bwysig, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc hwn ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu eich addasrwydd ar gyfer eich dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau. Cynhelir y rhain yn rhithiol ac ar y campws.

  • Ar ddechrau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn mynychu wythnos gynefino lle byddant yn derbyn gwybodaeth am eu rhaglen yn ogystal â’r gofynion asesu.

    Ni ddefnyddir arholiadau ar y rhaglen ac eithrio’r rhai a osodir yn allanol gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Gwin a Gwirodydd (WSET), sef cymhwyster ‘gwerth ychwanegol’.

    Gosodir gwaith cwrs (y brif strategaeth asesu) a thasgau ymarferol ar fformatau amrywiol, sy’n cynnwys:

    • Ymarferion ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau, sefyllfaoedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ati)
    • Cyflwyniadau
    • Cofnodion Dysgu — a gwblheir ar leoliad neu mewn sesiynau ymarferol mewnol
    • Prosiectau ymchwil
    • Mentora gan gymheiriaid
    • Beirniadaeth fideo
    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Asesiadau lleoliad profiad gwaith.
  • Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

    Gwneir pob ymdrech i gadw costau myfyrwyr mor isel â phosibl, ac fel arfer, caiff teithiau maes dewisol eu cynllunio ymhell ymlaen llaw. Mae’r ddisgyblaeth academaidd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr dalu mewn rhandaliadau misol.

    Gorfodol

    Cost offer – esgidiau diogelwch, dillad gwynion cogydd, cit offer cegin sylfaenol (gan gynnwys cyllyll): costau amcan o dan £300.

    Costau Angenrheidiol

    • Teithio i leoliad – gwneir pob ymdrech i leoli myfyrwyr o fewn pellter cymudo i’w cartref. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am eu costau teithio i leoliad.
    • Teithiau maes yn y DU – rhaid i’r myfyriwr dalu’r costau ac fe fyddant yn gysylltiedig â theithio a llety: maent yn debygol o fod yn llai na £100 y flwyddyn.

    Dewisol

    • Mae teithiau maes rhyngwladol yn ddewisol ac felly rhaid i’r myfyriwr dalu’r gost gyfan. Mae’r costau amcan yn debygol o fod yn llai na £750.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae cyflogadwyedd yn greiddiol i’r rhaglen.

    Yn ogystal â sgiliau sy’n benodol i fwytai a gastronomeg, mae gan y rhaglen fodylau sy’n ymgorffori sgiliau trosglwyddadwy, sef arloesi, delio â digwyddiadau annisgwyl, gwydnwch, menter a chyfrifoldeb personol, datrys problemau a chreadigrwydd, arfer adfyfyriol a datblygu meddylfryd mentrus.

    Ategir yr addysgu a arweinir gan arfer gan ddarlithoedd gwadd a theithiau maes rheolaidd i fwytai, cynhyrchwyr bwyd, marchnadoedd bwyd penodol, a chynhyrchwyr gwin a diodydd crefft.

    Hefyd, bydd dysgwyr yn cael cyfle i dderbyn arweiniad gyrfaol pwrpasol yn ogystal â sesiynau datblygu sgiliau i wella eu hyder, megis hyfforddiant LinkedIn i wella eu presenoldeb ar-lein, a ffug gyfweliadau.

Mwy o gyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth

Chwiliwch am gyrsiau